Bydd pynciau fel cadw staff, adroddiad damniol a thrwyddedau dryllau ar yr agenda pan fydd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cyfarfod â’r Comisiynydd Heddlu ddydd Gwener (Mai 19).

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin am 10.30yb.

Ymhlith y cwestiynau fydd yn cael eu cyflwyno i Dafydd Llywelyn fydd sut mae’r heddlu’n mynd i’r afael ag iechyd a llesiant, staff profiadol yn gadael y proffesiwn yn gynnar, ac effaith hynny ar effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yr heddlu.

Yn ogystal, mae disgwyl y bydd sylw i’r gwersi y gall Heddlu Dyfed-Powys eu dysgu o adroddiad y Farwnes Casey, sydd wedi codi pryderon difrifol ynghylch diwylliant ac ymddygiad Heddlu Llundain.

Mae troseddau gwledig yn faes lle mae cydnabyddiaeth fod Heddlu Dyfed-Powys wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a bydd y Panel Heddlu a Throseddu yn gofyn am sicrwydd gan y Comisiynydd fod y momentwm hwn yn cael ei gynnal.

Bydd y Comisiynydd yn cael ei holi hefyd pa gamau mae’n eu cymryd i sicrhau bod yr heddlu’n cynnal trefn drwyddedu drylliau effeithlon ac addas i’r diben ar gyfer Dyfed-Powys.

Y panel

Yn ôl yr Athro Ian Roffe, cadeirydd Panel Heddlu a Throseddu Heddlu Dyfed-Powys, mae’r sylw mae plismona’n ei gael ar y cyfryngau cymdeithasol yn golygu bod cyflwyno cwestiynau i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn “rhoi cipolwg go iawn i ni ar waith yr heddlu yn ein pedair sir a thu hwnt”.

Mae Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cefnogi ac yn craffu ar waith Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ac mae’n cynnwys aelodau sydd wedi’u henwebu gan gynghorau yn y pedair ardal sy’n rhan o ardal yr heddlu, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys, ynghyd ag o leiaf ddau aelod annibynnol ar y tro.

Mae modd cyflwyno cwestiynau i’r panel ar-lein, neu’n ysgrifenedig drwy anfon neges e-bost at panelheddluathroseddudp@sirgar.gov.uk o leiaf 10 diwrnod cyn cyfarfodydd.

Staff yn gadael yr heddlu

Er bod staff yn gadael yn broblem i’r heddlu, nid dim ond yn yr heddlu mae hyn yn broblem ond mewn nifer o sectorau gwahanol hefyd, yn ôl Dafydd Llywelyn, sydd wedi bod yn siarad â golwg360 ar drothwy’r cyfarfod.

Dywed fod nifer o bethau’n cael eu gwneud er mwyn ceisio cadw staff yn yr heddlu.

“Mae yna rywfaint o broblem,” meddai.

“Dydy e ddim dim ond yn broblem i’r heddlu, mae’n broblem i nifer o wahanol feysydd, meysydd iechyd hefyd.

“Yn enwedig ers Covid, mae dal ymlaen i bobol yn y proffesiwn yn anodd.

“Mae gyda ni Occupational Health Unit, ac mae’r Occupational Health Unit efo unigolion sy’n rhoi cwnsela i staff ac ati, ac yn cydweithio gyda staff yn rheolaidd.

“Mae’r swyddogion a staff yn gallu mynd ati i ofyn am wasanaeth 24 awr bob dydd, sydd yn rhyw fath o wasanaeth dros y ffôn, rhyw fath o helpline.

“Mae hwnna’n gallu rhoi cyngor i staff ynglŷn â’u llesiant a’u sefyllfa iechyd meddwl.

“Hefyd, mae strategaeth llesiant gan y llu wedyn.

“Mae gyda ni bethau mwy anffurfiol neu answyddogol, er enghraifft caplaniaid sy’n gweithio yn y llu.

“Mae rhwydweithiau cymorth, support staff networks, sydd hefyd ar gael, ac maen nhw’n sicrhau bod pobol ar gael.

“Mae pobol yn cael hyfforddiant mewn Mental Health First Aider courses, mae hwnna wedi cael ei rowlio allan ar draws y llu.

