Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol feithrinfa goed newydd yn Eryri i dyfu coed Cymreig brodorol sy’n brin a dan fygythiad.

Bydd y coed yn cael eu tyfu o hadau lleol er mwyn gwella gwytnwch coetiroedd i afiechyd ac effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Bydd y feithrinfa yn helpu i amddiffyn ac adfer coedwigoedd glaw Celtaidd gwerthfawr.

Mae coedwigoedd glaw Celtaidd yn gynefinoedd hynod brin, sy’n cynrychioli ffracsiwn o’u hehangder gwreiddiol, ac sydd bellach yn cwmpasu llai nag 1% o dirwedd gwledydd Prydain.

Bydd meithrinfeydd coed eraill gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i ddilyn, yn Holnicote a Mount Stewart, er mwyn rhoi hwb i nod yr elusen o blannu ugain miliwn o goed erbyn 2030.

Y feithrinfa newydd yn Eryri

Y feithrinfa newydd yn Eryri – sy’n cael ei rhedeg gan y Prif Geidwad David Smith, y Ceidwad Hattie Jones, a thîm gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru – yw’r gyntaf ar y raddfa hon i fod dan ofal yr elusen gadwraeth ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae’r elusen yn gofalu am 58,000 erw (23,471 hectar) o dir yn Eryri, a chaiff y coed sy’n cael eu tyfu yn y feithrinfa eu dosbarthu’n ofalus i leoliadau dethol yn yr ardal i adnewyddu a sicrhau dyfodol iechyd y coetiroedd yn y rhanbarth.

Mae’r feithrinfa’n bwriadu tyfu 30,000 o goed y flwyddyn, ac mae llawer o’r coed ifanc yn rhywogaethau brodorol prin a dan fygythiad, yn cynnwys y Boplysen Ddu, y goeden bren sydd fwyaf dan fygythiad ym Mhrydain oherwydd ei chyfansoddiad genetig cul

Cafodd rhywogaethau eraill sy’n cael eu tyfu yn y feithrinfa, megis yr oestrwydden, eu dewis er mwyn annog gwytnwch coetiroedd i effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Bydd y mathau hyn wedi addasu’n well i amodau cynhesach na’r rhai o hinsawdd bresennol Eryri, ac maen nhw hefyd yn gallu lliniaru effaith lladdwr yr ynn drwy gefnogi bywyd gwyll gan gynnwys llysiau’r afu, ffyngau ac infertebratau fel chwilod sydd fel arfer yn dibynnu goed ynn.

Y coed

Mae angen plannu’r coed cywir yn y llefydd cywir i sicrhau rhywogaethau’r dyfodol, yn ôl David Smith.

“Mae ein ffocws ar blannu’r goeden gywir yn y man cywir,” meddai wrth golwg360.

“Mae’r feithrinfa’n gyfle cyffrous iawn i dyfu’r holl goed sydd eu hangen yn Eryri, a gwneud gwahaniaeth parhaus i’r coetiroedd lleol hyn lle bydd y coed newydd yn tyfu am filoedd o flynyddoedd, gan ddarparu cynefinoedd i lawer o wahanol rywogaethau fel teloriaid, gwyfynod, ystlumod a dyfrgwn.

Fel mae’r enw’n awgrymu, mae’n rhaid cael amodau tyfu priodol fel sydd yn y gwledydd Celtaidd i’r coedwigoedd Celtaidd dyfu.

“Mae’r coedwigoedd Celtaidd yna, coedwigoedd glaw, yn tyfu ar ymylon Prydain yn Iwerddon, Cymru, Cernyw a’r Alban, gorllewin y wlad lle mae hi’n wlyb.

“Mae hi’n damp ofnadwy fel rydym yn gwybod, ac mae llawer o law yma.

“Mae’n mynd yn ofnadwy o oer, felly mae’r tymheredd yn aros yn eithaf cyson.

