Guto Owen, Cyfarwyddwr Ynni Glân a chyd-gysylltydd HyCymru (Cymdeithas Fasnach Hydrogen Cymru), sy’n trafod ynni ac annibyniaeth, ac yn trafod ffordd ymlaen fyddai, yn ei dyb ef, o fudd i Gymru.
Ar ei ymweliad ag Iwerddon ym mis Ebrill, dywedodd yr Arlywydd Biden fod y byd yn wynebu inflection point hanesyddol, fel sy’n digwydd bob ryw gan mlynedd.
I Biden, halen y ddaear yw mega-tyfiant y sector ynni glân; a’r halen ar y briw i’w wrthwynebwyr MAGA.
Sail yr honiad yw’r ffordd mae pwerau mawr neu dueddiadau mawr economaidd yn gallu symud yn gyflym, gan adael enillwyr a chollwyr, o dro i dro. Ac mae ynni wrth wraidd y symudiadau aruthrol yma.
Ddwy ganrif yn ôl, roedd y chwyldro diwydiannol yn ei anterth dan bŵer glo, gan danio goruchafiaeth y gorllewin, ond ar draul sylweddol a dychrynllyd gwledydd ar draws y byd gan adael ei greithiau trychinebus ar Gymru hefyd.
Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, daeth olew i’r amlwg gan ysgogi gêm fawr arall ymysg y pwerau. Yn economaidd, symud cyfoeth naturiol o un rhan o’r byd i ran arall oedd y naratif, gan arwain at greu ffortiwn ar ôl ffortiwn ar hyd y ffordd, neu’r bibell neu fesul llongau enfawr.
Fe grëwyd ac fe atgyfnerthwyd gwledydd allan o gyfoeth olew ac yna nwy, wrth i’r galw am yr adnoddau crai hollol sylfaenol yma gynyddu a chynyddu gydol yr ugeinfed ganrif. Meddyliwch am y Dwyrain Canol ac America ei hun. Ond meddyliwch hefyd am Ddenmarc ac, yn enwedig, Norwy sydd, mewn cwta degawdau, wedi tyfu Cronfa Cyfoeth Sofran fwyaf y byd ac sydd bellach gwerth tua £1,100,000,000,000. Mae hyn 50 gwaith yn fwy na chyllid blynyddol Llywodraeth Cymru, sef tua £20,000,000,000. Dyna’r prif reswm pam fod (bron) pawb yn Norwy yn dreifio Teslas.
Ta waeth am Rio, Paris, Glasgow neu ba bynnag COP, dal i gynyddu mae’r galw hyd heddiw. Yn wir, ers diwedd y pandemig, mae economi’r byd wedi bod yn gwledda ar olew, nwy a glo fel petai’n ddiwrnodau olaf yr Ymerodraeth Rufeinig, gan gynnwys ehangu gorwelion drilio am olew a nwy i’r Arctig wrth i amodau mwy ffafriol ymddangos yno yn sgil cynhesu’r byd. Ydi, mae’n boncyrs ond anwybyddu Feswfiws oedd trigolion Pompeii. Heddiw sy’n bwysig ac nid fory, heb sôn am genedlaethau’r dyfodol.
Ond er mor anodd yw troi y supertanker, sef economi tanwydd ffosil y byd, o gwmpas, mae hi dal yn bosib gan fod y dechnoleg gennym bellach i gadw glo, nwy ac olew yn y ddaear. A’r adnoddau i gymryd eu lle hefyd, sef yr haul, gwynt a dŵr. Ac mae gan Gymru hen ddigon o ddau o’r rhain. A llawer iawn mwy na digon wrth ystyried gwynt y môr. Ynni adnewddadwy a hydrogen gwyrdd (i’w greu wrth hollti dŵr gyda thrydan) yw’r end game ar gyfer y gêm fawr ynni diweddaraf. Ond y tro hwn, mae’n mynnu cydweithrediad yn hytrach na chystadleuaeth, gan fod pawb yn wynebu’r un gelyn, sef cynhesu’r byd. A does dim dadlau gyda ffiseg.
