Bydd digwyddiad sy’n cael ei drefnu gan Hwb Affrica Cymru’n gyfle i glywed lleisiau’r rhai sy’n cael eu clywed anamlaf wrth ystyried yr hinsawdd, yn ôl Dirprwy Gyfarwyddwr yr elusen Maint Cymru.

Fe fydd Uwchgynhadledd Undod Byd-eang yn cael ei chynnal yn Nhrefforest yr wythnos nesaf (dydd Mawrth, Mai 23), a bydd Barbara Davies-Quy yn arwain sesiwn ar hawliau tir pobol frodorol.

Er bod pobol frodorol dros y byd ond yn cyfrif am 5% o boblogaeth y byd, maen nhw’n gyfrifol am warchod 80% o fioamrywiaeth y byd hefyd.

Mae gan fenywod, yn arbennig, y wybodaeth draddodiadol ynglŷn â sut i warchod tiroedd, bioamrywiaeth, planhigion ac ati, yn ôl Barbara Davies-Quy.

Brwydr yr Ogiek

Bydd Phoebe Ndiema, sy’n dod o Mt.Elgon yng ngorllewin Cenia ac sy’n rhan o gymuned frodorol Ogiek, yn cyfrannu at y sesiwn hefyd.

Ar hyn o bryd, mae hi’n gweithio i sefydliad cymunedol Chepkitale Indigenous People Development Project er mwyn ceisio sicrhau hawliau tir, hawliau amgylcheddol a hawliau dynol yr Ogiek.

Y llynedd, enillodd yr Ogiek frwydr gyfreithiol yn erbyn Cyngor Sirol Mt. Elgon ac awdurdodau Cenia oedd am droi rhan o’u tir yn ardal gadwraeth hela ac wedi eu gyrru nhw oddi yno.

Er eu bod nhw wedi cael eu troi allan, ac wedi derbyn bygythiadau ac ymosodiadau cyson ers dros ugain mlynedd, fe wnaeth yr Ogiek ddychwelyd yno i fyw a thrin y tir tra’r oedden nhw’n aros am ddyfarniad Uchel Lys Cenia.

Cafodd dyfarniad ei gyhoeddi fod troi eu tir yn ardal gadwraeth yn anghyfreithlon, ac y dylid ei adfer yn ôl i’w bwrpas gwreiddiol ac i feddiant yr Ogiek.

“O edrych ar gyd-destun byd-eang, mewn gwledydd lle mae gan bobol frodorol hawliau tir, yna rydych chi’n gwybod bod eu coedwigoedd yn cael eu gwarchod yn well,” meddai Barbara Davies-Quy wrth golwg360.

“Mae tystiolaeth gref i ddangos bod mwy o’r ardal wedi’i gorchuddio â choed, gwell bioamrywiaeth.

“Nhw yw gwarchodwyr rhannau mwyaf gwerthfawr y byd, yn enwedig menywod brodorol sy’n aml â’r wybodaeth draddodiadol ynglŷn â sut i edrych ar ôl planhigion.”

Phoebe Ndiema

Rôl menywod

Fe wnaeth menywod chwarae “rhan allweddol” er mwyn ceisio adennill y tir, meddai Barbara Davies-Quy, sy’n dweud bod Maint Cymru, sy’n gwarchod a phlannu coedwigoedd ar y cyd â chymunedau brodorol a lleol, wedi cyfrannu’n ariannol at yr her gyfreithiol.

“Un o’r darnau o dystiolaeth oedd o’u plaid nhw – er eu bod nhw ddim yn cael bod ar rannau o’r tir a’u bod nhw wedi cael eu gyrru oddi yno mewn ffordd frwnt iawn, cafodd eu tai eu llosgi a chafodd aelodau o’r gymuned eu curo gan awdurdodau Cenia, mae nifer yr eliffantod yn yr ardaloedd lle maen nhw dal yn byw ynddyn nhw a lle mae coed yn llawer uwch.

