Mae’r argyfwng costau byw wedi amharu ar iechyd meddwl 53% o bobol yng Nghymru, yn ôl ystadegau newydd.

Yn ôl yr ymchwil gan elusen Mind Cymru, mae 58% o’r bobol sy’n dioddef gyda’u hiechyd meddwl yn dweud bod yr argyfwng wedi eu gwneud yn fwy pryderus.

Mae’r arolwg hefyd yn dangos bod 59% o bobol yn teimlo dan straen cynyddol, 48% yn teimlo’n fwy isel, a 35% yn teimlo’n unig.

Dydy 53% heb allu cael gafael ar gymorth gan feddyg teulu, a 64% heb allu cael gafael ar adnoddau ar-lein i gael gwybodaeth am iechyd meddwl, meddai’r ymchwil.

Methodd 73% ohonyn nhw â chael gafael ar gymorth drwy elusen iechyd meddwl leol hefyd, meddai Mind.

Cafodd arolwg gan Censuswide ar ran Mind Cymru ei gynnal ymysg 1,000 o bobol yng Nghymru rhwng Mawrth 24 ac Ebrill 12.

A hithau’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae Mind Cymru yn annog pobol i gael gafael ar gymorth os ydyn nhw’n cael trafferth ymdopi.

‘Newid byd’

Mae gan David o Sir Ddinbych orbryder difrifol ac anhwylder straen wedi trawma (PTSD), yn ogystal â diagnosis o awtistiaeth, ac mae ei broblemau iechyd meddwl yn golygu nad yw’n gallu gweithio.

Fe wnaeth yr argyfwng costau byw ei arwain i bryderu’n fawr am ei sefyllfa ariannol, ac mae e wedi cael cymorth gan Mind Cymru.

“Roedd fy ngorbryder difrifol a’m diagnosis o PTSD yn golygu nad oeddwn i’n gallu gweithio,” meddai.

“Roedd hyn yn fy rhoi dan bwysau oherwydd teimlais ar y pryd y buaswn i’n gorfod cael sgwrs â’r Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch y cymorth rwy’n ei gael.

“Fe wnaeth Janet, fy ngweithiwr cyswllt, yr ymdrech i ddod i fy nghartref, ac fe roddodd hi o’i hamser am bedair awr i’m helpu ar ôl i mi ddweud wrth y nyrs ar y ffôn faint yn union roedd fy iechyd meddwl yn effeithio ar fy mywyd o ddydd i ddydd.

“Roedd hyn yn frwydr go iawn – roeddwn i’n crïo ac yn cael pyliau o banig hyd yn oed – ond roedd Janet yno i mi. Dywedodd Janet wrtha i, “Dyweda’r gwir Dave, sut wyt ti’n teimlo?”.

“Rai misoedd yn ddiweddarach, ces i gadarnhad y byddwn i’n parhau i gael cymorth tan 2025 – roedd y nyrs roeddwn i wedi siarad â hi wedi gwneud yn siŵr o hynny.

“Dechreuais i deimlo’n dawelach. Roedd hyn wir yn newid byd i fi – roeddwn i’n gallu ymlacio ynghylch fy sefyllfa ariannol am y tro cyntaf yn fy mywyd.

“Er fy mod i’n parhau i gael problemau gyda fy iechyd meddwl, roedd hyn yn bwysau oddi ar fy ysgwyddau; roedd pryderon ariannol wedi gwaethygu fy iechyd meddwl fwy nag erioed.

“Fyddai hyn ddim wedi bod yn bosib heblaw bod Janet yn eistedd wrth fy ochr ac yn annog y Dave go iawn i siarad drosto’i hun. Rhoddodd hi lais i mi.”

‘Argyfwng iechyd meddwl’

Dywed Sue O’Leary, Cyfarwyddwr Mind Cymru, mai gofalu am lesiant meddyliol sydd olaf ar restr pobol o flaenoriaethu fel arfer.

“Mae’r ansicrwydd o orfod gweld costau’n cynyddu yn gallu bod yn anodd, ac mae cael cymaint o bethau i orfod delio â nhw’n gallu effeithio ar ein hiechyd meddwl,” meddai.

“Mae’n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn cael y cymorth sydd ei angen arnom – mae’r sefyllfa ariannol hon yn argyfwng iechyd meddwl, a bydd angen help ar bawb i ddelio â’r argyfwng hwn.

“Rydyn ni’n gwybod na allwn ni ddatrys yr argyfwng costau byw. Fodd bynnag, mae cymorth ar gael ar gyfer eich iechyd meddwl, ac rydyn ni yma i chi.

“Mae hyn yn cynnwys cymorth drwy Linell Wybodaeth Mind, y gymuned ar-lein Side by Side a’r wybodaeth ddefnyddiol sydd ar gael ar ein gwefan.”