Rhaid cofio hyn wrth lunio polisïau datgarboneiddio yng Nghymru. Mewn gwlad fach, ydi rhai o’n hymdrechion yn gwneud unrhyw effaith sylweddol o gwbl? Yntau ai canolbwyntio ar osod y sylfaen – a’r technolegau – ar gyfer datgarboneiddio dwfn a chyflym er mwyn gallu bod yn esiampl i eraill fyddai orau?
Mae America a nifer o chwaraewyr ynni pwysig iawn eraill ein hoes, gan gynnwys Norwy a Denmarc, yn derbyn bod angen un o’r newidiadau mawr, hanesyddol hyn, a hynny ar frys er mwyn ceisio cael unrhyw fath o reolaeth dros newid hinsawdd. Mae gwleidyddiaeth ac economeg yn hollbwysig ond eu rôl yw gosod y sylfaen ar gyfer cyflwyno’r technolegau ynni newydd ar frys ac, wrth gwrs, i leihau ein defnydd o ynni.
Beth nesaf i Gymru?
Wedi dros ugain mlynedd o drio, saff yw dweud nad yw’r drefn gyfansoddiadol wedi galluogi Cymru i osod y sylfaen yma, heb sôn am greu cyfoeth o bwys allan o ynni.
Ymysg y mesurau sydd eu hangen ar Gymru er mwyn llunio strategaeth ynni ac economaidd gynhwysfawr ac er budd Cymru – a fydd, digwydd bod, hefyd er budd ein cymdogion – mae:
- datganoli pwerau ynni heb uchafswm. Fel mae’n sefyll, dim ond y pŵer i ganiatáu prosiectau gyda chapasiti o hyd at 350MW sydd gan Lywodraeth Cymru.
- datganoli Stad y Goron, nid yn unig oherwydd yr incwm sylweddol fyddai’n dod wrth ganiatáu datblygiadau ynni ym moroedd Cymru, ond hefyd y gallu i osod y rheolau ar gyfer unrhyw ddatblygu, a gwneud hynny er budd Cymru. Ac, yn ogystal, er mwyn hwyluso datblygiadau sydd ar hyn o bryd yn gaeth oherwydd cyfyngiadau (â dweud y lleiaf) y grid, materion cynllunio a ffactorau eraill.
- datganoli Ofgem er mwyn cynllunio grid ac isadeiledd ynni, a hefyd y rheolaeth dros ynni sy’n addas i Gymru, gan gydlynu gyda safonau a rheoleiddio Ewropeaidd.
- sefydlu cwmni cenedlaethol a cwmnïau cymunedol cryf. Hen bryd i gwmni cenedlaethol gael ei sefydlu, ond ni ddylid cyfyngu’r cwmni i ddatblygiadau ar y tir yn unig. Allan ar y môr mae’r wobr fawr. Ac mae angen rhoi cymorth strategol i gwmnïau ynni cymunedol Cymru drwy dyfu eu capasiti a rhoi blaenoriaeth iddynt ar brosiectau ynni sy’n lleol iddynt.
- copïo Model Ynni Denmarc gafodd ei sefydlu mewn ymateb i’r argyfwng mawr ynni diwethaf tua 1975. Model sy’n integreiddio rheolaeth, isadeiledd a datblygiad ynni er budd cenedlaethol. Heb sôn am y cwmnïau ynni a’r fasnach anferth mae Denmarc wedi’i magu yn ei sgil – Vestas, Ørsted a Maersk, reit dda ar gyfer gwlad gyda phoblogaeth o 5.8m. Gyda llaw, mae cwmni enwocaf Denmarc am gychwyn gwneud eu Lego o hydrogen (yn lle olew, er mwyn cynhyrchu plastig) gan ddefnyddio gwynt a dŵr y wlad – model cynaliadwy iawn.
Ond yn lle gofyn am y pwerau neu’r mesurau allweddol yma fesul un – ac mi fydd y Senedd dan ddŵr cyn i’r broses ddod i ben – onid fasa’n haws i’w cael nhw i gyd, a mwy, yn awtomatig drwy annibyniaeth? Wedi’r cyfan, rydym mewn argyfwng hinsawdd ac ynni ac economaidd, a mater o ryddhau ein hynni ni – yn llythrennol – a hefyd ynni ein pobol er mwyn lleihau carbon a chreu cyfoeth fyddai hyn.
