Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Adam Price ar ôl iddo draddodi ei araith olaf cyn ymddiswyddo’n swyddogol o fod yn arweinydd Plaid Cymru.
Dywedodd yn y Senedd iddo “ofyn dros 400 o gwestiynau i ddau Brif Weinidog” ers iddo gael ei ethol yn arweinydd yn 2018.
Wrth ddiolch i’r Prif Weinidog presennol, dywedodd nad “peth hawdd yw arwain plaid” ac mai “anoddach fyth ydy arwain gwlad”, gan ychwanegu bod ei ymroddiad a’i aberth personol “yn arbennig dros y blynyddoedd heriol diwethaf yn destun dyled a diolchgarwch bythol o’n rhan ni i gyd”.
Diolchodd Adam Price i’w holl gydweithwyr yn y Senedd, i’r Llywydd Elin Jones am ei chyngor tawel a’i hamynedd, ac i bawb “sydd wedi dangos caredigrwydd” iddo yn dilyn ei gyhoeddiad ei fod yn camu o’r neilltu.
“Mae’r diolch olaf, ond pwysicaf oll, i’m teulu, sydd yn bresennol heddiw ac sydd yn edrych ymlaen, mae’n siŵr, i dipyn o’m mhresenoldeb innau dros y blynyddoedd sydd o’n blaenau,” meddai, a’i dafod yn ei foch.
Wrth barhau i dynnu coes, ychwanegodd y bu “Cwestiynau’r Prif Weinidog yn fwy o ddyletswydd nag o bleser i mi erioed”.
“Dw i’n credu ei bod hi’n bosib fy mod i’n siarad drosom ni’n dau yn y fan honno, er gwaetha’r ffaith eich bod chi wedi dod yn dda yn y rhan yma o’r swydd, er dicter i mi,” meddai wrth i aelodau chwerthin.
“Er i fi deimlo’n aml fel myfyriwr addawol yn cael B- yn ôl gydag edrychiad o siom theatrig, dw i wedi trin yr agwedd yma o’r rôl erioed gyda’r difrifwch mae’n ei haeddu.
“Mae angen craffu da ar lywodraeth dda, ac atebolrwydd yw sylfaen unrhyw ddemocratiaeth, nid yn unig ar gyfer llywodraethau ond ar gyfer gwrthbleidiau hefyd, ac nid yn unig mae hynny’n golygu ceisio cyfrifoldeb gan eraill ond ei dderbyn eich hun, er y gall hynny fod yn boenus weithiau.”
O dŷ cyngor i’r Senedd
Wrth egluro bod “rhaid glynu at eich angor ynghanol storm”, cyfeiriodd at eiliad dyngedfennol iddo ryw fore yn 1984, adeg Streic y Glowyr, pan oedd yn sefyll ar ymyl y ffordd ym mhentref Betws yn Nyffryn Aman yn ei wisg ysgol yn y glaw.
Dywedodd ei fod yn sefyll â’i fraich ym mreichiau ei frawd a’i dad, a geiriau ei fam o “anogaeth benderfynol yn atseinio” yn ei glustiau.
Disgrifiodd sut y bu i linell biced hyrddio yn ei blaen i fod yn “darian ddynol, nid i amddiffyn ein hunain ond ein gilydd”.
“Ar un ystyr, drwy gydol fy mywyd gwleidyddol cyfan dw i wedi bod yn chwilio’n barhaus am y synnwyr yna o undod a solidariaeth yn y frwydr dros gyfiawnder a chydraddoldeb,” meddai.
Dywedodd iddo ddarganfod “gobaith eto” dros yr 16 mis diwethaf y “gall gwleidyddiaeth newid bywydau”.
“Ac wrth benderfynu newid bywydau gyda’n gilydd, gallwn newid natur gwleidyddiaeth hithau, fel bod mab y glowr fu’n streicio ac a oedd unwaith yn derbyn prydau ysgol am ddim ei hun, yn helpu i’w gwneud nhw’n unffurf.
