Mae amseroedd aros am driniaethau iechyd yng Nghymru yn “gwbl annerbyniol”, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddi adroddiad perfformiad diweddaraf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Roedd y niferoedd oedd yn aros am driniaethau wedi cynyddu o ryw 731,000 i oddeutu 734,700 ym mis Mawrth, a hynny ar ôl gostwng am bum mis yn olynol.

Roedd cyfran y llwybrau cleifion lle’r oedd cleifion yn aros llai na 26 wythnos wedi cynyddu i 58.5% yn ystod yr un mis.

Ond roedd nifer y llwybrau lle’r oedd cleifion yn aros mwy na 36 wythnos wedi gostwng am y seithfed mis yn olynol, i ychydig o dan 228,000, sef yr isaf ers mis Ebrill 2021, ond mae’n dal yn uchel mewn cyd-destun hanesyddol.

Roedd tua 31,700 o lwybrau lle’r oedd cleifion yn aros mwy na dwy flynedd – 55% yn is na’r lefel uchaf, a gostyngiad am flwyddyn ar ôl cynnydd cyson drwy gydol 2021.

‘Arosiadau annynol’

“Tra mae rhestrau aros yn uchel ar draws y Deyrnas Unedig, mae arosiadau annynol o ddwy flynedd i’w gweld yn nodwedd o’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymreig sy’n cael ei redeg gan Lafur,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Yn Lloegr, mae’r amseroedd aros hyn bron wedi’u dileu.

“A dweud y gwir, erbyn hyn mae tair gwaith cymaint o bobol yn aros dwy flynedd yng Nghymru nag sydd o bobol yn aros 18 mis yn Lloegr, er bod gan Loegr 18 gwaith ein poblogaeth.

“Mae hyn yn gwbl annerbyniol i’r degau ar filoedd o bobol yng Nghymru sy’n disgwyl blynyddoedd am driniaeth a’r un ym mhob pedwar bron sy’n disgwyl am driniaeth yng Nghymru.

“Mae angen i’r Gweinidog Iechyd Llafur fynd i’r afael â’r ffigurau hyn ar fyrder a gwrando ar alwadau’r Ceidwadwyr Cymreig i gyflwyno canolfannau llawfeddygol yn gyflym a gweithredu cynllun gweithlu i fynd ar ben yr ôl-groniad hwn.”

Ymateb i alwadau brys ‘coch’ yn gwella

Ym mis Ebrill, roedd dros 33,300 o alwadau brys i’r gwasanaeth ambiwlans.

Ar gyfartaledd, roedd 127 o alwadau coch yn cael eu gwneud bob dydd ym mis Ebrill, sef dau yn llai na’r mis blaenorol, ond roedd yn dal yn uchel mewn cyd-destun hanesyddol.

Roedd hyn yn gyfartaledd o 1,111 o alwadau’r dydd, sef gostyngiad o 16 (1.4%) o alwadau bob dydd ar gyfartaledd o gymharu â’r mis blaenorol, a 151 (12.0%) yn llai o alwadau bob dydd na’r un mis y llynedd.

Ym mis Ebrill, cafodd 53.0% o’r ymatebion brys i alwadau (coch) lle mae bywyd yn y fantol eu cyrraedd o fewn wyth munud ar ôl pennu lleoliad y claf a’r brif gŵyn, sy’n is na’r targed o 65%.

Roedd hyn 5.6% yn uwch na’r mis blaenorol ac 1.9% yn uwch nag ym mis Ebrill y llynedd, a’r uchaf ers mis Mai y llynedd.

Llai o gleifion yn aros 12 awr neu fwy mewn adrannau brys

Ym mis Ebrill, roedd tua 87,100 o ymweliadau â’r holl adrannau brys.

Roedd hyn yn gyfartaledd o 2,903 ymweliad ag adran achosion brys y dydd; 24 yn fwy bob dydd ar gyfartaledd na’r mis blaenorol a 129 yn fwy na mis Ebrill y llynedd.