Rhyddhau Cymru i wneud penderfyniadau cyflym a chreu strategaeth addas. Er mwyn ein lles ni, ac er lles Lloegr a gwledydd cyfandir Ewrop, sydd yn farchnad ar gyfer ein hallforion ynni, gan hefyd elwa wrth fod yn bont i allforion ynni fwy byth o Iwerddon. Mae gwledydd bach, newydd yn gallu symud yn gyflym wrth ymateb i broblemau sydd, bellach, yn rhwystredig o amlwg. Ac mae’r cyfle yn fyw rŵan, nid mewn deg neu ugain mlynedd gan fod y galw am ynni glân mor fawr a byw rŵan.
Ond mae angen arian i fuddsoddi hefyd. Mae’r byd ariannol ar hyn o bryd yn boddi mewn cyfalaf sydd yn edrych am gartref da. Tybed all Cymru fod yn un o’r cartrefi da hynny? Ac nid mater o agor y drysau i eraill i elwa ar eu pen eu hunain o’n cyfoeth naturiol ni yw hyn – siawns ein bod wedi dysgu’r wers yna? Na chwaith lunio polisïau sy’n gadael briwsion ar ôl i ni. Ond yn hytrach, buddsoddi ein hunain fesul cronfeydd pensiwn er enghraifft ac, ia, mewn partneriaeth efo eraill – eu harian, eu technoleg a’u gwybodaeth. Dyma sut mae gwledydd eraill a rhai o gwmnïau mwyaf y byd yn gweithredu yn hollol normal. Ac mae hyn yn gallu digwydd yn gyflym iawn.
Ystyriwch Silicon Valley, sydd wedi taflu Apple, Microsoft, Amazon, Tesla ac ati atom. Mentrau preifat anhygoel yw’r rhain ag arian risg tu ôl iddyn nhw. Wel, ie, i raddau. Ond roedd arian pensiwn America wrth gefn y mentrau trawsnewidiol hyn o dan oruchwyliaeth Llywodraeth America. A bellach, y perygl mwyaf yw peidio buddsoddi yn fawr ac yn gyflym mewn technoleg werdd. Ystyriwch ddyfodol gweithfeydd dur a chryfderau’r sector masgynhyrchu yng Nghymru yn hyn o beth – diwydiannau sydd, fel pawb arall, yn dioddef oherwydd costau ynni, ond sydd hefyd yn gorfod datgarboneiddio er mwyn jyst aros mewn busnes.
Mae sector ariannol gref yng Nghaerdydd. Ganrif yn ôl, arwyddwyd y siec gyntaf am filiwn o bunnoedd yn y byd yn y Gyfnewidfa Lo. Pam na allwn ailgynnau’r berthynas honno rhwng arian ac ynni yng Nghymru, gan gadw ychydig o’r arian wrth gefn er mwyn trwsio’r Gyfnewidfa sydd mewn cyflwr mor druenus?
Ar hyd a lled Ewrop, mae llywodraethau wedi sefydlu cwmnïau ynni ers degawdau, eto gydag arian pensiwn yn gefn iddynt, gan greu elw mawr sy’n ariannu eu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys creu elw o brosiectau ynni yma yng Nghymru. A phob lwc iddynt. Ond ai eironi yn unig yw sefyllfa lle mae rhai o wasanaethau cyhoeddus Cymru ar eu gliniau – a ninnau ar ein gliniau yn begera am arian gan eraill – tra bod gwledydd aeddfed yn cynnal safonau uchel iawn ar gyfer eu gwasanaethau cyhoeddus yn rhannol ar sail ein hadnoddau ni? A rhai o’r adnoddau hynny mewn ardaloedd o Gymru sydd ymysg y tlotaf yn Ewrop oll. A ninnau mor gyfoethog ein hadnoddau, pam fod ein disgwyliadau mor isel?
Ydy ein problemau a’n hatebion ninnau’n rhai mewnol, wedi’r cyfan? Ased hynod werthfawr yw adnoddau naturiol Cymru. A’i hisadeiledd. Asedau sydd yn sylfeini ar gyfer buddsoddiad a menter.
