Mae sawl corff chwaraeon yn Awstralia’n cefnogi cynnig i gydnabod pobol frodorol y wlad yn gyfansoddiadol mewn refferendwm.
Daw hyn wrth i bolau piniwn ddangos bod llai o gefnogaeth i gynnig y llywodraeth ymhlith y cyhoedd ar y cyfan erbyn hyn.
Mewn datganiad, dywedodd corff Rugby Austrlia fod y refferendwm “yn gystadleuaeth rhy bwysig i’w gwylio mewn tawelwch”, a bod “rhaid cymryd pob cyfle i gau’r bwlch sy’n gwahanu cynifer ohonon ni”.
Mae’r AFL, y corff sy’n gyfrifol am bêl-droed Awstralaidd – neu Aussie Rules Football – hefyd wedi datgan eu cefnogaeth.
Tra eu bod nhw’n annog pobol i ffurfio’u barn eu hunain, maen nhw’n dweud eu bod nhw’n cefnogi cydnabod pobol frodorol.
Bydd gofyn i drigolion Awstralia fwrw eu pleidlais mewn refferendwm, sy’n debygol o gael ei gynnal rhwng Hydref a Rhagfyr, pan fyddan nhw’n cael eu holi a ydyn nhw eisiau newid y cyfansoddiad fel ei fod yn cynnwys “Llais i’r Senedd”, sef pwyllgor fydd yn gallu cynghori’r rhai sy’n llunio deddfau ar faterion sy’n effeithio ar fywydau pobol frodorol.
Mae’r Aborijini yn cyfrif am ryw 3.2% o boblogaeth Awstralia, ond cawson nhw eu gwthio i’r cyrion adeg yr Ymerodraeth Brydeinig, a does dim sôn amdanyn nhw yn y cyfansoddiad ar hyn o bryd.
Yn gynharach yr wythnos hon, datgelodd pôl fod y gefnogaeth i’r newid ymhlith y cyhoedd wedi gostwng o 58% i 53%.
Mae cyrff pêl-droed, tenis, rygbi a’r Gemau Olympaidd yn Awstralia eisoes wedi datgan eu cefnogaeth i’r cynnig i gydnabod hawliau pobol frodorol.
Ymhlith y sêr unigol sydd wedi datgan eu cefnogaeth mae’r chwaraewr pêl-fasged Patty Mills, y cyn-redwraig Cathy Freeman, a’r cyn-bencampwraig tenis Ash Barty.