Y cyflwynydd Heledd Cynwal yw Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri heddiw (dydd Mercher, Mai 31).
Cafodd ei geni yng Nghaerdydd, lle treuliodd ei blynyddoedd cynnar yn ysgolion cynradd Bryntaf a Choed y Gof, cyn symud i Fethlehem yn Sir Gâr yn naw mlwydd oed.
Bu’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Bethlehem ac Ysgol Gyfun Bro Myrddin cyn graddio o Brifysgol Aberystwyth.
Cafodd y cyfle i ymuno â thîm Uned 5 wedyn, ac mae’n dweud mai dyma’r sylfaen gorau posib iddi yn y byd darlledu wrth gyflwyno rhaglenni byw ddwywaith yr wythnos.
Treuliodd sawl blwyddyn yn cyflwyno Wedi 7 a Heno, ac ymgymerodd â’r her o gael cymuned Dyffryn Tywi ynghyd i lwyfannu sioe Nadolig yn y gyfres Seren Bethlehem.
Dros y blynyddoedd, mae wedi mwynhau cyflwyno digwyddiadau fel Côr Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sylwebu ar y Sioe Frenhinol, ac yn fwy diweddar mae wedi cael y profiad gwych o grwydro Cymru yn y gyfres Cynefin.
‘Hir oes’ i’r Urdd
Cychwynnodd Heledd Cynwal ei diwrnod gyda sgwrs ddagreuol ar Faes yr Eisteddfod.
“Pan ofynnodd yr Urdd i fi os fydden i’n dymuno bod yn Llywydd y Dydd yn Llanymddyfri eleni, wnes i ddim gorfod meddwl ddwywaith cyn ateb yn hynod, hynod o gadarnhaol,” meddai.
“Ac yn enwedig hefyd gan ei bod hi’n Eisteddfod leol.
“Mae gwreiddiau’r ardal yn ddwfn iawn, gyda’r fferm deuluol, Cwm Cynwal, lawr yr heol yn ochrau Llanwrda, a fy nhadcu wedyn, David Cynwal Evans, yn arfer perchen ar gwmni tractor yn Llangadog.
“Roedd y ffaith fod yr ŵyl anhygoel yma yn mynd i gael ei chynnal mor agos at gartre’ – 8.1 milltir i fod yn fanwl gywir – yn gwneud yr holl beth yn fwy sbesial byth.
“Fi a Mistar Urdd yn mynd yn ôl yn bell.
“Ni’n dipyn o fêts, ac mae e wedi agor fy llygaid i gymaint o wahanol bethau ac mae’r atgofion yn parhau’n gryf.
“Mae Mistar Urdd yn ffrind mor dda ac wedi cynnig jobi fi am sawl blwyddyn ar y teledu – swydd a phrofiad wna i fyth, fyth cymryd yn ganiataol.
“Mae yna un flwyddyn fydd yn sefyll yn y cof am amser hir – 2020 a rhyfeddod Eisteddfod T.
“Pan oedd y genedl ar ei gliniau yn ystod Covid, fe wnaeth y digwyddiad chwyldroadol yma roi pwrpas, codi calonnau a chodi gwên, ac mae hi’n wythnos fydda i yn ei thrysori am byth.
“Ers hynny, dw i yn rhyfeddu cymaint mae’r Urdd yn datblygu ac yn esblygu o flwyddyn i flwyddyn – yn gyffrous, yn gynhwysfawr, yn flaengar ac yn fudiad sy’n parhau i estyn llaw.
“100 mlynedd o deithio ardaloedd yn tyfu gydag ein gilydd fel coedwigoedd’ – dyna i chi eiriau agoriadol cân swyddogol yr Urdd eleni.
“Dw i’n gwbl hyderus mai parhau i dyfu y bydd y mudiad.
“Diolch o waelod calon am roi’r cyfle i fi heddiw i ddangos cymaint mae’r Urdd yn golygu i fi, ac mae cael gwneud hynny gartre’ yn felysach byth.
“Hir oes, iechyd da, a wela i chi yn Triban!”
Cwestiwn ac ateb gyda Heledd
Beth yw dy hoff atgof o’r Urdd?
Un o fy atgofion cynharaf yw pan es i i Wersyll Llangrannog gyda’r ysgol gynradd. Wedi i ni gyd ymgynnull yn y ffreutur, pwy ddaeth draw ond T Llew Jones! Adroddodd stori ysbryd i ni, yn llwyr o’i galon, a dwi’n cofio fe fel ddoe – fe’n pwyso yn erbyn y rheiddiadur a llond ffreutur o blant yn hongian oddi ar bob gair oedd yn dod o’i geg. Mae cael dweud dy fod wedi cael y profiad yna yn beth mawr achos o’n i wrth y modd â’i lyfrau hefyd, felly oedd hona’n dipyn o foment.
