Mae Plaid Cymru’n annog y Blaid Lafur i beidio â chefnogi cyfreithiau gwrth-brotestio’r Ceidwadwyr.

Daw’r neges gan Liz Saville Roberts, arweinydd y Blaid yn San Steffan, ar drothwy dadl fawr yr SNP ar Ddeddf y Drefn Gyhoeddus heddiw (dydd Mawrth, Mai 16).

Mae hi’n galw ar Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur yn San Steffan, i ymrwymo i ddiwygio’r gyfraith pe bai ei blaid yn dod i rym.

Mae’n dweud bod arestio protestwyr heddychlon ar benwythnos coroni Charles yn Frenin Lloegr yn dangos “pwrpas bwriadol” y ddeddf, sef “torri i lawr ar yr hawl i brotestio”, ac mae hi wedi ategu “ymrwymiad di-wyro” ei phlaid i’r hawl i brotestio.

Daw hyn ar drothwy ei hymddangosiad fel un o’r siaradwyr yn y rali annibyniaeth yn Abertawe ddydd Sadwrn (Mai 20).

Safbwynt Llafur

Mae Syr Keir Starmer wedi ategu ei gefnogaeth i Ddeddf y Drefn Gyhoeddus y Ceidwadwyr, gan ddweud wrth orsaf radio LBC ei fod yn “credu bod angen i ni adael iddi setlo, nawr ei bod hi ar y gweill”.

Ond pe bai’n methu ag ymrwymo i ddiwygio’r ddeddf, yr unig gasgliad yn ôl Liz Saville Roberts yw “nad oes bellach unrhyw wahaniaeth sylweddol rhwng y Ceidwadwyr a Llafur”.

“Doedd arestio protestwyr heddychlon yn ystod penwythnos y Coroni ddim yn eithriad, roedden nhw’n arwydd clir o bwrpas bwriadol Deddf y Drefn Gyhoeddus y Torïaid i dorri i lawr ar yr hawl i brotestio,” meddai.

“Mae gan Gymru hanes cyfoethog o wrthsefyll, o Derfysgoedd Beca i Wrthryfel Merthyr, Streic y Glowyr, a’r frwydr tros hawliau i’r iaith Gymraeg.

“Mae cefnogwyr ac aelodau’r Blaid Lafur ledled Cymru’n falch o’r hanes yma.

“Mae’n hynod siomedig, felly, fod Keir Starmer, arweinydd Llafur, yn hapus iawn i weld ein hawliau democrataidd yn cael eu sathru gan y Torïaid.

“Rydyn ni’n annog Keir Starmer i beidio ag ochri gyda’r Ceidwadwyr ar gyfreithiau gwrth-brotestio.

“Pe bai’n methu â newid trywydd, allwn ni ddim ond dod i’r casgliad nad oes bellach unrhyw wahaniaeth sylweddol rhwng y Ceidwadwyr a Llafur.

“Dydy ceidwadaeth awdurdodol, gyda roséd goch, ddim er lles pobol Cymru.

“Wrth i ni baratoi ar gyfer yr orymdaith annibyniaeth yn Abertawe dydd Sadwrn yma, mae Plaid Cymru’n ategu ein hymrwymiad di-wyro i’r hawl i brotestio.

“Byddwn yn sefyll i fyny yn erbyn y ddeddfwriaeth anghyfiawn yma ac yn amddiffyn ein hawliau democrataidd.”