“Mae’r anifeiliaid yn ymddiried yn y bobol frodorol ac yn ymgasglu yn y llefydd lle maen nhw.”

Ar hyn o bryd, mae’r menywod wrthi’n dysgu sut i ddefnyddio system fonitro a mapio, er mwyn creu map digidol o’u tiriogaeth.

“Mae’r menywod yn gwybod lle mae’r dŵr, planhigion meddyginiaethol – mae sawl cyffur i drin canser yn dod o blanhigion sydd mewn coedwigoedd trofannol,” meddai wedyn.

“Mae’r menywod yn enwedig yn gwybod pa blanhigion sy’n dda i drin pa afiechyd.

“Maen nhw hefyd wedi bod yn gweithio gyda menywod mewn yng ngwledydd eraill Affrica, i’r de o’r Sahara, yn siarad am hawliau menywod brodorol.”

Ar hyn o bryd, mae Maint Cymru’n gweithio gyda chymunedau ym Mheriw, Brasil, Wganda, Cenia, Malaysia, Indonesia a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo ar brosiectau i blannu a gwarchod coedwigoedd.

“Rydyn ni’n gweithio gyda phobol frodorol yn benodol oherwydd ein bod ni’n gwybod mai nhw yw gwarcheidwaid gorau’r goedwig, ac mae cyfraddau datgoedwigo dipyn is ar eu tiriogaeth nhw,” meddai Barbara Davies-Quy.

“Mae gennym ni darged i helpu cymunedau i blannu pum miliwn ar hugain o goed erbyn 2025, rydyn ni dros filiwn ar hugain nawr felly rydyn ni ar y trywydd cywir i’w gyrraedd erbyn 2025.”

Cyfrifoldebau

Heb os, mae gan lywodraethau gyfrifoldeb i sicrhau hawliau pobol frodorol i’w tiroedd, meddai Barbara Davies-Quy, cyn ychwanegu bod gan bobol yng Nghymru rôl i’w chwarae hefyd.

“Rydyn ni’n gweithio gyda’r Guarani a’r Yanomani ym Mrasil, ac mae’r Guarani wedi cael eu gorfodi oddi ar eu tir er mwyn cael y soya.

“Mae’r soya yna’n cael ei fewnforio i Gymru er mwyn ei ddefnyddio mewn porthiant anifeiliaid.

“Mae gennym ni i gyd gyfrifoldeb i wirio bod y cynnyrch rydyn ni’n eu prynu yma yng Nghymru heb achosi camdriniaeth hawliau dynol dramor, a heb achosi i bobol gael eu dadleoli.

“Ym Mrasil hefyd, mae yna gymunedau wedi cael eu dadleoli er mwyn cloddio’n anghyfreithlon am aur. Pa wiriadau ydyn ni’n eu gwneud ar y gemwaith rydyn ni’n eu prynu?

“Mae yna lwyth o weithredu ar newid hinsawdd, ond dim ond 1% o’r arian yna sy’n mynd i bobol frodorol. Rydyn ni’n trio rhoi arian i gymunedau brodorol.

“Nhw ydy gwarchodwyr gorau ein coedwigoedd trofannol, a dylai’r arian fynd iddyn nhw. Maen nhw’n gwybod sut i edrych ar ôl y coedwigoedd hyn a gwarchod eu tir, ond dydyn nhw ddim yn cael yr adnoddau i wneud hynny.

“Be’ fedran ni fel elusen ei wneud ydy adleisio’r neges honno ar lefel ryngwladol a sicrhau bod gan bobol frodorol sedd wrth eu bwrdd, a bod hawliau’n cael eu cynnal yn fyd-eang.”

Mae Uwchgynhadledd Undod Byd-eang Hwb Affrica-Cymru’n gyfle i bobol fel Phoebe Ndiema rannu eu straeon, meddai.

“Rhain yw’r bobol sydd â’r atebion i’r broblem sy’n ein hwynebu, ond sy’n cael eu clywed anamlaf.”