Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi mynegi “pryder mawr” ar ôl i gwmni bwyd Tillery Valley Foods yn Abertyleri fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.
Mae’r cwmni’n cyflogi 250 o staff, ac mae’r gweinyddwyr yn dweud y byddan nhw’n cadw 24 ohonyn nhw er mwyn helpu i gau’r safle.
Ond bydd 250 o swyddi’n cael eu colli.
Maen nhw’n cyflenwi nwyddau i’r meysydd addysg, gofal iechyd ac awdurdodau lleol.
Dywed y perchnogion Joubere eu bod nhw’n “torri’u calonnau”.
‘Piler y gymuned’
“Fe fu’n bryder mawr clywed y newyddion fod piler y gymuned yn Abertyleri bellach yn nwylo’r gweinyddwyr,” meddai Paul Davies, llefarydd economi’r Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae Tillery Valley Foods, un o’r cyflogwyr mwyaf yn Abertyleri lle mae mwy na 250 o swyddi wedi’u colli yn yr ardal, gyda rhai wedi’u cyflogi ers 30 mlynedd, yn golled enfawr i’r gymuned.
“Bydd colli’r swyddi hyn yn cael effaith sylweddol ar yr economi leol a bywydau teuluoedd y gweithwyr.
“Mae’r sgil effeithiau’n mynd yn ehangach, a dw i’n gwybod am un cwmni yn ne Cymru sy’n darparu deunyddiau i Tillery Valley Foods, sydd ar hyn o bryd yn storio gwerth £200,000 o ddeunyddiau, gydag ychydig iawn o obaith o adfer y swm nawr fod y broses weinyddu ar y gweill.
“Mae hyn yn dangos bod gan hyn y potensial i effeithio’r gymuned fusnes ehangach yng Nghymru.”
‘Trychinebus’
Mae’r sefyllfa’n “drychinebus i dref Abertyleri a’r cymunedau cyfagos”, yn ôl Peredur Owen Griffiths, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd.
“Mae’r cwmni wedi bod yn gyflogwr da ers degawdau a bydd yn anodd ei ddisodli,” meddai.
“Mae fy swyddfa wedi bod mewn cysylltiad â phobol a gyflogir a chlywed bod llawer o bobol yn cerdded i’r gwaith ac heb fathau eraill o drafnidiaeth, sy’n golygu y byddant yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i waith arall.
“Yn y Senedd, galwais ar Weinidog yr Economi i wneud popeth o fewn ei allu i geisio cadw’r ffatri hon ar agor ond, er gwaethaf misoedd o drafodaethau gyda pherchnogion y cwmni, mae’n ymddangos bod yr ymdrechion hynny wedi bod yn ofer.
“Byddaf nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi’r gweithwyr y mae’r penderfyniad hwn yn effeithio arnynt ac i archwilio unrhyw bosibilrwydd o gynnal presenoldeb gweithgynhyrchu bwyd ar safle Tillery Valley Foods.
“Mae’r gweithlu medrus, gyda degawdau o brofiad, eisoes yno. Byddai’r gweithwyr hyn yn asedau i unrhyw gwmni arall sy’n dymuno eu cyflogi.
“Mae problem ehangach wrth law a hynny yw bregusrwydd cwmnïau cynhyrchu bwyd yng Nghymru. Tillery Valley Foods yw’r diweddaraf mewn nifer o ffatrïoedd sydd wedi cau yng Nghymru.
“Mae angen i’r Llywodraeth yng Nghymru fod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi’r sector hwn oherwydd ei fod yn dioddef costau cynyddol ynni a chost gynyddol deunyddiau crai.
“Mae miloedd o bobol yn cael eu cyflogi yn y sector hwn a ni allwn fforddio colli mwy o swyddi.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Bydd y newyddion hynod siomedig hwn yn ergyd fawr i weithlu mor ymroddedig, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Rydym wedi gweithio’n ddwys gyda’r tîm rheoli lleol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent drwy gydol yr wythnos ddiwethaf i archwilio opsiynau ar gyfer pryniant gan reolwyr.
“Cyfarfu Gweinidog yr Economi â’r tîm ac undeb y ffatri sawl gwaith yn ystod y cyfnod hwnnw i geisio datrysiad.
“Helpodd ymdrechion diflino’r tîm prynu allan rheoli lleol i ddangos bod busnes hyfyw yn obaith gwirioneddol ar y safle ac rydym yn parhau i ystyried sut y gellid datblygu hyn ymhellach, er gwaethaf y newyddion heddiw, er mwyn sicrhau busnes llwyddiannus yn y tymor hir.
“Mae’n destun gofid mawr nad oedd arweinyddiaeth y cwmni sy’n gadael yn darparu’r didwylledd a’r tryloywder angenrheidiol i ganiatáu i’r amser angenrheidiol i gynllun busnes cryf gael ei ddatblygu.
“Dros gyfnod o fisoedd, rydym wedi ceisio gwybodaeth dro ar ôl tro gan arweinyddiaeth y busnes sy’n gadael i helpu i atal y canlyniad hwn a datblygu opsiynau amgen.
“Yn anffodus, nid yw’r wybodaeth wedi’i chyflwyno mewn modd clir ac amserol.
“Byddwn nawr yn sefydlu tasglu brys ochr yn ochr â’r awdurdod lleol, Undeb Cymunedol, cynrychiolwyr etholedig lleol a’r APG (DWP).
“Bydd hyn yn cynnwys cefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Gyrfa Cymru a’r rhaglen ReAct, gyda phecynnau cymorth wedi’u teilwra wedi’u cynllunio i helpu’r gweithlu i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith newydd.”