Bydd mwy o arian i atal llifogydd ym Mangor yn achub cannoedd o gartrefi, yn ôl Siân Gwenllian.

Daw sylwadau Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon fel rhan o Raglen Rheoli Perygl Llifogydd Llywodraeth Cymru.

Cafodd y cyhoeddiad am gynnydd mewn cyllid ei wneud gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’u Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.

O fewn y Rhaglen Rheoli Perygl ar gyfer Llifogydd ac Erydu Arfordirol 2023 i 2024 a gyhoeddwyd yn ddiweddar, mae £342,087 wedi ei glustnodi i Gynllun Amddiffyn rhag Llifogydd Hirael.

Yn ogystal â’r cyllid ar gyfer y rhan o Fangor sydd wedi wynebu llifogydd ers dros ganrif, mae buddsoddiad o £1,554,197 wedi’i gyhoeddi yng Ngwynedd yn ehangach.

‘Pobol gyffredin sydd wedi talu’r pris’

“Yn amlach na pheidio, pobol gyffredin sydd wedi talu’r pris am newid hinsawdd, ac mae’n hollbwysig ein bod ni’n lleddfu’r effeithiau ar fywydau pobol,” meddai Siân Gwenllian, Aelod Dynodedig Plaid Cymru yn y Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Cymru.

Buodd hi’n rhan o’r trafodaethau arweiniodd at y cyhoeddiad hwn.

“Dyna pam fy mod i’n falch iawn bod buddsoddiad o £214m wedi’i neilltuo i’n hamddiffyn rhag llifogydd ledled Cymru, o ganlyniad i Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru,” meddai.

“Ar sawl pwynt yn ei hanes, mae Hirael wedi dioddef o achos effaith lifogydd.

“Er bod gwaith wedi’i wneud i fynd i’r afael â gorlifo o Afon Adda, mae’n debyg y bydd cynnydd yn lefel y môr ac effaith hynny ar gymunedau arfordirol yn dod i’r amlwg dros y degawdau nesaf.

“Mae’n ddyletswydd ar lywodraeth i amddiffyn ei phobol rhag effeithiau newid hinsawdd a llifogydd, ac rwy’n falch bod pedwar prosiect arall wedi derbyn buddsoddiad o fewn fy etholaeth, yn y Groeslon, Dyffryn Gwyrfai, Dyffryn Ogwen ac yn Waunfawr.

“Unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau, bydd 198 o gartrefi yn Hirael yn unig yn elwa o’r buddsoddiad.

“Dyma enghraifft arall o newid go iawn, hirdymor sydd wedi’i sicrhau drwy gydweithio adeiladol rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru.

“Yn ôl yn 2019, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn Hirael, gelwais am atebion hirdymor i sicrhau bod ein cymunedau lleol yn cael eu hamddiffyn rhag bygythiad newid hinsawdd.”