Sylfaenydd SaySomethingInWelsh sy’n trafod sut mae ei gwireddu…
Mae yna bobol sydd ddim yn teimlo mor gadarnhaol ynglŷn â dyfodol yr iaith Gymraeg ag ydw i – rhai ohonyn nhw’n ffrindiau da i mi – a dw i’n deall eu pryderon. Ond dw i yn meddwl eu bod nhw’n anghywir! Dyma pam:
Oes, mae gennym ni broblemau. Pobol ifanc yn gadael ardaloedd gwledig, trosglwyddiad rhyng-genedlaethol, statws yr iaith, cyfleoedd cyfyngedig i weithio drwy Gymraeg, disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg ddim yn dod yn hyderus wrth sgwrsio yn Gymraeg, gwendidau economaidd mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith. Ond, dydyn nhw ond yn edrych yn beryglus (neu’n angheuol) i’r Gymraeg wrth edrych am yn ôl.
Mae yna fuddugoliaethau arwyddocaol wedi bod dros y can mlynedd diwethaf. Ond bu colledion parhaus hefyd, gostyngiad yn nifer siaradwyr, mwy a mwy o bobol mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith sydd ddim yn siarad Cymraeg.
Ac wrth edrych yn ôl a darogan yn seiliedig ar batrymau’r can mlynedd diwethaf, yr unig broffwydoliaeth yw bod y Gymraeg yn marw fel iaith gymunedol, naturiol. Fodd bynnag, dw i’n credu – yn ddwfn tu mewn i mi – mai dyma’r cyfeiriad anghywir i edrych iddo. Dw i’n credu ein bod ni ond yn edrych am yn ôl oherwydd nad ydyn ni cystal am adnabod eiliadau tyngedfennol a deall newid cyflym, sylweddol (fel dangosodd y pandemig).
Yn The Sun Also Rises mae un o gymeriadau Hemingway yn gofyn ‘How did you go bankrupt?’ ‘Two ways,’ ddaw’r ateb. ‘Gradually, then suddenly’.
Does dim rhaid i newid fod yn beth araf. Gall newid ddigwydd yn eithriadol o sydyn.
Felly, oes gennym ni sail i greu ein bod ni’n agos at yr eiliad dyngedfennol – at tipping point? Oes, dw i’n meddwl bod. Maen nhw’n ymwneud â thechnoleg (sy’n aml yn ddatblygiad sydyn) a straeon.
Mae Llywodraeth Cymru’n edrych yn ofalus, o ddifrif ac yn feddylgar ar sut mae Cymraeg yn cael ei dysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Dw i’n gwybod o fy ngwaith y gellir cyflymu’r broses o ddysgu iaith – mae’n ffaith niwrolegol.
Felly mae’n debygol y bydd unrhyw un sy’n chwilio o ddifrif am ffyrdd o wella’n dod o hyd iddyn nhw, yn hwyr neu’n hwyrach. A dw i wedi gweld sut mae dosbarthiadau’n ymateb wrth gael blas ar lwyddiant wrth ddysgu Cymraeg. Pe bai bob plentyn yng Nghymru’n gadael addysg yn gallu siarad Cymraeg a Saesneg yn hyderus, byddai’r holl gêm yn newid. Byddai popeth gymaint haws. Dw i’n credu, ar sail yr hyn dw i wedi’i weld mewn dosbarthiadau, bod hyn yn bosib yn y ddeng mlynedd nesaf.
Straeon
Dw i hefyd yn meddwl ein bod ni’n agos at yr eiliad dyngedfennol gyda straeon.
Mae Iaith ar Daith wedi bod yn esiampl anhygoel o hyn – mae’n dechrau teimlo fel rhywbeth arferol i bobol adnabyddus ddysgu Cymraeg. Ac mae pobol sy’n dysgu Cymraeg yn aml yn dod yn angerddol iawn dros yr iaith. Dw i’n meddwl y byddan ni’n gweld mwy a mwy o straeon cadarnhaol am yr iaith, mwy a mwy o hyder, mwy o amrywiaeth a chynwysoldeb a dathlu.
A bydd hynny’n creu cylch sy’n bwydo’i hun, fydd yn golygu bod mwy o werth i’r llwyddiant mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, a’i fod i’w groesawu fwyfwy. Mae mwy o straeon yn golygu mwy o gynnwys sy’n golygu mwy o hyder. A phan fedrwn ni ddechrau ffilmio yn Gymraeg a darlledu mewn sawl iaith arall, gallwn fynd â chreadigrwydd Cymru allan i’r byd. Pe baem ni’n gallu gwneud hynny’n llwyddiannus, byddem ni’n gallu creu mwy a mwy o gynnwys.
Mae hyn i gyd yn cryfhau’r cylch sy’n bwydo’i hun. Ac ar ryw bwynt, mae’n dod yn gynnydd sylweddol, eithriadol o sydyn. Mwy o siaradwyr Cymraeg mewn ysgolion, mwy o gynnwys Cymraeg, mwy o arian o ddweud straeon Cymraeg wrth y byd, mwy o hyder, mwy o ddysgwyr, mwy o lwyddiant mewn ysgolion…
Mae cymdeithas wirioneddol ddwyieithog o fewn ein cyrraedd. Ar ddiwrnod tawel (fel Arundhati Roy) dw i’n gallu’i chlywed hi’n anadlu.