Canolfan wyddoniaeth yng Ngogledd Cymru yw Xplore! Ac maen nhw ar hyn o bryd yn gweithio gyda swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i gael y Cynnig Cymraeg. Mae’r ganolfan yn cynnig gweithgareddau gwyddoniaeth, gweithgareddau fforio ac atyniadau hwyl.

Isod, mae Katie Williams, Swyddog Datblygu Busnes yn Xplore!, yn trafod y broses o fynd am y Cynnig Cymraeg.


Mae defnyddio’r Gymraeg yn bwysig i Xplore! gan ein bod yn cydnabod ei fod yn rhan gynyddol bwysig o ddiwylliant a hunaniaeth Wrecsam fel dinas newydd a chymuned hanesyddol Gymraeg. Mae’n bwysig ein bod yn cyfathrebu yn iaith ddewisol person a sicrhau ein bod yn cynrychioli pob rhan o’n cymuned leol yn deg.

Mae’n arbennig o bwysig i ni fel elusen addysgol fod ein buddiolwyr, gan gynnwys dysgwyr ifanc, yn gallu derbyn gwasanaeth yn y Gymraeg a chlywed a phrofi terminoleg wyddonol yn ei chyd-destun. Bydd hyn yn helpu’r iaith i flodeuo a thyfu gan mai prin yw’r cyfleoedd i brofi’r Gymraeg trwy gyfrwng gwyddoniaeth y tu allan i addysg ffurfiol.

Bydd yn ein helpu i ddangos i’r gymuned leol ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth i bobol Cymru, gyda chynnig trwy gyfrwng y Gymraeg yn rhan annatod a chynhenid ohoni. Bydd hefyd yn rhoi cydnabyddiaeth i’r staff am eu gwaith caled ac yn hwb i’w cymhelliant i barhau i ddatblygu eu sgiliau a hybu’r Gymraeg.

Gobeithiwn y bydd yn meithrin lefel newydd o falchder yn y sefydliad. Drwy weithio ar ein Cynnig Cymraeg, mae’r iaith yn dod yn rhan o’n diwylliant mewnol.

Ein cyngor i eraill fyddai peidio ag oedi ac i ddechrau arni. Gall rhywun gyflawni cryn dipyn mewn amser cymharol fyr. Byddem hefyd yn dweud bod hunanfyfyrio gonest yn allweddol – nid yn unig y byddwch yn darganfod meysydd i’w datblygu ond hefyd yn tynnu sylw at yr hyn yr ydych eisoes yn ei wneud y gallwch fod yn falch ohono.

  • Gallwch gael mwy o wybodaeth am y Cynnig Cymraeg drwy ymweld â gwefan Comisiynydd y Gymraeg.

Cynnig Cymraeg Ramblers Cymru

Brân Devey

Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Ramblers Cymru sy’n trafod pwysigrwydd y Cynnig Cymraeg i’w gwaith

Banc Bwyd Arfon – y Gymraeg wrth galon y gwaith

Joanna Hillier

Cynorthwyydd Rhaglen Banc Bwyd Arfon, sy’n trafod pwysigrwydd y Cynnig Cymraeg i’w gwaith

Beth yw nod y Cynnig Cymraeg?

Efa Gruffudd Jones

Comisiynydd y Gymraeg sy’n egluro mwy