“Mae’r pethau sy’n byw yn y coed yn hoff o’r conditions yna.

“Y coed sy’n tyfu yn y llefydd yma, maen nhw’n goed sy’n tyfu ar briddoedd gwael iawn.”

Torri coed

Mae llawer o’r coed yn rhai prin oherwydd eu bod nhw wedi cael eu torri’n ormodol, a dim ond “mymryn bach” o’r coedlannau sydd ar ôl, yn ôl David Smith.

“Bysa wedi bod dros Orllewin Prydain ac Iwerddon, drostyn nhw i gyd yn y gorffennol, felly fesul dipyn rydym wedi bod yn eu torri nhw i lawr ac rydym wedi bod yn eu torri nhw’n galed efo defaid a gwartheg,” meddai.

“Fesul dipyn maen nhw wedi diflannu.

“Dim ond y darnau bach sydd gennym ni ar ôl.”

Mae mwsog a chen ymhlith y coed sy’n tyfu ac yn byw yn y coedwigoedd Celtaidd.

“Mae yna filoedd o wahanol fathau o mwsog a chen, mae llawer iawn ohonyn nhw ddim ond yn byw yn y coedwigoedd glaw yma.

“Rheini ydy’r pethau mwyaf prin.

“Mae ambell un ohonyn nhw ddim ond i’w ffeindio ar un neu ddau safle, rheini ydy’r pethau pwysicaf mewn ffordd.”

Tir heb lawer o bridd

Gall ansawdd gwael y pridd gael effaith ar dyfiant rhai o’r coed prin, fel yr eglura David Smith.

“Maen nhw’n briddoedd asidig, creigiog, dim llawer o bridd,” meddai wedyn.

“Beth rydym yn cael yw derw a brudw.

“Hefyd, ryw ychydig o goed ceill mewn llefydd gwlypach.

“Os mae yna ryw ychydig bach o faeth yn y tir mewn mannau rydym yn cael coed ynn.”

Felly mae bygythiad difrifol i’r coedwigoedd Celtaidd, fel yr eglura.

“Un o’r bygythiadau mwyaf eraill i’r coedlannau yma ydy’r rhywogaethau ymledol, fel Japanese Knotweed.

“Rydym yn gwario llawer o amser yn difa’r rhywogaethau ymledol er mwyn i’r mwsog ac yn y blaen allu bodoli.”

Pori

Ar dir pori, mae’n rhaid cael hyd i’r cydbwysedd rhwng pori ddigon a pheidio pori’n ormodol.

“Os mae’r coedlannau yn cael eu pori yn ormodol, mae’r coed bach sydd yn tyfu yn y coed yn cael eu pori allan,” meddai David Smith.

“Mae’r coed hŷn, wrth fynd yn hŷn, yn disgyn drosodd. Does dim byd i gymryd eu lle.

“Maen nhw wedi degrade-io yn ofnadwy.

“Yr unig beth rydych yn cael ydy coed hen efo gwair, does dim mwsog a chen, does dim lle.

“Os dych chi ddim yn pori o gwbl, mae’r lle’n cael ei dagu gan fieri a choed celyn, ac eto mae hwnna’n cael effaith drwg ar y mwsog a chen.

“Mae yna waith cael y pori’n iawn.

“Mae angen bod yn sympathetig efo’r pori.”

Hadau o’r coedlannau

I helpu’r lledaenu, mae hadau sydd wedi’u hel o’r coedlannau yn unig yn cael eu plannu.

“Efo’r feithrinfa, rydym yn tyfu’r coed o’r hadau rydym wedi’u hel o’r coedlannau,” meddai David Smith.

“Dydyn ni ddim yn prynu dim byd fewn o’r tu allan.

“Mae’r plannu’n gallu cymryd ei le mewn llefydd newydd i ehangu’r coed, i gael mwy o goed.

“Os ydym yn cael y pori yn iawn, daw’r coed eu hunain yn y coedwigoedd yma.

