Mae Llŷr Gruffydd wedi dechrau ei rôl fel arweinydd dros dro Plaid Cymru heddiw (dydd Mercher, Mai 17), wedi i Adam Price gamu o’r neilltu.

Daw’r newid wedi i adroddiad ganfod methiannau yn arweinyddiaeth Adam Price wrth fynd i’r afael â honiadau o aflonyddu rhywiol a bwlio.

Ymhlith casgliadau’r adroddiad Prosiect Pawb gan y cyn-Aelod Seneddol Nerys Evans roedd y ffaith nad oes camau yn eu lle i sicrhau dull dim goddefgarwch tuag at aflonyddu rhywiol, a bod menywod wedi cael eu “gadael lawr” gan y blaid.

Roedd hefyd yn cyfeirio at achosion nad oedden nhw’n achosion unigol, a diwylliant o ofn wrth sôn am yr achosion hyn.

Cyhoeddodd Adam Price ei fod am ymddiswyddo wythnos yn ôl (dydd Mercher, Mai 10), a bydd Llŷr Gruffydd yn arwain y blaid am y tro nes bod arweinydd newydd yn ei le yn yr haf.

Fydd Llŷr Gruffydd, sy’n cynrychioli rhanbarth gogledd Cymru yn y Senedd, ddim yn sefyll i fod yn arweinydd parhaol y blaid.

‘Cyflymu newidiadau cadarnhaol’

Mewn e-bost at gyn-aelodau, dywed Llŷr Gruffydd ei fod yn “benderfynol o gyflymu’r newid cadarnhaol sydd ei angen”.

“Ymysg argyfwng costau byw y Ceidwadwyr a rhestrau aros yr NHS yn tyfu dan reolaeth Llafur, mae’n bwysicach nag erioed sicrhau Plaid Cymru gref sy’n gallu gweithio’n galed dros ein cymunedau,” meddai.

“Er mai byr fydd fy nghyfnod fel arweinydd dros dro, rwy’n benderfynol o gyflymu’r newid cadarnhaol sydd ei angen a gosod seiliau cadarn ar gyfer fy olynydd parhaol.”

Ar Twitter, rhannodd yr arweinydd dros dro y camau mae wedi’u cymryd ers iddo dderbyn cefnogaeth Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol Plaid Cymru i ddod i’r rôl.

“O dan fy arweinyddiaeth, bydd hwn yn gyfnod o fyfyrio, diwygio, ac adfywio yng ngoleuni canfyddiadau Prosiect Pawb,” meddai.

“Rydw i, ac arweinyddiaeth gyfan y Blaid, yn bwriadu mynd i’r afael â’r materion a nodir yn yr adroddiad ar frys, ac mae’r gwaith hwnnw eisoes ar y gweill.

“Mae’r wythnos hon yn rhoi cyfle i mi drafod yr adroddiad mewn manylder efo’r awdures Nerys Evans.

“Er mwyn parchu ei ganfyddiadau, rhaid i ni ddyblu ein hymdrechion i weithredu’r argymhellion yn llawn ac ar frys.”

‘Magu diwylliant cynhwysol’

Dywed Llŷr Gruffydd ei fod yn ddiolchgar i Brif Weithredwr y blaid am gytuno i gyflymu’r broses er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud cyn gynted â phosib.

“Wrth iddyn nhw adlewyrchu, byddaf yn cyfarfod efo Cynrychiolwyr adrannau Plaid Cymru,” meddai.

“Wrth wrando a dysgu byddwn yn magu diwylliant cynhwysol ac yn sicrhau ein bod yn adeiladu ar y berthynas rhwng grwpiau etholedig ac adrannau gwirfoddol.

“Mae lles ein staff yn hollbwysig, ac rwyf wedi sefydlu polisi drws-agored i ail-adeiladu diwylliant gwaith cadarnhaol.

“Ni fyddwn yn hunanfodlon ynghylch y gwaith o’n blaenau ac ni fyddwn ychwaith yn rhoi’r gorau i ddal llywodraethau Cymru a San Steffan i gyfrif tra’n sicrhau newid ystyrlon trwy weithredu polisïau Plaid Cymru drwy’r cytundeb Cydweithio.

“Wrth symud ymlaen yn unedig, gallwn osod seiliau newydd a chadarn gyda’n huchelgais heb ei bylu.

“Taith yw hon ond rydym yn glir yn ein cyfeiriad.”

Yr arweinydd nesaf?

Bydd enwebiadau i gymryd rhan yn y ras arweinyddol i ddod o hyd i olynydd parhaol i Adam Price ar agor tan Fehefin 16.

Hyd yn hyn, Rhun ap Iorwerth, yr Aelod dros Ynys Môn, yw’r unig un i ddweud ei fod yn ystyried ymgeisio.

Y llynedd, dywedodd ei fod yn bwriadu sefyll dros yr etholaeth yn San Steffan yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

O gael ei ethol i San Steffan, byddai’n rhaid iddo roi’r gorau i’w sedd yn y Senedd, a fyddai e ddim yn gallu arwain Plaid Cymru chwaith, gan fod rhaid i’r arweinydd ddod o grŵp y Senedd.

Daeth Rhun ap Iorwerth yn ail i Adam Price yn y ras arweinyddol ddiwethaf yn 2018.

Mae’r Llywydd Elin Jones, sy’n cynrychioli Ceredigion yn y Senedd, eisoes wedi dweud na fydd hi’n sefyll.