Mae enwau tair ysgol newydd Pontypridd wedi cael eu cymeradwyo gan gynghorwyr.

Roedd adroddiad gafodd ei gymeradwyo gan Gabinet Rhondda Cynon Taf ddoe (dydd Llun, Mai 15) yn cynnwys yr enwau gafodd eu cyflwyno gan gyrff llywodraethu dros dro’r ysgolion.

Yr enw ar yr ysgol 3-16 newydd ym Mhontypridd fydd Ysgol Bro Taf, yr enw ar yr ysgol 3-16 newydd yn y Ddraenen Wen fydd Ysgol Afon Wen, ac Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf fydd yr enw ar yr ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Rhydfelen.

Dywedodd adroddiad y Cabinet mai Ysgol Afon Wen oedd wedi derbyn y nifer fwyaf o bleidleisiau (36%) yn ystod yr ymgynghoriad ar enw’r ysgol newydd yn y Ddraenen Wen, oedd yn adlewyrchu canlyniad yr ymgynghoriad â staff a disgyblion yn y tair ysgol sy’n cael eu heffeithio.

Dywedodd hefyd mai Ysgol Pontypridd oedd wedi ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau (40%), ac wedyn Ysgol Bro Taf (17%), yn yr ymgynghoriad ar gyfer enw’r ysgol newydd ym Mhontypridd, ond roedd yr adroddiad yn dweud nad oedd hynny’n adlewyrchu canlyniadau’r ymgynghoriad gyda staff a disgyblion yr ysgolion sy’n cael eu heffeithio, oedd yn ffafrio Ysgol Bro Taf.

O ran enw’r ysgol Gymraeg newydd yn Rhydfelen, dywedodd yr adroddiad mai Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Y Taf oedd wedi derbyn y nifer fwyaf o bleidleisiau (52%).

Dywedodd fod llywodraethwyr wedi nodi yn y cyfarfod mai’r enw gramadegol gywir fyddai Awel Taf, a bod y canlyniad yn adlewyrchu canlyniad yr ymgynghoriad â staff a disgyblion yr ysgolion sy’n cael eu heffeithio.

Pryderon

Hefyd, dywedodd yr adroddiad fod pryderon wedi cael eu codi yn ystod y broses ymgysylltu mewn perthynas â chost gwisgoedd ysgol a brandio, ac fe ddywedodd y byddai’r pryderon hyn yn cael eu trafod ymhellach yn unol â gorchwyl y cyrff llywodraethu dros dro, yn ystod haf 2023 ac y bydden nhw’n dilyn prosesau perthnasol yn unol â holl ganllawiau Llywodraeth Cymru.

Dywedodd fod pryderon wedi’u codi hefyd ynghylch lleoliadau rhai o’r ysgolion newydd, ond fod ymgynghoriad wedi bod ar y pryderon hyn ac wedi cael sylw’n flaenorol fel rhan o ymgynghoriad trefniant statudol yr ysgol, gafodd ei gymeradwyo’n ddiweddarach gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2019.

Dywedodd y Cynghorydd Cathy Lisles, sy’n cynrychioli’r Ddraenen Wen a Rhydfelen Isaf, fod Afon Taf a’r Ddraenen Wen, sef enw’r pentref lle mae’r ysgol, yn crisialu ardal y safle lle cafodd ysgol ei chodi am y tro cyntaf ryw 145 o flynyddoedd yn ôl.

Dywedodd fod yr enw newydd gafodd ei ddewis gan y rhan fwyaf o’r rheiny oedd yn rhan o’r ymgynghoriad yn cyfuno’n daclus elfennau o’r ddau beth fydd bob amser yn ei hamgylchynu, sef yr afon a’r gymuned, i greu enw’r ysgol newydd.

Dywedodd fod y rheolau i ddewis enw newydd ar gyfer pob ysgol newydd yn yr ardal wedi’u dilyn yn gywir erbyn hyn, gan orffen gydag ymgynghoriad cyhoeddus oedd yn ei gwneud hi’n amlwg na ddylai enw’r ysgol fod yn gamarweiniol o ran lleoliad yr ysgol mewn unrhyw ffordd.

Dywedodd fod penderfyniad democrataidd ynghylch yr enw wedi cael ei wneud, gan ystyried yn bennaf safbwyntiau plant yr holl ysgolion dan sylw.

