Bydd myfyrwyr prifysgol yn mentora plant i ddarllen mewn deg ysgol gynradd ledled y wlad fel rhan o gynllun peilot newydd.

Fel rhan o’r rhaglen i gefnogi darllen a llythrennedd, bydd grwpiau o hyd at wyth o blant yn cael sesiwn awr o hyd wyneb yn wyneb â’u mentoriaid.

Wrth gyhoeddi’r cynllun, dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn helpu dysgwyr ym mlynyddoedd pump a chwech er mwyn eu cefnogi i baratoi ar gyfer yr ysgol uwchradd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, byddai darllen yn Gymraeg yn cael ei gynnwys pe bai’r rhaglen yn cael ei datblygu a’i ehangu yn y dyfodol.

Prifysgol Caerdydd sydd yng ngofal y prosiect, ac maen nhw wedi dechrau recriwtio myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig o bob rhan o Gymru i wirfoddoli.

‘Sgil hanfodol’

Dywed Ysgrifennydd y Gymraeg ac Addysg yn Llywodraeth Cymru ei bod hi’n “hollbwysig” tanio cariad at ddarllen yn gynnar ym mywydau plant.

“Mae darllen yn sgil hanfodol y bydd disgyblion yn ei defnyddio drwy gydol eu bywyd,” meddai Jeremy Miles.

“Mae gwella sgiliau darllen yn flaenoriaeth genedlaethol, a dyna pam yn yr ydym wedi buddsoddi £5m ychwanegol i gefnogi disgyblion, gan gynnwys sicrhau bod pob plentyn yn cael llyfr am ddim.

“Bydd y rhaglen beilot mentora yn cynnig manteision i wella sgiliau llythrennedd a hefyd yn meithrin hyder a sgiliau cyfathrebu’r mentor a’r rhai sy’n cael eu mentora.

“Mae ymchwil yn dangos bod darllen mwy a datblygu cariad at ddarllen yn cael effaith gadarnhaol ar lwyddiant mewn addysg.”