Efallai bod angen ychydig o ysbryd Gwyddelig hefyd? Dros y pedair blynedd nesaf, y disgwyl yw y bydd gwarged cyllid Llywodraeth Iwerddon werth €65bn. Y swrplws, dair gwaith gymaint â holl gyllid blynyddol Llywodraeth Cymru! Mae gan Iwerddon ei materion cymdeithasol dwys, heb os, ond problem neis yw cael €65bn wrth gefn i geisio datrys y rhain.
Ac mae Iwerddon ar fin tyfu ei sector ynni gwynt a hydrogen yn ddramatig, gyda sôn am greu cronfa cyfoeth sofran Gwyddelig o’r bonanza sydd i ddod. Pam? Achos eu bod nhw’n gallu. A drws nesaf iddynt, mae yna bartner all fod yn berffaith ar gyfer helpu i allforio eu cyfoeth ynni, gan greu ei chyfoeth ei hun yn y broses drwy gwlwm ynni Celtaidd, trefn o bartneru ar ynni sydd yn hollol naturiol rhwng gwledydd o’r un statws ar draws Ewrop a’r byd.
Efallai mai edrych mwy tua’r gorllewin a dros Fôr y Gogledd ar y model llywodraethol ac economaidd yw’r peth gorau i Gymru, yn hytrach na lawr y lôn i’r dwyrain.
Os mai cwestiwn cyllell a fforc yw hanes, siawns bod yna gyfle i berswadio’r Cymry bod eu costau byw nhw’n ddibynnol, i raddau helaeth, ar ffactorau nad oes ganddyn nhw ddim rheolaeth drostyn nhw o gwbl ar hyn o bryd. Ac mai un o’r ffactorau – y ffactor pwysicaf oll – yng nghostau popeth, p’run a’i bwyd, nwyddau, gwasanaethau cyhoeddus, rhedeg busnes neu fferm – yw ynni. Y bottom-line. A chostau ynni yw’r brif ffactor tu ôl i’r naid mewn chwyddiant.
Ychydig flynyddoedd yn ôl, amcangyfrais fod pob unigolyn yng Nghymru yn gwario tua £1,000 ar gyfartaledd ar ynni (trydan, gwres, tanwydd cerbydau a.y.b.) yn flynyddol. Neu dros £3bn ar ein cyfer ni’r 3.2m oll. Bellach, wedi’r argyfwng ynni, gallwch ddyblu’r swm. A hedfan allan o’r wlad mae’r rhan helaeth o’r £6bn a mwy yna. Mae ein marchnad ynni fewnol yn sylweddol, marchnad sydd yn cynnig cyfleoedd i hunangyflenwi ynni gan gadw cyfoeth yn y wlad, heb sôn am y cyfleoedd i allforio ynni.
Yn ôl yr Almaen, hydrogen gwyrdd yw’r olew newydd. Oes angen dweud mwy?
Drwy reoli ynni y mae rheoli economi a rheoli chwyddiant. Dyna’r rheswm pam fod Biden yn wên o glust i glust wrth enwi ei fesur pellgyrhaeddol yn Fesur Lleihau Chwyddiant, yr Inflation Reduction Act, mesur sydd yn buddsoddi biliynau mewn ynni adnewyddadwy, hydrogen a masgynhyrchu lleol mewn ymateb i’r inflection point newydd.
Ond er mwyn rheoli ynni, mae angen rheoli gwlad. Ydi, mae America gan gwaith yn fwy na Chymru. Edrychwch, felly, ar Norwy sydd â phoblogaeth o 5.5m. Yn yr ychydig funudau mae wedi ei gymryd i chi ddarllen yr erthygl yma, mae Cronfa Cyfoeth Sofren Norwy wedi tyfu o ryw £5m, neu tua £15,000 ar gyfer pob unigolyn ers cychwyn y flwyddyn. Ar sail ynni. A bydd yn tyfu ymhell i’r dyfodol ar sail ynni glân hefyd.
Mae gwerth mawr mewn adnoddau naturiol ac ynni. Ac mewn cydweithio efo eraill. Cymru, felly, i sicrhau perchnogaeth dros ei hasedau ac i ddatblygu ynni ar ei thelerau hi. Ynnibyniaeth, fel fasa unrhyw wlad werth ei halen yn ei wneud.