“Wedyn mae rheolwyr llinell sydd yn gallu bod yna i fod yn gefn i bobol.

“Rydym yn rhoi hyfforddiant i’r rheolwyr hynny, felly os ydym yn sylweddoli bod rhywun yn mynd am gyfnod o salwch, ein bod yn gallu siarad gyda nhw.

“Mae yna dipyn o adnoddau yn mynd mewn i’r peth.

“Llynedd, roedd y llu wedi cael Gold Investors in People accreditation.

“Mae hynny hefyd yn tanlinellu ac yn rhoi rhyw fath o sêl ar hyn sydd wedi cael ei gyflawni yn y llu.

“Mae’n cael ei gydnabod gan rywun sy’n dod yn allanol mewn i’r llu.

“Mae gyda ni’r bathodyn yna mewn ffordd, safon aur.

“Mae llawer o waith yn mynd mewn i drio cadw staff.

“Ers Covid, mae pobol yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â’u gyrfaoedd, mae pobol yn gallu gwneud arian trwy weithio yn rhithiol, ar y we ac ati.

“Rydych yn gweld rhai yn gadael y proffesiwn i weithio mewn meysydd eraill, yn naturiol oherwydd eu bod nhw wedi cael cyfleoedd eraill maen nhw wedi dod ar eu traws.”

Effaith staff yn gadael

Yn ôl Dafydd Llywelyn, yn draddodiadol mae’r heddlu yn tueddu i ymddeol yn fwy buan na phobol mewn swyddi eraill, a hynny ar ôl cwblhau eu 30 mlynedd o wasanaeth.

Heddiw, mae nifer o staff sy’n gweithio dros y ffôn â llai na phum mlynedd o brofiad, sydd yn her, ac mae nifer o bethau’n cael eu gwneud i hyfforddi staff newydd.

“Mae hynny o ganlyniad i’r ffaith fod pobol sydd â thipyn o brofiad yn cael eu colli,” meddai.

“Mae’n wir, mewn plismona ar ôl rhyw 30 o flynyddoedd mae pobol yn ymddeol ta beth.

“Mae pobol yn dueddol o ymddeol o’r heddlu yn eu pumdegau.

“Mae wedi bod yn broblem i blismona ers nifer o ddegawdau.

“Mae wedi mynd yn waeth oherwydd mae cymaint o recruits newydd wedi dod mewn i’r proffesiwn.

“Mae’r rhan fwyaf o swyddogion sy’n gweithio nawr yn beth rydych yn ei alw’n response policing, y rhai sy’n gweithio yn ymateb i alwadau.

“Mae tua 50% o’r swyddogion hynny â llai na phum mlynedd o brofiad.

“Mae hynny’n effeithio ar ba mor effeithiol mae’r llu yn gallu gweithio.

“Mae pobol brofiadol efo sgiliau dros nifer o flynyddoedd.

“Mae’n heriol i ymateb i hynny, ac eto’r ffordd orau o ymateb i hynny yw sicrhau bod yna hyfforddiant cyson, fod yna bobol yna i fentora’u hunigolion.

“Felly, os yw swyddog newydd yn dod allan i weithio ar y rheng flaen, fel petai, mae gyda nhw fentor i weithio gyda nhw.

“Dyna sut rydyn ni’n trio gweithio trwy bopeth.

“Rydyn ni wedi bod yn gwneud continous improvers scheme, lle maen nhw’n mynd mewn a sicrhau bod gwersi wedi cael eu dysgu mewn sefyllfaoedd gwahanol.

“Mae senarios eraill yn gallu cael eu rhannu gyda phobol.”

Adroddiad y Farwnes Casey

Er bod Dafydd Llywelyn yn cydnabod pa mor ddamniol oedd adroddiad y Farwnes Casey ynghylch diwylliant yr heddlu, yn enwedig Heddlu Llundain, mae’n pwysleisio nad oedd yr adroddiad hwn yn benodol am y sefyllfa yng Nghymru.

Er ei fod yn cydnabod fod problemau yng Nghymru, dydy e ddim yn meddwl eu bod nhw mor ddrwg â sefyllfa Heddlu Llundain.

