Mae pedwar o blant brodorol wedi’u canfod yn fyw dros bythefnos ar ôl i’r awyren roedden nhw’n teithio ynddi blymio i’r ddaear yng Ngholombia.

Daeth y cyhoeddiad gan yr Arlywydd Gustavo Petro ar ôl i’r plant gael eu hachub gan yr awdurdodau mewn jyngl yn nhalaith Caqueta.

Roedd yr awyren yn cludo saith o bobol o Araracuara yn nhalaith Amazonas i San Jose del Guaviare yn nhalaith Guaviare ar Fai 1 pan fethodd yr injan.

Dywedodd yr arlywydd fod y newyddion am achub y plant yn destun “llawenydd i’r wlad”.

Bu farw tri o oedolion, gan gynnwys y peilot, a chafwyd hyd i’w cyrff y tu fewn i’r awyren.

Mae’r plant sydd wedi goroesi’n unarddeg mis, yn bedair oed, yn naw oed ac yn 13 oed, ac mae lle i gredu eu bod nhw wedi dianc i goedwig law gyfagos i chwilio am gymorth ac wedi goroesi drwy fwyta ffrwythau ac adeiladu lloches gan ddefnyddio tyfiant.