Mae Urdd Gobaith Cymru wedi rhannu eu Neges Heddwch ac Ewyllys Da heddiw (dydd Iau, Mai 18), ac mae’r neges eleni’n datgan nad oes lle i hiliaeth yn y byd, ac os ydym yn ei weld fod rhaid eu “galw nhw allan”.

Cafodd y neges, sy’n canolbwyntio ar wrth-hiliaeth, ei chreu ar y cyd gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, y cerddor Eädyth a Natalie Jones, Swyddog Cynnwys Addysg S4C.

Ers 1922 yn ddi-dor, mae’r Urdd yn rhannu eu neges ar Fai 18 er mwyn ysgogi ac ysbrydoli gweithgarwch dyngarol a rhyngwladol.

Mae’r neges eleni yn alwad gan ieuenctid Cymru i weithredu’n uniongyrchol i ddatgymalu camwahaniaethu systemig, herio rhagfarnau diarwybod, a galw allan hiliaeth pan welwn ni hi bob amser.

 

“Mae’n bryd torri lawr hiliaeth systemig, a sylweddoli bod hiliaeth yn dal i fodoli,” meddai pobol ifanc yn y fideo.

“Does dim lle i sylwadau hiliol.

“Os ydych chi’n eu clywed, mae’n rhaid galw nhw allan.

“Does dim lle i ragfarnau.

“Os ydych chi’n eu gweld, mae’n rhaid galw nhw allan.”

Gweithdy creu Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2023

Ym mis Ionawr, cafodd gweithdy ei gynnal yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd er mwyn creu’r neges.

Cydweithiodd grŵp o fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd i greu’r neges, gyda chymorth y cerddor Eädyth, Swyddog Cynnwys Addysg S4C, Natalie Jones, a Sunil Patel o No Boundaries.

Roedd trafodaethau pwysig yn ystod y dydd, ac o fewn ychydig o oriau roedd geiriau’r neges wedi dechrau cael eu ffurfio.

“Diolch i bawb a gymerodd rhan yn y dydd a helpu i greu neges bwerus ar y thema o wrth-hiliaeth ar gyfer Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2023,” meddai’r mudiad.

Pecyn addysg

Bwriad y Neges Heddwch ac Ewyllys Da yw rhoi llais i blant a phobol ifanc Cymru i dynnu sylw’r byd at bwnc perthnasol a phwysig.

Fel rhan o’r neges, mae’r Urdd yn darparu pecyn addysg ar y thema gwrth-hiliaeth.

Eleni, mae’r Urdd wedi cydweithio gyda S4C er mwyn creu’r pecyn addysg sy’n “gyfle arbennig i ddarparu a chefnogi addysg i blant a phobol ifanc ar bwnc hollbwysig a chyfoes”.

Mae modd lawrlwytho’r Neges Heddwch, a’i rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio @Urdd a #Heddwch2023.