Dywed fod nifer o gamau’n cael eu cymryd ac am gael eu cymryd yn ardal Heddlu Dyfed-Powys a thrwy Gymru gyfan i fynd i’r afael â’r problemau o fewn yr heddlu sydd wedi’u crybwyll yn yr adroddiad.

“Mae sawl peth wedi dod ma’s o hwnna,” meddai.

“Maen nhw’n datgan bod diwylliant negyddol, diwylliant sy’n misogynistic, bod hiliaeth ar waith ac ati.

“Mae’n rhaid cofio mai adroddiad ar yr Heddlu Metropolitan yw hyn.

“Dydw i ddim yn teimlo bod y problemau sydd wedi cael eu hamlygu trwy’r adroddiad hwn, sy’n canolbwyntio ar Lundain, yr un mor wir yng Nghymru.

“Dydy e ddim ar y raddfa sydd wedi amlygu ei hun yn Llundain.

“Hynny yw, mae gennym ni ddigwyddiadau a phethau sydd wedi digwydd wrth gwrs.

“Roedd ardal Gwent yn y newyddion dim ond rhai misoedd yn ôl am ddigwyddiadau gwpwl o flynyddoedd yn ôl.

“Roedd y staff wedi ymddwyn mewn ffordd misogynistic, sexist a hiliol.

“Beth fyddwn i’n dweud ydi ein bod ni ddim yn bod yn complacent.”

Newid diwylliant

“Mae gennym sawl darn o waith ar waith,” meddai wedyn, wrth egluro sut mae modd newid diwylliant o fewn yr heddlu.

“Er enghraifft, rydym yn mynd trwy bob swyddog i ail-fetio pawb, rydym yn rhoi gwybodaeth, yn cynnwys fy enw i a phawb sy’n gweithio yn fy swyddfa i.

“Eto, [mae hyn] yn dangos arweiniad cryf yn y maes fel Comisiynydd, fy mod i wedi rhoi fy enw gerbron a bod hwnnw wedyn yn mynd trwy system yr heddlu yn gyffredinol.

“Rydym yn gobeithio trwy wneud y gwaith yna – ac rwy’n credu yn ardal Dyfed-Powys fod gyda ni hanner dwsin o unigolion sydd efallai angen ateb cwestiynau ynglŷn â diddordeb y rhai maen nhw wedi bod yn ymwneud â nhw ac sydd wedi dod allan o’r data wash – dylai hwnna roi hyder i’r cyhoedd fod prosesau a systemau mewnol gan Heddlu Dyfed Powys.

“Rwy’n ymwybodol o beth sy’n digwydd dros Gymru gyfan, fod pawb wedi mynd trwy system a bod pawb yn cael eu hail-fetio, er enghraifft.

“Mae gyda ni hefyd grwpiau sy’n edrych ar ddiwylliant.

“Mae culture group wedi cael ei osod, ac wedyn mae fy swyddfa i yn eistedd mewn ar y gwahanol gyfarfodydd sydd yn digwydd o’r grŵp diwylliant yma.

“Holl bwrpas hwnna yw cael cyfle i godi pryderon neu sïon.

“Yn aml, hen syniadau mewnol sydd yn codi, efallai bod yr adran hon yn adran lle maen nhw’n teimlo bod rhywun yn bwlio neu fod rhywun yn ymddwyn yn amhriodol.

“Mae’r grŵp yna wedyn yn gallu edrych ar bethau’n fwy agos.

“Mae gyda ni [grwpiau cymorth] sy’n cynnwys crefydd, LGBT+, mae gyda ni undebau llafur ar waith.

“Rydym yn ddiolchgar o’r cyfleoedd i rwydweithiau staff fod ar waith yn y llu.

“Maen nhw am sicrhau i ryw raddau eu bod nhw’n herio’r hyn sy’n cael ei glywed a’r sïon ag ati.

“Dw i a’r Prif Gwnstabl yn agored iawn ac yn trafod gyda phobol yn uniongyrchol os oes angen, rwy’n cael cyfarfodydd gyda rhwydweithiau gwahanol yn fewnol, ac wrth gwrs mae gyda ni adran safonau proffesiynol, a phan rwy’n siarad â swyddogion newydd rydym yn sicrhau bod gennym safonau proffesiynol uchel os yn bosib.

