Mae pleidlais o ddiffyg hyder yn erbyn David Simpson, arweinydd Cyngor Sir Penfro, wedi methu o drwch blewyn.

Roedd y cynghorydd wedi wynebu pleidlais hyder mewn cyfarfod gafodd ei gynnal heddiw (dydd Iau, Mai 18).

Fe wnaeth Cyfarfod Eithriadol o Gyngor Sir Penfro ystyried Hysbysiad Cynnig o ddiffyg hyder.

Cafodd yr Hysbysiad Cynnig ei gyflwyno gan y Cynghorydd Jamie Adams ar ran y Grŵp Annibynnol, gyda’r Cynghorydd Huw Murphy (Trefdraeth a Dinas) o’r Grŵp Annibynnol wedi’i enwebu i’w olynu pe bai’r bleidlais yn llwyddo.

Daeth y Cynghorydd David Simpson, Cynghorydd Llanbedr Felfre, yn arweinydd yn 2017 ar ôl gadael y Grŵp IPPG oedd yn rheoli’r Cyngor ar y pryd, ar ôl colli ffydd yn y ffordd roedd y Cabinet yn cael ei redeg gan y Cynghorydd Jamie Adams, yr arweinydd ar y pryd.

“Rydym trwy hyn yn rhoi hysbysiad ffurfiol o gyflwyno Hysbysiad Cynnig o ddiffyg hyder yn yr arweinydd,” meddai hysbysiad y Cynghorydd Jamie Adams.

Pleidleisiodd 29 o blaid diffyg hyder, a 31 yn ei erbyn.