Mae ymgyrchwyr ger y Senedd yng Nghaerdydd sy’n galw am ddeddf er lles natur “heb oedi” yn gosod strwythur pren saith troedfedd yn dangos ‘ymyl y dibyn’ i fyd natur.

Maen nhw wedi dod ynghyd heddiw (dydd Mercher, Mai 17) i ddangos i Lywodraeth Cymru fod ganddyn nhw ddau opsiwn – un sy’n arwain at Gymru sy’n ffynnu gyda byd natur wrth ei chalon, ac un sy’n arwain at ‘lwybr o ddiffyg gweithredu’ lle mae arch ddu yn cynrychioli diwedd rhywogaethau.

Yn ôl ymgyrchwyr, mae dirfawr angen deddfau newydd fel sydd ar waith yn Lloegr a’r Alban i warchod byd natur ac i sefydlu corff annibynnol i’w oruchwylio, a dyna sydd wedi ysgogi eu hymgyrch.

Daw eu hymgyrch wrth i Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, benderfynu’n fuan pa ddeddfau fydd yn dod i rym y flwyddyn nesaf ac mae ymgyrchwyr yn galw am Ddeddf Natur Bositif.

Mae 1,300 o unigolion wedi ysgrifennu ato’n gofyn iddo weithredu, tra bod 327 o sefydliadau wedi llofnodi llythyr agored.

Bioamrywiaeth

Yn ystod y brotest ger y Senedd, cafodd cân adar ei chwarae cyn areithiau gan y gwyddonydd ecolegol Dr Aaron Thierry ac arbenigwyr ym maes iechyd.

“Mae adroddiad diweddar yn dangos mai Cymru yw’r ddeuddegfed wlad waethaf yn y byd am gyfanrwydd bioamrywiaeth,” meddai.

“Pe bai bioamrywiaeth yn parhau i gael ei cholli, yna bydd yn dymchwel gydag ecosystemau a’r gwasanaethau maen nhw’n eu darparu.

“Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i weithredu ar y wybodaeth hon, maen nhw’n gallu gwneud ac fe ddylen nhw wneud er ein lles ni i gyd.

“Dydy hyn ddim yn newyddion newydd, ond dydyn ni ddim yn gweld gweithredu sy’n gymesur â’r argyfwng natur.”

Manteision natur i’n hiechyd

Siaradodd pobol broffesiynol ym maes iechyd am werth natur i gleifion a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Yn eu plith roedd y gyn-feddyg Dr Penny Owen, oedd wedi dweud y “gallai gwell fynediad at natur i’n cymunedau arbed cymaint â £2.1bn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol bob blwyddyn”.

“Mae hwn yn faes sydd wedi’i ymchwilio’n dda,” meddai.

“Yn ein dinas ein hunain, mae gennym ni o leiaf dri chynllun presgripsiwn cymdeithasol.

“Ond mae gennym ni ostyngiad parhaus yn nifer ac ansawdd y gofodau glas a gwyrdd y gall pobol gael mynediad atyn nhw o’u cartrefi.

“Pan fo natur yn ffynnu, rydyn ni’n ffynnu hefyd.”

Dywedodd cyfranogwyr yn y digwyddiad sut olwg fyddai ar Gymru Natur Bositif cyn cyrraedd ymyl y dibyn, yn eu tyb nhw, ac fe wnaethon nhw wahodd Aelodau o’r Senedd i ymuno â nhw i glywed mwy am eu gweledigaeth.

“Tuag at ba lwybr y byddwch chi’n ein harwain ni?” gofynnodd un arwydd o flaen y strwythur pren.

Argyfwng natur

Yn ôl David Kilner o Climate Cymru, mae’n rhaid i wleidyddion droi geiriau’n weithredoedd.

“Mae argyfwng natur wedi’i gyhoeddi,” meddai.

“Rydyn ni wedi cael addewidion gan wleidyddion yn dilyn yr uwchgynhadledd Bioamrywiaeth ryngwladol (COP15) y llynedd, ond rydyn ni hefyd wedi cael oedi wrth greu ein corff gwarchod amgylcheddol annibynnol ein hunain.

“Rhaid i’r geiriau hyn droi’n weithredoedd; gobeithio y bydd y Prif Weinidog am adael gwaddol bositif o ran natur cyn iddo gamu o’r neilltu, gan fod oedi pellach yn golygu ei bod hi’n bosib na fyddwn ni’n gallu adfer natur o’i dirywiad sylweddol.

“Er enghraifft, rydyn ni wedi gweld gostyngiad o 60% yn niferoedd y pryfed sy’n hedfan dros yr ugain mlynedd ddiwethaf.

“Mae dyfodol Natur Bositif er ein lles ni i gyd.

“Mae e er lles pob ffermwr sydd angen rheoli pla yn naturiol, er lles pob person sydd angen ein byd naturiol er eu lles eu hunain, pob afon allai ac a dylai fod yn llawn bywyd.”

Mae amcangyfrifon fod ein hafonydd yn werth £40bn i ni pan ydyn nhw’n iach.

Mae’r llythyr agored fydd yn cael ei gyflwyno i’r Senedd ar Fehefin 5 yn galw am gyfreithiau i warchod ac adfer natur, cyfiawnder amgylcheddol i bobol yng Nghymru, a chreu corff goruchwylio annibynnol.

Mae’r ymgyrchwyr yn galw ar y cyhoedd i ychwanegu eu llais cyn bod penderfyniad ar Fesur Natur Bositif.

Un undeb sy’n cefnogi’r mesur yw Cyngres yr Undebau Llafur, TUC Cymru.

“Mae ein gweithwyr a’n cymunedau oll yn ddibynnol ar natur ar gyfer bwyd, iechyd, diogelwch ac aer glân,” meddai Jo Rees, Swyddog Polisi’r undeb.

“Rhaid i ni weithredu ar natur nawr er lles ein cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol ac i helpu i gefnogi’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

“Dylai fod gan weithwyr lais allweddol wrth gynllunio a gweithredu tros adferiad natur, i wneud y mwyaf o gyfleoedd i greu swyddi newydd sy’n cynnig gwaith a hyfforddiant teg ar gyfer y sgiliau newydd fydd eu hangen.

“O’i wneud yn iawn, gall gweithredu er mwyn cefnogi natur helpu i wneud ein gweithleoedd a’n cymunedau’n llefydd gwyrddach, tecach ac iachach i fyw a gweithio ynddyn nhw.”

Gall unigolion ychwanegu eu llais at yr ymgyrch drwy fynd i /bitly.ws/BhfP, tra gall sefydliadau fynd i bitly.ws/CkCI.