“Rydym yn derbyn bod problem yng Nghymru, efallai bod lefel scale y peth ddim yr un fath â’r hyn sy’n cael ei ddisgrifio yn y Met, ond mae’n debyg ein bod ni’n cydweithio ar hyd Cymru gyfan a hefyd ym mhob llu i ymateb i’r adroddiad.

“Mae yna nodau penodol, recommendations yn dod o’r adroddiad mae rhaid i ni ymateb iddyn nhw.”

Trwyddedau drylliau

Mater arall fydd yn cael sylw yw’r broses o roi trwyddedau dryllau.

Gyda mwy o drwyddedau dryllau yn ardal Heddlu Dyfed-Powys nag unrhyw ardal arall dros Gymru a Lloegr, mae’n rhaid cymryd y camau cywir ac asesu yn fanwl cyn rhoi caniatâd i gael dryllau, yn ôl Dafydd Llywelyn.

“Mae hwn eto’n un eithaf anodd,” meddai.

“Yn ardal wledig Dyfed-Powys, rwy’n credu fesul pen y poblogaidd fod gennym ni fwy o drwyddedau dryllau nag unrhyw sir arall ar draws Cymru a Lloegr, oherwydd ein bod ni’n ardal wledig a bod nifer o ddryllau yn cael eu defnyddio yn enwedig ym maes amaethyddiaeth.

“Yn gyson, rydyn ni’n cael pryderon sydd yn codi gan sawl person sydd â thrwydded, i’w wneud â’r amser mae’n cymryd i asesu.

“Beth sydd yn digwydd yw fod rhywun yn rhoi cais am drwydded, mae’r drwydded yn dal am hyn a hyn o flynyddoedd ac wedyn mae’n rhaid i chi ailgeisio am y drwydded.

“Wrth gwrs, oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd o ran diwygio’r canllawiau – ac mae hwn wedi dod o ganlyniad i’r digwyddiad llynedd neu’r flwyddyn cynt, efallai ble fuodd yna drafodaethau gan unigolyn oedd â thrwydded – mae’r lluoedd yn gorfod bod yn fwy craff ac edrych yn fwy manwl ar yr unigolion sy’n rhoi cais i gael trwydded dryllau.

“O ganlyniad i hynna, mae’r broses yn mynd i gymryd, mewn rhai achosion, misoedd i asesu’r wybodaeth.

“Mae angen cael gwybodaeth gan y doctoriaid lleol hefyd, ac mae’n swmp o waith.

“O ran craffu ar y llu, rwy’ wedi bod yn gofyn cwestiynau i’r Prif Gwnstabl.

“Nôl ym mis Rhagfyr, gofynnais gwestiwn i’r prif gwnstabl a chafodd papur briffio ei greu gan fy swyddfa i wedyn.

“Roedd y llu yn ymateb i hynny.

“Rydym yn gweld, ddim bod problemau, ond bod yna efallai heriau’n ymwneud â’r broses, yn rhannol oherwydd bod rhywfaint o backlog ers cyfnod Covid, ond hefyd mae gyda ni staff newydd sydd wedi ymuno â’r uned.

“O ran hyfforddi a chael pobol lan i gyflymder yn y gwaith, y peth mwyaf yw bod newidiadau wedi bod i’r canllawiau statudol sydd wedi newid y ffordd mae’r adran yn gweithio.

“Pwrpas penodol yr adran yw sicrhau bod pobol yn cael y trwyddedau a bod y bobol sy’n cael y trwyddedau yn bobol sydd yn gallu sicrhau bod y cyhoedd yn ddiogel pan maen nhw’n cael trwydded.

“Mae asesiad o risg yn hynod o bwysig, a dydyn ddim am gwtogi ar yr asesiad o risg i’w wneud ychydig yn gynt.

“Mae’n rhaid i bobol sydd â thrwyddedau sylweddoli ei fod yn cymryd mwy o amser nawr i brosesu’r cais.

“Mae’r cais am drwydded am gymryd ychydig yn hirach nag yr arfer oherwydd bod yna fwy.”