Treuliodd 70.2% o gleifion yr holl adrannau achosion brys llai na phedair awr yn yr adran ym mis Ebrill.

Roedd hyn 0.7% yn uwch na’r mis blaenorol, gan aros yn isel mewn cyd-destun hanesyddol.

Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan welodd y gyfran uchaf yn treulio llai na phedair awr mewn adrannau achosion brys (76.2%), ac yng Nghwm Taf Morgannwg roedd y gyfran isaf (64.7%).

Y targed yw fod 95% o gleifion yn treulio llai na phedair awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddyn nhw gyrraedd nes iddyn nhw gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.

Roedd 8,945 o gleifion wedi aros 12 awr neu fwy, sef 10.9% yn llai na’r mis blaenorol.

Amseroedd aros diagnostig a therapi

Ddiwedd Mawrth, roedd tua 43,300 o lwybrau lle’r oedd cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig.

Roedd hyn 0.9% yn fwy na’r mis blaenorol.

Ddiwedd mis Mawrth, roedd ychydig dros 7,000 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed ar gyfer therapïau.

Roedd hyn yn ostyngiad o 7.2% o gymharu â’r mis blaenorol, ac yn 51.6% o ostyngiad o’r lefel uchaf fis Mawrth y llynedd.

‘Anallu’

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, mae’r sefyllfa’n codi “cwestiynau difrifol” am “hygrededd Llafur” wrth fynd i’r afael â rhedeg y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

Maen nhw’n tynnu sylw at y ffaith fod Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi dweud yn y gorffennol y byddai’r llywodraeth yn bwrw’r targedau ar gyfer apwyntiadau.

Ddechrau’r flwyddyn, cyflwynodd Plaid Cymru gynllun pum pwynt i fynd i’r afael â’r sefyllfa, ond cafodd ei wrthod gan Lafur.

“Rŵan ein bod ni yn y gwanwyn, mae hi’n glir nad ydan ni bellach yn sôn am bwysau tymhorol – rydan ni’n sôn am anallu sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn i fynd i’r afael â’r tagfeydd yn ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Gyda mwy a mwy o bobol yn cael eu hychwanegu at restrau aros bob dydd, a sector gofal cymdeithasol sydd wedi’i orlwytho’n ddifrifol yn methu ymdopi ag anghenion gofal cam i lawr, fedrwn ni ddim cyflymu’r llif cleifion drwy’r system hyd nes bod hynny’n cael sylw.

“Yn y cyfamser, mae ein staff iechyd a gofal sy’n gweithio’n galed yn gweithio bob awr o’r dydd i gadw pethau i symud.

“Heb opsiwn arall, mae miloedd wedi gweithredu’n ddiwydiannol yn erbyn Llywodraeth Cymru tros gyflogau ac amodau gwaith – gyda phedwar dyddiad newydd wedi’u cyhoeddi’n ddiweddar gan y Coleg Nyrsio Brenhinol.

“Mae anallu Llywodraeth Cymru i wella amserau aros yn ddigonol i gleifion – gan fethu eu targedau eu hunain yn y cyfamser, a gwadu hyd yn oed nad oedden nhw ar y trywydd iawn i’w bwrw nhw – yn codi cwestiynau difrifol am hygrededd Llafur yn nhermau rhedeg y Gwasanaeth Iechyd.

“Dw i ddim yn meddwl ei bod hi’n bosib i ni lunio gweledigaeth a gweithredu ar y weledigaeth honno mewn ffordd sy’n cynnig gofal iechyd gwell na’r hyn rydyn ni’n ei weld yn cael ei gyflwyno yma yng Nghymru heddiw.

“Ond pan na all Llafur reoli eu targedau eu hunain, mae’n anodd magu unrhyw hyder yn eu gallu i ddatrys y materion hyn.”