Cymru sydd â’r gyfradd isaf o bobol mewn gwaith o holl rannau a gwledydd y Deyrnas Unedig.

71.5% o bobol Cymru sydd mewn gwaith ar hyn o bryd, yn ôl data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Rhwng mis Ionawr a Mawrth eleni, cynyddodd cyfradd diweithdra Cymru i 4.6%.

Dim ond Gorllewin Canolbarth Lloegr (5.1%) a Llundain (4.7%) sydd â chyfraddau diweithdra uwch na Chymru.

Bu gostyngiad o 2.6% yng nghyfradd cyflogaeth Cymru rhwng Ionawr a Mawrth eleni, y gostyngiad mwyaf dros wledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig.

‘Sefyllfa’n dirywio’

Wrth ymateb i’r ystadegau, dywed llefarydd economi’r Ceidwadwyr Cymreig ei bod hi’n “glir” fod y sefyllfa’n parhau i waethygu yng Nghymru.

“Mae sefyllfa waith Cymru’n dirywio ac er bod pwysau dros y Deyrnas Unedig, mae’r data’n dangos yn glir bod Cymru’n disgyn ar ôl ac yn parhau i waethygu, waeth beth yw’r darlun dros y Deyrnas Unedig,” meddai Paul Davies.

“Y Llywodraeth Lafur sydd yng ngofal yr economi yng Nghymru, ac maen nhw wedi methu â rheoli’r gyfradd uchel o segurdod economaidd yma dros y 25 mlynedd ddiwethaf.

“Mae gweinidogion Llafur olynol wedi bod yn canolbwyntio ar brosiectau eraill, fel ehangu maint y Senedd.

“Dylen nhw fod wedi canolbwyntio ar greu swyddi sy’n talu’n dda i bobol Cymru, yn hytrach na chreu swyddi â chyflogau uchel i wleidyddion.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rydym yn gweithio’n galed i greu Cymru fwy cyfartal a llewyrchus, lle mae pawb yn cael cyfle i gyrraedd eu potensial llawn a chwarae eu rhan lawn yn ein heconomi a’n cymdeithas, a lle mae mwy o bobol yn teimlo’n hyderus ynghylch cynllunio eu dyfodol yng Nghymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Dyna pam rydym yn cefnogi busnesau i greu mwy o swyddi o ansawdd, bod yn fwy hyblyg a darparu cyfleoedd sy’n talu’n well i weithwyr.

“Mae ein ffocws yn parhau i fod ar leihau anweithgarwch economaidd.

“Mae ein Cenhadaeth Economaidd yn cadarnhau’r ysgogiadau sydd gennym i leihau’r rhaniad sgiliau, cefnogi gwell swyddi ac yn eu tro mynd i’r afael â thlodi.

“Mae ein Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau yn rhoi blaenoriaeth i’r bobol sydd fwyaf angen help.

“Mae hyn yn cynnwys cefnogi pobl i aros mewn gwaith a’r rhai sydd ymhellach i ffwrdd o’r farchnad lafur i ddod o hyd i waith.”