Mae cannoedd o bobol yn ymgyrchu i sefydlu polisi ‘Gwyddeleg i bawb’ ym myd addysg, ac mae miloedd yn rhagor yn eu cefnogi.

Mae pobol wedi bod yn postio lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol ohonyn nhw eu hunain â thâp coch dros eu cegau, er mwyn pwyso ar y Gweinidog Addysg Norma Foley a phleidiau gwleidyddol Fianna Fáil ac Adran Addysg i gyflwyno polisi cynhwysfawr ar gyfer yr iaith Wyddeleg o’r blynyddoedd cynnar hyd at y drydedd lefel.

Ymhlith y rhai fu’n postio ar y cyfryngau cymdeithasol roedd dylanwadwyr, myfyrwyr a disgyblion, athrawon, rhieni, grwpiau addysg, sefydliadau Gwyddeleg ac aelodau’r cyhoedd.

Yn ôl Róisín Ní Chinnéide, llefarydd yr ymgyrch #Gaeilge4All, nod yr ymgyrch yw “rhoi profiad dysgu iaith Wyddeleg boddhaol i bob disgybl yn y system addysg”.

“Fel cam cyntaf i’r cyfeiriad hwn, rydym yn galw ar yr Adran Addysg i roi pwyllgor ymroddedig ar waith ar unwaith, gydag aelodau sy’n deall ac sydd â phrofiad o’r Wyddeleg yn y system addysg, i ddatblygu’r polisi hwn,” meddai.

‘Cariad at iaith’

“Mae gen i gariad enfawr at yr iaith Wyddeleg, ac mae’r system addysg yn chwarae rhan allweddol wrth greu’r genhedlaeth nesaf o siaradwyr fydd yn mynd yn eu blaenau i garu’r iaith hefyd,” meddai Éadaoin Fitzmaurice, Cynhyrchydd Digidol a sylfaenydd FIA Digital.

“Mae angen i ni wneud popeth i sicrhau bod y system yn helpu myfyrwyr i gaffael yr iaith, ac nid eu troi nhw i ffwrdd oddi wrthi.

“All hyn ddim cael ei wneud heb newidiadau mawr i’r system – mae angen #Gaeilge4All nawr!”

‘Rhwystredig’

Dywed Alannah Ní Riada, myfyrwraig yn Gael-Choláiste Chill Dara, fod yr iaith Wyddeleg o fewn y system addysg yn gwneud iddi deimlo’n “rhwystredig”.

“Does dim arholiad llafar ar gyfer y Dystysgrif Iau,” meddai.

“Mae’r amser i addysgu Gwyddeleg mewn ysgolion cynradd am gael ei leihau gan 30 munud o’r dosbarth cyntaf i’r chweched dosbarth.

“Does dim gofynion boddhaol o ran yr iaith Wyddeleg ar gyfer y dystysgrif iau na’r Dystysgrif Ymadael.

“Dw i ddim yn gweld bod gan yr Adran unrhyw weledigaeth na chynllun i ddatrys y materion hyn na materion eraill.

“Oni fyddai’n well caniatáu i arbenigwyr, sy’n deall yr iaith Wyddeleg yn y system addysg, ddatblygu’r polisi sy’n cael ei gynnig gan yr ymgyrch #Gaeilge4All?”

Galw am weithredu

Daeth addewid i sefydlu polisi ar gyfer yr iaith Wyddeleg yn y system addysg fel rhan o’r Rhaglen Lywodraeth, ac roedd yn rhan o ymrwymiadau Fianna Fáil yn etholiad cyffredinol 2020.

Mae’r ymgyrch #Gaeilge4All yn galw ar Norma Foley, y Gweinidog Addysg, i weithredu ac i gymryd y camau canlynol:

  • bod pob disgybl yn y system addysg yn cael profiad dysgu boddhaol o ran yr iaith Wyddeleg
  • sefydlu polisi ar gyfer yr iaith Wyddeleg yn y system addysg – o’r Blynyddoedd Cynnar hyd at y Drydedd Lefel – yn cael ei ddatblygu er mwyn sicrhau’r profiad boddhaol hwn i fyfyrwyr
  • sefydlu pwyllgor gwaith o arbenigwyr ymroddedig ar unwaith, gydag aelodau sy’n deall ac sydd â phrofiad o’r iaith Wyddeleg yn y system addysg, er mwyn datblygu’r polisi hwn