“Fel bod yr actifydd ifanc feddiannodd gartref gweithredol, tapiau aur a’r cwbl, yng Ngharmel, Sir Gaerfyrddin yn ystod Eisteddfod Casnewydd yn 1988 yn helpu i greu’r pecyn mwyaf radical o fesurau ar yr argyfwng tai gafodd ei weld yn unman yn y Deyrnas Unedig.
“Fel bod y crwtyn uniaith Saesneg o Ysgol Uwchradd Dyffryn Aman yn helpu i greu Cymru’r dyfodol lle mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb.
“Nid o’m herwydd i mae hynny.
“O’n herwydd ni i gyd mae e – synnwyr ohonon ni y gwnes i ac y gwnaethoch chi a’n cydweithwyr ei siapio rhyngom ni.
“Oblegid beth yw’r sosial yn ‘sosialaeth’ a’r cenedlaethol yn ‘cenedlaetholdeb Cymreig’ os nad y syniad fod yna rywbeth sy’n ein cysylltu ni y tu hwnt i’n buddiannau ni’n hunain, sy’n fwy hyd yn oed na chyfyngiadau ffyddlondeb i’n plaid?”
Anghytuno, ond cytuno hefyd
Wrth annerch y Prif Weinidog yn uniongyrchol, dywedodd iddyn nhw, ill dau, anghytuno ar nifer fawr o bethau, ond cytuno ar bethau eraill hefyd.
Ar fater annibyniaeth, dywedodd iddyn nhw anghytuno ar yr egwyddor ond fod tebygrwydd rhyngddyn nhw hefyd.
“Dw i ddim ar fy mhen fy hun wrth feddwl bod eich perfformiad fel Prif Weinidog wedi teimlo’n aml fel clyweliad estynedig i ddod yn fersiwn ni, yng ngweriniaeth Cymru’r dyfodol, o Michael D. Higgins.
“Ond er gwaetha’n holl anghytuno, roedd yna graidd yn gyffredin bob amser.
“Mabon a Chaeo, Keir Hardie a Chrug-y-bar.
“Dau sosialydd o Sir Gaerfyrddin ydyn ni, o’r un brethyn, ar asgell chwith ein plaid a fydd, drwy ddyluniad neu’n ddiofyn… wedi diweddu i fyny’n cyflwyno polisïau mewn nifer o feysydd sy’n fwy radical na’n maniffesto ni’n dau.
“Ond tu hwnt i ni’n dau, mae yna wirionedd dyfnach fydd yn para ar ein holau ni, sef fod y peth sy’n ein huno ni yn y lle hwn yn bwysicach yn y pen draw ac yn para’n hirach nag unrhyw beth sy’n ein gwahanu ni.
“Mae’r Siambr hon yn gylch am reswm da.
“Mae gwneud synnwyr o’r Senedd yn golygu bod yn rhaid i chi ddeall nad ydyn ni yma i greu San Steffan fach, ond i adeiladu Cymru well, gyda’n gilydd, nid i fod yn arena o elyniaeth ond yn Senedd sy’n chwilio am synthesis newydd, lle mae’r gwirioneddau gwahanol rydyn ni’n eu cynrychioli’n cyfuno o’r newydd wrth chwilio am ddaioni cyffredin.”
‘Boi tŷ cyngor hoyw’
Wrth i’w araith ddirwyn i ben, dywedodd Adam Price iddi “gymryd amser i’r boi tŷ cyngor hoyw hwn o’r Tymbl ymfalchïo ynddo’i hun”.
“Fyddwn i byth wedi credu bryd hynny y byddwn i’n cael eistedd yn y gadair hon,” meddai.
“Dw i eisiau i ieuenctid ein gwlad, yn ferched ac yn ddynion fel ei gilydd, pob hil, pob lliw, LHDTC+ ac anabl, yn enwedig y dosbarth gweithiol, deimlo fel pe bai’r lle hwn yn perthyn iddyn nhw, yn eu cynrychioli nhw, yn siarad drostyn nhw, gymaint ag ydyw i unrhyw un.
“Dw i eisiau iddyn nhw weld pobol tebyg iddyn nhw’n llenwi fy nghadair, eich cadair chi, pob cadair.