“Mae’r plannu dim ond i gyflymu pethau i helpu lledaenu i gael mwy o le i’r coed.”

Diffyg lle

Dim ond hyn a hyn o dir sy’n gallu cael ei ddefnyddio i dyfu coed, ac mae David Smith yn dweud eu bod nhw’n gwneud cymaint â phosib ar hyn o bryd.

“Dim ond hyn a hyn o goed fedrwn ni dyfu,” meddai.

“Dim ond hyn a hyn o dir sydd, lle fedrwn ni dyfu.

“Mae’r rhan fwyaf o’r tir yn cael ei ffarmio.

“Yn amlwg maen nhw’n rhedeg busnes, maen nhw mewn schemes glastir.

“Mae’r ffermwyr yn aml iawn wedi cael eu clymu.

“Rydym yn gobeithio efo scheme subsidies newydd ar ôl Brexit y bydd yna fwy o gyfle i ni blannu mwy o goed.”

Hadau brodorol

Wrth dyfu o hadau sydd wedi’u casglu’n lleol, mae’r coed yn fwy bioddiogel a gwydn rhag afiechydon penodol i’r ardal na chymheiriaid sydd wedi’u mewnforio, gan fod ar yr un pryd wedi addasu’n dda yn gynhenid i hinsawdd unigryw Eryri, sy’n cynnwys un o ddarnau olaf y goedwig law Geltaidd neu dymherus yn y Deyrnas Unedig.

“Mae coedwigoedd Celtaidd neu dymherus yn rhan werthfawr o dirwedd Eryri,” meddai David Smith.

“Mae’n bwysig defnyddio ein coed lleol sydd eisoes yn addas iawn i’r hinsawdd hynod laith hon er mwyn adfer y cynefin arbennig hwn a fu’n dirywio ers tro, ac i gysylltu â darnau eraill o’r goedwig law dymherus.

“Yn y tymor hir, bydd hyn nid yn unig yn cynnig ystod o fuddion i’r dirwedd, ond hefyd yn ein galluogi i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a wynebwn drwy dyfu a phlannu coed a fydd yn amsugno carbon am flynyddoedd ar flynyddoedd i ddod.”

Y dechrau gorau posib

Caiff coed y feithrinfa eu tyfu mewn celloedd neu gynwysyddion o wahanol feintiau am bedair blynedd cyn eu plannu yn yr awyr agored, gan gynhyrchu glaswydd mwy na’r rhai mae modd eu prynu o siopau cyfanwerthu.

Mae hyn yn sicrhau’r dechrau gorau posib i’r coed ifainc, gan wella eu siawns o sefydlu eu hunain yn llwyddiannus fel ag y maen nhw, a’u gwneud nhw’n fwy gwydn ar yr un pryd rhag amodau sych.

Mae coed sydd wedi’u tyfu yn y feithrinfa eisoes wedi’u plannu ar dirwedd cyfagos Eryri, gan gynnwys Hafod Garegog, ger Porthmadog.

Mae’r gwely môr adferedig, oedd yn arfer cael ei orchuddio mewn brwyn ac yn dueddol o fod mewn perygl o lifogydd, bellach yn tyfu glaswydd brodorol fydd yn dod â hwb mawr ei angen i fywyd gwyllt yn ogystal ag annog amrywiaeth eang o blanhigion i dyfu.

Mae’r coed newydd ar ffin Coedwig Law Geltaidd Hafod Garegog, safle sy’n rhyngwladol bwysig oherwydd ei amrywiaeth o fwsoglau, cennau a llysiau’r afu, y mae llawer ohonyn nhw ond i’w cael yng Nghymru.

Bydd cysylltu’r coetiroedd yn dod â chynefinoedd bywyd gwyllt yn eu blaenau, ac yn eu cyfoethogi.

Yn ogystal, bydd y gwahanol rywogaethau ac aeddfedrwydd y coed yn helpu’r coetir ehangach i ddod yn fwy gwydn i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.