Am y tro cyntaf eleni, mae Eisteddfod yr Urdd yn cynnig dull cyfathrebu Makaton mewn tair cystadleuaeth.

Ceri Bostock a Sian Willigton sy’n cyfieithu i’r Makaton yn ystod pob perfformiad yn y cystadlaethau Côr Cynradd Blynyddoedd 6 ac iau.

Y cystadlaethau lle mae Makaton yn cael ei ddefnyddio yw:

  • Côr Bl 6 ac iau ysgolion hyd at 150 o blant
  • Côr bl 6 ac iau ysgolion a dros 150 o blant
  • Côr blwyddyn 6 ac iau i Ddysgwyr

Dywed yr Urdd eu bod nhw’n falch o allu datblygu’r cynnig yma eleni, gan annog y defnydd o’r iaith a helpu cystadleuwyr ifanc gyda chyfathrebu.

‘Ddim i bobol efo anghenion yn unig’

Mae Makaton yn defnyddio arwyddion a symbolau i helpu pobol i gyfathrebu, ac yn aml caiff ei ddefnyddio ar y cyd â siarad gan bobol sy’n cael trafferth cyfathrebu ar lafar.

Er bod arwyddion Makaton yn dod o Iaith Arwyddo Prydain (BSL), mae’r ddau ddull cyfathrebu yn wahanol i’w gilydd.

Ond mae’n bwysig cofio nad yw Makaton ar gyfer pobol ag anawsterau dysgu neu gyfathrebu yn unig, yn ôl Ceri Bostock.