“Felly wrth i ni ymrwymo nawr i ehangu cylch y Senedd hon ymhellach, a wnewch chi addo i fi, Brif Weinidog, y gwnewch chi adeiladu ar y gwaith rydyn ni wedi’i ddechrau rhyngom ni, i droi’r lle hwn ar gyfer dyfodol ein cenedl i fod y ddemocratiaeth 360 gradd fwyaf cynhwysol yn unrhyw le, lle caiff pob llais ei glywed yn gyfartal, fel bod modd byw pob bywyd yn gyfartal, yn llawn ac yn dda, fel fy mod i’n gwybod ac fel eich bod chi’n gwybod ein bod ni wedi defnyddio ein hamser ni yma gyda’n gilydd i’r gorau o’n pwrpas ni gyda’n gilydd?”
‘Diolch’
“Wel, Llywydd, gaf i ddweud i ddechrau diolch yn fawr i Adam Price am y pethau caredig yn bersonol a ddywedodd e i ddechrau?” meddai Mark Drakeford wrth dalu teyrnged i Adam Price.
“Mae’n wych i weld y teulu i gyd yma yn y Senedd y prynhawn yma, a braint oedd e i gwrdd unwaith eto â’ch mam ar y ffordd i mewn i’r Siambr y prynhawn yma.
“Mae cryn dipyn o’r hyn mae arweinydd Plaid Cymru wedi’i ddweud y prynhawn yma dw i’n cytuno ag e, Lywydd.
“Wrth gwrs ei fod e’n iawn: rydyn ni’n anghytuno ar nifer o bethau, a dyna’r peth da am ein democratiaeth, y gallwn ni wneud hynny, ac y gallwn ni wneud hynny yma gan wybod, y tu ôl i’r enghreifftiau personol hynny o anghytuno, fod yna gryn gytuno ynghylch pwrpas gwleidyddiaeth yma yng Nghymru, a dyna’n union mae arweinydd Plaid Cymru wedi’i ddweud, sef rhannu uchelgais, dw i’n meddwl, ar draws y Siambr gyfan, wedi’u mynegid mewn ffyrdd ymarferol gwahanol iawn, ond yn unedig wrth gredu nad yw’r hyn rydyn ni’n ei wneud yma’n perthyn i ni ond i’r bobol oedd wedi ein rhoi ni yma, a’n huchelgais bob tro yw ceisio gwneud pethau’n well iddyn nhw mewn ffyrdd y bydden nhw’n cydnabod eu bod nhw’n adlewyrchu eu hamgylchiadau a’r hyn maen nhw’n ei ffafrio.”
Aeth yn ei flaen i ddweud bod y”na ddau fath o bobol mewn gwleidyddiaeth, sef y rheiny sy’n cerdded i mewn â phroblem ac mai eu “greddf yw gwneud y broblem yn fwy fyth, dod o hyd i ragor o bethau mae’n rhaid i chi fynd i’r afael â nhw, dod o hyd i onglau newydd anodd nad ydych chi eto wedi dod ar eu traws nhw”.
“Ac wedyn mae grŵp arall o bobol mewn gwleidyddiaeth, pan fyddan nhw’n dod drwy’r drws a bod problem i’w datrys, mai eu greddf yw dod o hyd i atebion, edrych am ffyrdd lle mae modd ffurfio tir cyffredin.
“A dw i’n teimlo fy mod i wedi bod yn ffodus, yn ystod y deunaw mis dw i wedi cydweithio ag arweinydd Plaid Cymru yn y Cytundeb Cydweithio, mai dyna’r ffordd mae e wedi dod at y bwrdd erioed.”
Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen at barhau â’i waith “yn yr ysbryd glywson ni gan Adam Price y prynhawn yma”.
Teyrnged gan y Llywydd
Ar ddiwedd ei araith, talodd y Llywydd Elin Jones deyrnged i Adam Price hefyd, gan ddymuno’n dda iddo.
“Ac yn wir, Adam Price, yn ôl dy air, fe wnest ti brofi amynedd y Llywydd gyda hyd cyfraniad dy ddatganiad olaf,” meddai, dan chwerthin.
“Ond dymuniadau gorau i ti, Adam, ar dy ddyfodol yn y Senedd yma.”