Mae’r cynnig i ymestyn safle carafanau yng Ngwynedd sydd wedi cael ei ddisgrifio fel “darparwr pwysig ar gyfer twristiaeth” wedi cael y golau gwyrdd gan gynllunwyr.

Ddydd Llun (Mai 15), cytunodd Cyngor Gwynedd i’r cais cynllunio llawn ar gyfer estyniad i barc carafanau Tyn y Coed yn Llanrug.

Galwodd y cynnig am ddisodli naw lle i bebyll gyda naw safle i garafanau symudol.

Fe ofynnodd y cais hefyd am ddisodli 21 lle i bebyll gyda 21 safle i unedau teithiol ar y parc presennol (heb gynnydd mewn niferoedd) a lleoliad cyfleuster golchi cwt bugail a thirlunio.

Mae safle’r cais yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd fel parc carafanau gwyliau a chae pori.

Fe wnaeth y cais cynllunio ddisgrifio’r safle fel un sy’n cael ei reoli gan deulu Cymraeg lleol sy’n berchen ar y parc ers 65 o flynyddoedd (1957).

Nododd dogfennau cynllunio fod y cyfleuster gwyliau’n cynnig “ystod o lety twristiaid gan gynnwys carafanau gwyliau, carafanau teithiol, gwersylla i bebyll a bwthyn o safon uchel ar gyfer gwyliau byr”.

Amodau

Fe wnaeth y Cyngor dderbyn y cynnig, yn ddibynnol ar nifer o amodau cynllunio.

Profodd hen arolwg o rywogaethau gwarchodedig yn “negyddol”, ond fe ddaeth o hyd i’r “potensial” ar gyfer adar yn nythu mewn coed ar ymylon y safle ar adegau penodol yn ystod y flwyddyn.

“Mae’r potensial hefyd i ystlumod clwydo fod yn bresennol mewn tyllau yn rhai o’r coed cyfagos,” meddai’r arolwg.

Roedd chwiliad data “wedi datgelu presenoldeb chwe rhywogaeth ystlumod yn yr ardal leol, ac er na fydd unrhyw golledion o ran clwydo, bydd rhaid rhoi ystyried i oleuadau a chysylltedd y cynefin”.

Ymhlith yr amodau lliniaru eraill roedd y ffaith na ddylid cwympo coed na symud perthi na gwneud gwaith clirio ar y safle yn ystod tymor nythu adar.

Wrth gwblhau unrhyw waith, byddai angen “mesurau rhagofal” ar goed sydd wedi cael eu hadnabod fel safleoedd clwydo ar gyfer ystlumod.

Rhaid bod unedau teithiol ond yn cael eu llenwi at ddibenion gwyliau, ac nid fel prif nac unig breswylfa.

Rhaid i safle gwyrdd agored i’r gogledd-orllewin o’r llwybr mynediad arfaethedig “gael ei gadw’n barhaol fel gofod agored heb ei ddatblygu” hefyd.

Does dim modd lleoli mwy na naw o unedau teithiol (carafan, camperfan, pabell a phabell trelar) ar safle’r cais, yn ddibynnol ar ganiatâd.

Roedd angen mesurau rhagofal hefyd er mwyn atal llygru llwybrau dŵr.

Doedd yr adran briffyrdd ddim yn credu y byddai’r cais yn cael “effaith andwyol” ar unrhyw briffordd na phriffordd arfaethedig, ar ôl ystyried bod y cais yn cynnwys “creu mannau pasio ychwanegol ar y llwybr mynediad i hwyluso’r cynnydd mewn cerbydau sy’n tynnu” cerbydau eraill.

Y Gymraeg

O ran rheolau cynlluniau’n ymwneud â’r Gymraeg, nododd y cais fod “Tyn-y-Coed yn ddarparwr llety twristaidd pwysig yn yr ardal sy’n cefnogi’r economi leol”.

“Mae perchnogion Tyn-y-Coed yn siaradwyr Cymraeg ac yn defnyddio’r Gymraeg fel iaith gyntaf.

“Mae’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle’n cael ei annog, ac mae perchnogion y parc yn ceisio addysgu a hybu’r Gymraeg a diwylliant unigryw Cymru i bob gwestai sy’n ymweld â Tyn-y-Coed.”