Mae canlyniadau’r Cyfrifiad diweddaraf mewn perthynas â’r Wyddeleg “yn gymysg oll i gyd”, yn ôl y mudiad Conradh na Gaeilge.
Yn ôl y mudiad, mae angen “cefnogaeth gyson, gref ac uchelgeisiol” os oes yna gynnydd sylweddol am fod yn nifer y siaradwyr cyn y Cyfrifiad nesaf yn 2031.
Mae’r Cyfrifiad yn mesur gallu pobol yn yr iaith Wyddeleg a’u defnydd ohoni, yng nghadarnleoedd y Gaeltacht a thu hwnt.
Roedd cynnydd o 6.01% yn nifer y bobol sydd â rhywfaint o Wyddeleg, i fyny o 1.76m yn 2016 i 1.87 erbyn hyn, ac mae’r ffigwr hwnnw’n cynnwys y rhai oedd heb ateb.
Mae’n golygu bod gan 40.4% rywfaint o Wyddeleg, i fyny o 39.8% yn 2016.
Ond mae llai o bobol yn defnyddio’r iaith bob dydd – o 73,803 yn 2016 i 71,968 erbyn hyn, sy’n ostyngiad o 2.55%, tra bod cwymp o 2.18% yn nifer y defnyddwyr bob wythnos.
Roedd cynnydd o 1,492 (2.3%) yn nifer y siaradwyr yn y Gaeltacht, ond cwymp o 1.6% yn nifer y defnyddwyr bob dydd.
Tra bod arwyddion calonogol yn Rhanbarthau Cynllunio Iaith y Gaeltacht, roedd y darlun yn fwy llwm yng ngweddill Iwerddon.
Ond roedd cynnydd yn nifer y siaradwyr yn y grwpiau oedran 15-24, 35-44, 45-54, 55-64 a thros 65.
‘Rhai canlyniadau sy’n peri gofid’
“Mae canlyniadau’r Cyfrifiad heddiw’n gymysg oll i gyd i’r iaith Wyddeleg a’r Gaeltacht, gyda rhai canlyniadau positif iawn a rhai canlyniadau sy’n peri gofid,” meddai Paula Melvin, cadeirydd Conradh na Gaeilge.
“Tra bod tuedd yn dangos bod y gymuned iaith Wyddeleg – y rheiny sydd â rhywfaint o Wyddeleg – yn tyfu drwyddi draw, mae tuedd amlwg iawn hefyd sy’n dangos bod y gymuned Wyddeleg, y sawl sy’n defnyddio’r Wyddeleg bob dydd neu bob wythnos yn y Gaeltach a thu hwnt, yn gostwng.
“Mae hynny’n peri gofid mawr i Conradh na Gaeilge.
“Mae’r cynnydd yn nifer y bobol ifanc sy’n siarad Gwyddeleg yn sicr yn un o’r agweddau mwyaf positif a chalonogol ar y canlyniadau.
“Ar y cyfan, mae’r ystadegau’n dangos i ni fod llawer iawn mwy o waith i’w wneud, a bod angen cefnogaeth barhaus ar yr iaith a’r Gaeltacht os ydyn nhw am dyfu a ffynnu.”