Wrth ddatgan ei bwriad i sefyll fel ymgeisydd yn etholaeth newydd Merthyr Tudful a Chynon Uchaf, mae Aelod Seneddol presennol Cwm Cynon wedi beirniadu proses y Blaid Lafur o ddethol ymgeiswyr.

Beth Winter sy’n cynrychioli Cwm Cynon, tra bod Gerald Jones yn cynrychioli Merthyr Tudful a Rhymni.

O dan y cynlluniau i newid ffiniau etholiadol yng Nghymru a Lloegr, byddai’r ddwy etholaeth yn cael eu huno gydag un aelod seneddol yn cynrychioli’r etholaeth newydd.

Canlyniad y newid fydd gostyngiad yn nifer yr aelodau seneddol yng Nghymru, o 40 i 32.

Yn ôl y Blaid Lafur, bydd aelodau’n derbyn manylion ynghylch y broses o ddethol ymgeiswyr yn fuan ond mae Beth Winter eisoes yn dweud bod gormod o’r broses yn cael ei chynnal ar-lein.

‘Cyfyngu ar hawliau’

Wrth gyhoeddi ei bwriad i sefyll fel “Llais ar gyfer ein Cymoedd”, dywedodd Beth Winter ar Twitter ei bod hi’n “difaru bod Pwyllgor Gwaith Llafur Cymru wedi cyfyngu ar hawliau aelodau ac aelodau cysylltiedig”.

Eglura na fydd enwebiadau gan ganghennau, aelodau cysylltiedig, dim hystingau wyneb yn wyneb, dim cyfle i gyfarfod â darpar ymgeiswyr, a bod y broses am gael ei chwblhau yn ei chyfanrwydd “o fewn cyn lleied o amser”.

“Mae’r broses sydd wedi’i chytuno’n sathru ar hawliau aelodau ym Merthyr a Chynon i gymryd rhan mewn proses gynhwysol a chilyddol o wneud penderfyniadau,” meddai.

Dywed fod ganddi “bryderon difrifol am ddilysrwydd a thegwch y broses hon”, a’i bod hi’n “ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael” iddi.

Yn sgil beirniadaeth am brosesau annheg, dywed ei bod hi’n disgwyl i ddarparwr pleidlais ar-lein annibynnol gael ei ddefnyddio i gynnal yr etholiad.

Mae hi hefyd yn galw am roi’r hawl i bobol bleidleisio drwy’r post ac i allu mynd i hystingau wyneb yn wyneb i holi’r darpar ymgeiswyr.

Ymateb

Yn ôl y Blaid Lafur, bydd modd i bob aelod o’r blaid bleidleisio drwy’r post neu ar-lein.

Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n derbyn yr holl fanylion sydd eu hangen arnyn nhw “cyn bo hir”.