Mae hi’n dal yn anodd mynnu sylw i faterion ynglŷn â chamwahaniaethu ar sail rhyw, yn ôl un o enwau ffeminyddol mwyaf dylanwadol yr oes, fu’n siarad â golwg360 yng Ngŵyl y Gelli dros y penwythnos.
Daeth Laura Bates i amlygrwydd drwy wledydd Prydain ar ôl sefydlu ei gwefan Everyday Sexism yn 2012.
Mae’r wefan yn rhoi lle i ferched gofnodi enghreifftiau o gamwahaniaethu ar sail rhyw maen nhw wedi’u profi yn eu bywydau bob dydd – o’r pethau lleiaf fel galw enw ar y stryd i ymosodiadau rhyw difrifol.
Erbyn 2015, roedd tua 100,000 o gofnodion ar y wefan.
Erbyn hyn, mae’r prosiect wedi ymestyn i 25 o wledydd.
Mae hi bellach wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ar y pwnc, ac yn cyfrannu’n rheolaidd i bapurau fel The Guardian a The Independent.
Roedd hi yng Ngŵyl y Gelli yn sgwrsio gyda’r awdur Jeffrey Boakye, awdur llyfr sy’n trafod gwrywdod, hil ac addysg.
‘Mae’n gymhleth’
“Mae’n gymhleth,” meddai Laura Bates wrth golwg360 wrth iddi lofnodi ei llyfrau fel Everyday Sexism (2014), Men Who Hate Women (2020), a Fix the System, Not the Women (2022).
“Mae’n foment o gyfle gwirioneddol, oherwydd rydyn ni o’r diwedd yn cael y sgwrs yma ar raddfa genedlaethol – mae pobol yn siarad am gydraddoldeb rhyw, maen nhw’n ymwybodol o drais rhywiol, ond ar yr un pryd mae’r ymateb o safbwynt sefydliadol yn annigonol.
“Mae yna beryg ein bod ni’n gweld y sgwrs fel yr ateb, a’r realiti yw bod angen polisïau gwahanol, rheoliadau gwahanol.
“Felly mae angen pobol mewn grym i sefyll lan a gweithredu.
“Mae’n dal yn anodd cael eich clywed. Bydd hynny’n wir bob amser mewn rhai mannau.
“Mae hi o fudd i’r bobol yma gadw at y status quo. Dyw hi ddim o fudd iddyn nhw agor drysau.
“Ond ein gwaith ni yw parhau i bwyso ta beth.”
Angen “cadw ffocws”
O ystyried bod honiadau o gamdriniaeth ar sail rhyw i’w clywed ar goedd fwyfwy heddiw, beth yw’r mater sydd angen y sylw mwyaf ar hyn o bryd, ym marn Laura Bates?
“Un o’r pethau pwysicaf yw canfyddiadau ynglŷn â’r broblem,” meddai. “Y syniad mai problem merched i’w datrys yw hi. Y syniad ei bod yn fater o ddysgu merched sut i amddiffyn eu hunain, yn lle canolbwyntio ar fechgyn ac atal.
“Mae yna beryg ein bod ni’n talu sylw am ryw hyd, ac yna mae’r mater yn llithro’n ôl o dan yr wyneb, felly mae angen i ni gadw ein ffocws, nes bod y broblem wedi’i datrys.”