Does dim arwydd fod yr argyfwng costau byw yn lleddfu, wrth i Gyngor Ar Bopeth Cymru rybuddio bod yr argyfwng ymhell o fod drosodd.

Mae costau uwch yn parhau i roi pwysau ar gyllidebau aelwydydd, ac mae’r elusen sy’n rhoi cyngor i bobol yn parhau i dorri sawl record anghywir wrth i aelwydydd wynebu penderfyniadau anodd o hyd.

Yn eu hysbysfwrdd o ddata am yr argyfwng costau byw yng Nghymru, dywed yr elusen fod nifer y bobol sy’n ceisio cymorth ganddyn nhw’n parhau i adlewyrchu patrymau pryderus dechrau 2022.

Fe wnaethon nhw helpu mwy o bobol â thalebau tanwydd ym mis Mawrth nag yn ystod unrhyw fis arall dros y flwyddyn ddiwethaf.

Costau uwch

Mae mwy o aelwydydd yn byw ar y nesaf peth i ddim wrth iddyn nhw ei chael hi’n anodd ymdopi â chostau cynyddol uwch.

Hyd at ddiwedd mis Mawrth eleni, roedd mwy o bobol nag erioed o’r blaen – a hanner y bobol oedd yn troi at Gyngor Ar Bopeth Cymru am gymorth ar gyfer dyledion – yn wynebu sefyllfa lle nad oedd eu hincwm yn ddigon i dalu eu biliau.

Mae Cyngor Ar Bopeth Cymru’n parhau i helpu niferoedd cynyddol o bobol sy’n ei chael hi’n anodd talu eu biliau ynni a dŵr.

“Mae’r galw ar wasanaethau cyngor yn parhau i gynyddu ledled Cymru, sy’n dangos bod yr argyfwng costau byw ymhell o fod drosodd,” meddai Simon Hatch, Cyfarwyddwr Cyngor Ar Bopeth Cymru.

“Rydyn ni’n dal i annog pobol i geisio cyngor cyn gynted ag y gallan nhw er mwyn atal problemau rhag cynyddu.

“Mae Cyngor Ar Bopeth Cymru, yn ein swyddfeydd lleol ledled Cymru a’n llinell gymorth Advicelink Cymru, yma i’ch helpu chi i ddod o hyd i ffordd ymlaen.

“Y peth amlycaf yn ein data yw nifer y bobol sy’n wynebu argyfwng biliau misol – maen nhw’n cyrraedd diwedd y mis ac yn syml iawn yn methu talu eu biliau.

“Roedd oddeutu traean o bobol rydyn ni’n eu cynghori ar ddyledion yn arfer methu talu eu costau – bellach, hanner y bobol [sy’n methu talu].

“Rhaid i Lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru barhau i weithredu er mwyn lleddfu’r pwysau ar aelwydydd incwm isel.

“Mae costau’n cynyddu ar yr un pryd ag y mae’r gefnogaeth gan y llywodraeth yn gostwng.”