Ramblers Cymru yw adran Gymreig yr elusen Ramblers. Mae’r elusen yn gweithio i hyrwyddo cerdded ar gyfer pobl o bob oed, cefndir a gallu, mewn trefi a dinasoedd ac yng nghefn gwlad. Mae ganddynt dros 40 o grwpiau yng Nghymru sy’n cynnig teithiau cerdded tywys bob wythnos. Yma, mae Brân Devey, Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Ramblers Cymru yn trafod pwysigrwydd y Cynnig Cymraeg i’w gwaith.


Ar ddechrau’r broses o fynd am y Cynnig Cymraeg, roedd swyddogion Tîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg yn gymwynasgar iawn. Roedden nhw’n egluro’r broses yn fanwl ac yn amlinellu sut fyddai derbyn y Cynnig Cymraeg o ddefnydd i ni fel elusen.

Roedd yn bwysig fy mod yn cynnwys swyddogion ar draws ein sefydliad ar y siwrnai. Trafodais gyda fy nghydweithwyr yng Nghymru, gwirfoddolwyr, a fy nghyfoedion ym mhrif swyddfa’r Ramblers yn Llundain i sicrhau eu bod nhw yn deall yr anghenion a pham fod y gwaith hyn yn bwysig.

Rydym yn rhan o gorff sydd yn gweithredu ar draws y Deyrnas Unedig, ond mae Ramblers Cymru hefyd yn gorff Cymraeg sydd â hanes Cymraeg ac fel sefydliad rydym yn gwerthfawrogi iaith a diwylliant Cymru. Mae’r Ramblers hefyd yn gorff cynhwysol, ac mae defnyddio’r Gymraeg yn rhan bwysig o barchu a gwireddu ein gwerthoedd.

Mae’r Cynnig Cymraeg yn ein gwneud ni yn fwy perthnasol ac yn ein helpu i arddangos balchder yn y Gymraeg. Mae hyn yn ein gwneud ni’n unigryw yn y Deyrnas Unedig. Mae hefyd yn ein galluogi i ddenu cynulleidfa newydd i’r corff ac yn ein cynorthwyo i fod yn berthnasol yn y Gymru fodern.

Mae’r Cynnig Cymraeg yn rhoi hygrededd i’n hymrwymiad i’r iaith Gymraeg. Mae hefyd yn ein helpu i ddatblygu’r ddarpariaeth Gymraeg yr ydym yn ei chynnig. Mae cynnig gwasanaeth Cymraeg ehangach yn golygu bod angen mwy o adnoddau arnom ond rydym yn gweld gwerth i hyn.

Rydym yn credu fod derbyn cydnabyddiaeth sydd yn ymwneud â’r iaith yn hollbwysig gan ei fod yn ganolog i’n hunaniaeth a diwylliant ein gwlad. Mae’r Cynnig Cymraeg wedi ein helpu i ddatblygu’r elusen ac mae’n ein gwneud yn fwy perthnasol i’n cynulleidfaoedd.

Banc Bwyd Arfon – y Gymraeg wrth galon y gwaith

Joanna Hillier

Cynorthwyydd Rhaglen Banc Bwyd Arfon, sy’n trafod pwysigrwydd y Cynnig Cymraeg i’w gwaith

Beth yw nod y Cynnig Cymraeg?

Efa Gruffudd Jones

Comisiynydd y Gymraeg sy’n egluro mwy