Mae un o golofnwyr golwg360 yn dweud bod seremonïau Chwe Awen Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin yn creu “ychydig o syrcas”.

Mae ymateb beirniadol wedi bod ar y cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig yn y grŵp Rhwydwaith Menywod Cymru, am y newidiadau i brif seremonïau’r Eisteddfod yn Llanymddyfri eleni.

Y chwe Awen

Mae’r chwe seremoni yn ystod yr wythnos yn cynrychioli chwe Awen.

Ar gyfer pob seremoni, bydd yr Awen honno yn dod yn fyw ar ffurf cymeriad o chwedl Taliesin.

Wedi eu gwisgo mewn gwisgoedd wedi’u cynllunio gan y dylunydd Efa Dyfan, mae’r chwe cymeriad – wedi eu chwarae gan aelodau presennol o gwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd – yn dechrau pob seremoni wedi’u gwasgaru ar hyd y Maes.

Wrth i amser y seremoni agosáu, mae’r chwe chymeriad yn cerdded tuag at y llwyfan gan ddenu cynulleidfa i’w dilyn.

Mae un Awen yn cymryd yr awenau bob dydd, ac yn cynrychioli cystadleuaeth benodol.

Yr Awen benodol sydd yn tywys y beirniad i’r llwyfan i draddodi’r feirniadaeth, ac ar ôl hynny mae’r rhai ddaeth yn ail ac yn drydydd yn cael eu henwi.

Mae’r enillydd, sydd yn rhan o’r gynulleidfa, yn cael eu gwahodd i gamu i’r golau wrth i olau ddisgleirio ar ganol y llawr, ac mae Awen y dydd yn mynd i gyfarch yr enillydd.

I gloi’r seremoni, mae cerdd gyfarch benodol i’r enillydd yn cael ei rhannu gan y beirniad cyn i’r enillydd gael eu tywys gan y chwe Awen drwy’r gynulleidfa i gerddoriaeth yr arwyddgân ‘Sain Cerdd a Chân’.

Mae’r Prif Seremonïau i gyd yn digwydd bob dydd am 2 o’r gloch, a hynny ar Lwyfan y Cyfrwy.

‘Nid sioe feithrin ydi hi’

Gan bostio post ar Rwydwaith Menywod Cymru, mae un ddynes wedi codi ei llais am ei gwrthwynebiad i’r newidiadau.

Mae Malan Wilkinson, sy’n ysgrifennu colofn ‘Cymeriadau’ i golwg360, wedi cael dros 200 o sylwadau yn ôl, gyda nifer fawr yn cytuno gyda hi.

“Ddim yn hoffi’r cymeriadau sy’n tywys beirniaid/ennillwyr yr Urdd i’r llwyfan eleni,” meddai.

“Be’ ydach chi’n feddwl? Deall sentiment y peth, ond imi mae’n edrych ychydig yn blentynaidd ac yn tynnu’r ffocws oddi ar y prif beth, yr enillwyr a gwaith yr unigolion.

“Chydig o syrcas dydi.

“Bechod am hynny.

“Nid sioe feithrin ydi hi, naci.

“Mae’r enillwyr yma wedi gweithio am flynyddoedd ac oriau lawer i gael eu tywys ac anrhydyddu gan fochyn / pysgodyn a beth bynnag arall ydi’r gweddill i fod.

“Mae’n edrych fel jôc.

“Nid pantomeims ydi’r seremonïau yma ond Prif Seremonïau Gobrwyo yr ŵyl.

“O’n i’n meddwl ’mod i wedi ‘gate-crasho’ Gŵyl Anifeiliaid/Amaethyddol/Bwyd am dipyn!!

“Gwallgofrwydd.

Sesame Street meets Teletubbies meets The Masked Singer Urdd Gobaith Cymru. Plis gwrandewch ar eich cynulleidfa.

“Mae modd annog a grymuso pobol ifanc greadigol i gyfrannu mewn sawl ffordd amrywiol heb wneud yn ysgafn o ymdrech a chyflawniad enillwyr.

“Plis ymgynghorwch.

“Mae tro U-bedol dal yn bosibl ac mae trafodaeth agored yn beth iach.”

‘Ystyried, gwerthuso a thrafod’

Wrth ymateb i feirniadaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, dywed yr Urdd y byddan nhw’n “ystyried, gwerthuso a thrafod” y newidiadau.

“Wrth gwrs, gyda newid daw gwahaniaeth barn ac rydym yn ymwybodol o sylwadau rhai unigolion ar y newidiadau,” meddai llefarydd.

“Fel bob datblygiad newydd yn yr Urdd fe fyddwn yn ystyried, gwerthuso a thrafod strwythur newydd y seremonïau gyda’n rhanddeiliaid yn dilyn Eisteddfod yr Urdd eleni.”

Trawsnewid prif seremonïau’r Eisteddfod gan Gwmni Theatr yr Urdd

Dywed yr Urdd eu bod nhw am “ailddychmygu teimlad, awyrgylch a strwythur” y seremonïau