Dywedodd fod ymgynghoriad mwy cyhoeddus wedi dilyn, lle gallai unrhyw un ymateb, ond fod hwnnw ddim ond ar gael ar-lein, a gofynnodd am fwy o gyhoeddusrwydd a hwyluso ymrwymiad y gymuned ar gyfer unrhyw ymgynghoriad yn y dyfodol.

‘Tristwch’

Dywedodd y Cynghorydd Cathy Lisles fod traean o’r rhai wnaeth ymateb wedi dewis Afon Wen, a bod chwarter wedi dewis enw arall gan nodi yn eu sylwadau eu bod nhw’n ffafrio cadw’r enw Hawthorn neu Y Ddraenen Wen.

Yn 2018, meddai, pan ddechreuodd yr ymgynghoriad ar symud i ysgolion pob oed, doedd neb yn gwybod y gallai hynny olygu ymgynghoriad pellach, heb sôn am newid enw’r ysgol yn yr ardal, a bod colli’r enw Hawthorn neu’r enw Y Ddraenen Wen hyd yn oed yn dristwch i rai.

Gofynnodd am gynnwys gwybodaeth ar y mater hwn mewn perthynas ag unrhyw ymgynghoriadau pellach ar ad-drefnu ysgolion.

Dywedodd fod pobol yn falch o gyraeddiadau blaenorol disgyblion yn yr ysgol ac yn teimlo y byddai’r hanes yma’n rhoi rhywbeth i ddisgyblion presennol anelu ato, ac y bydd trigolion lleol yn dal i gyfeirio ati fel Hawthorn School.

“Serch hynny, mae trigolion yn derbyn fod penderfyniad democrataidd wedi cael ei wneud ac yn edrych ymlaen at fod yn rhan o ddyfodol yr ysgol bob oed newydd wrth iddi ddod yn un o Ysgolion Cymunedol y sir.

“Fodd bynnag, mae trigolion wedi awgrymu fel cymorth i’r rhai nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg yn rhugl y gellid cynnwys fersiynau Saesneg yr enwau ar arwyddion hefyd, ac y gellid labelu enw’r ysgol newydd yn Heol Y Celyn yn Awel Taf a Taff Breeze.

“Hoffwn orffen drwy dynnu sylw at un gwall bach yn yr adroddiad sydd o’ch blaenau chi – nodir mai Bro Taf, Taff Vale School ddaeth yn ail yn yr ymgynghoriad cyhoeddus diweddaraf.

“Mae hynny’n anghywir.

“Adeg rhedeg yr ymgynghoriad cyhoeddus cyntaf, dewisodd 43% o ymatebwyr Bro Taf fel yr enw ar gyfer yr ysgol.

“Y tro hwn, dewisodd 40% Ysgol Pontypridd a 31% Ysgol Gymunedol Pontypridd, gyda dim ond 82 neu 17% yn dewis Bro Taf.

“Roedd tri chwarter y rhai wnaeth ymateb i’r holiadur hwn yn rhieni neu’n ddisgyblion yn yr ysgol, ond oherwydd nad oes croesgyfeirio yn yr adroddiad rhwng ymatebion a’r mathau o ymatebwyr, dydy hi ddim yn glir sut y gwnaeth disgyblion ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus hwn fel rhan o’r broses.”

‘Cam cyffrous’

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Lewis fod yr adroddiad yn adlewyrchu’r cam cyffrous nesaf sy’n rhan o gynllun ysgolion ardal Pontypridd.

Dywedodd fod enwau’r ysgolion wedi cael eu dewis gan ymgynghoriad cyhoeddus a’u cadarnhau gan y cyrff llywodraethu yn dilyn ystyriaeth ofalus gyda safbwyntiau’r disgyblion wrth galon dewis yr enwau.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan iddyn nhw dderbyn ychydig gannoedd o ymatebion, sy’n golygu ymgysylltu eithaf da, ac y byddai’n ffafrio peidio gwahaniaethu rhwng ymatebion plant ac oedolion gan eu bod nhw eisiau rhoi’r un pwyslais a hawliau i lais y disgyblion yn yr un ysgolion.

Dywedodd y Cynghorydd Christina Leyshon ei bod hi’n falch o’r ffaith fod y disgyblion wedi dewis yr enwau.