Mae dau garcharor ifanc o Garchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cipio dwy o wobrau Celf a Chrefft Eisteddfod yr Urdd eleni.
Mae’r Urdd yn cyhoeddi partneriaeth newydd gyda Charchar y Parc heddiw (dydd Mercher, Mai 31).
Ym mis Chwefror, roedd un o swyddogion y Carchar wedi dod at yr Urdd a gofyn a fyddai’r carcharorion yn cael ymgeisio am gystadlaethau Celf, Dylunio a Thechnoleg yr Eisteddfod.
Mi gawson nhw, ac mae dau wedi cael llwyddiant yn enw ‘Aelwyd y Parc’.
Cafodd dau fachgen ifanc rhwng 18 a 25 oed wobrau cyntaf ac ail yn y gystadleuaeth ‘Gwaith 3D Blwyddyn 10 a dan 25 oed Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymedrol (unigol neu grŵp)’.
Maen nhw wedi gwneud dau ddarn o waith coed – y naill yn flwch ag arno’r tair pluen ‘Ich Dien’, a’r llall yn flwch pren, syml, trawiadol ag arno’r llythrennau ‘H.M.P.’. Mae’n debyg mai ffugenwau yw’r ddau enw o dan y gwaith.
Mi gynorthwyodd yr Urdd swyddogion y Carchar i gynnal eisteddfod yn y carchar yn gynharach eleni hefyd.
‘Estyn allan’
Esboniodd Prif Weithredwr yr Urdd wrth gylchgrawn Golwg fod y cywaith gyda Charchar y Parc yn cyd-fynd â’r strategaeth ‘Urdd i Bawb’, er mwyn i’r mudiad “estyn allan i’r bobol sydd ddim wedi ymwneud efo’r Urdd”.
“Dw i’n falch i ddweud bod yna ddau o gystadleuwyr y carchar wedi ennill yn y gystadleuaeth genedlaethol, ac mae eu gwaith nhw’n cael ei arddangos yn y babell celf a chrefft eleni,” meddai Siân Lewis.
Fe gafodd rhai o swyddogion yr Urdd y cyfle i gyfarfod â rhai o’r bechgyn yn y carchar – rhai ohonyn nhw wedi cael profiadau fel mynd i wersyll yr Urdd Llangrannog, a chystadlu yn yr Eisteddfod.
“Maen nhw wedi ailgysylltu (gyda’r Urdd) drwy’r bartneriaeth hyfryd rydan ni’n ei wneud,” meddai.
“Beth rydan ni’n awyddus i wneud efo’r Parc, fel rydan ni’n ei wneud gyda’r strategaeth Urdd i Bawb, ydi gweld sut allwn ni ddatblygu’r bartneriaeth yma.
“Mae’r rheiny’n drafodaethau sy’n digwydd rhyngon ni a Charchar y Parc ar hyn o bryd.”
Darllenwch gyfweliad llawn Siân Lewis yng nghylchgrawn Golwg fory (dydd Iau, Mehefin 1).