Wnest ti erioed gymryd rhan/ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd ac ydy’r profiad o gystadlu wedi bod o fudd yn dy fywyd proffesiynol?
O ran paratoi at yrfa broffesiynol, mae cystadlu yn bendant wedi cyfrannu’n fawr. Dwi’n cofio fod yn rhan o Ŵyl Ddrama gyda’r Urdd a chwarae rhan Now yn ddrama Y Ffin gan Gwenlyn Parry. Buodd Helen Jenkins a finnau’n cydweithio a chawsom ni dipyn o lwyddiant. Mae meddwl nôl ar yr holl ymarferion, y cydweithio, y gwaith tîm sy’n mynd mewn i baratoi yn drylwyr at gystadleuaeth, yn gymaint o ran a’r cystadlu ei hunan ac mae’r holl waith paratoi yn talu ar ei ganfed nawr achos dwi’n gwybod pwysigrwydd paratoi yn drylwyr cyn gwneud unrhyw beth.
Mewn tri gair, disgrifia ardal Sir Gaerfyrddin i bobol sydd erioed wedi ymweld o’r blaen.
Hardd, cymunedol, a chroesawgar.
Beth, yn dy farn di, yw’r newid mwyaf am ŵyl Eisteddfod yr Urdd ers pan oeddet ti’n aelod a’r Eisteddfod heddiw?
O’n i’n dechrau ar fy siwrnai gyda’r Urdd ar ddechrau’r 80au felly yn amlwg mae tipyn wedi newid ers hynny. Dwi bellach yn meddwl bod gŵyl yn rhan allweddol o’r disgrifiad. Mae hi yn Ŵyl ac mae cyfleoedd i bawb arddangos eu doniau. Mae wedi datblygu ac esblygu gymaint. Ta beth yw dy ddyleit ti mewn bywyd, mae ’na le i ti i fwrw dy brentisiaeth gyda’r hyn yr wyt ti’n mwynhau. Boed ar y llwyfan neu tu ôl i’r llwyfan.
Dwi’n meddwl hefyd bod Eisteddfod T yn bendant wedi gorfod symud pethau ymlaen. Fe wnaeth yr Urdd ymateb yn ardderchog i gyfnod mor heriol ag oedd yn gwasgu arnom ni gyd a fi’n credu ei fod wedi blodeuo eto ers hynny, yn enwedig gyda chystadlaethau rhestr T. Dwi’n meddwl ei fod yn gynhwysol iawn gan fod cyfle i bawb.
Hefyd ers llynedd mae Gŵyl Triban yn ychwanegiad bendigedig i’r Eisteddfod gyda chyfle i bobl ifanc a theuluoedd i gyd adael eu gwallt lawr ar ôl gweithio mor galed. Mae’n gyfle i gwrdd â phobl newydd a chael clywed talent ardderchog sydd gyda ni yng Nghymru. Dwi’n meddwl bod y cyfle i weld hwnna yn arbennig.
Pe baet ti’n aelod o’r Urdd heddiw, pa gyfleoedd hoffet ti fod yn rhan ohonyn nhw?
Dwi wastad wedi edmygu’r dawnsio disgo! Mae’r safon tu hwnt bob blwyddyn felly bydden i’n hoffi fod yn rhan o dîm neu grŵp dawnsio disgo.
Dwi hefyd yn meddwl bod y bartneriaeth rhwng yr Urdd a TG Lurgan yn Iwerddon yn rhywbeth cyffrous iawn a dwi’n siŵr pe bawn i’n berson ifanc heddiw, byddwn i’n hoffi bod yn rhan o brosiect fel hyn. Mae’n rhywbeth sy’n clymu ni a phobl ifanc yn Iwerddon; lle mae dwy wlad yn deall ei gilydd ac yn cydweithio mor greadigol. Bydden i wrth fy modd yn bod yn rhan o rywbeth fel hyn.
Beth mae bod yn Llywydd y Dydd Eisteddfod yr Urdd yn ei olygu i ti?
Mae bod yn Llywydd Eisteddfod yr Urdd yn rhywbeth sy’n meddwl lot fawr iawn i mi. Pan ges i fy ngofyn o’n i wrth fy modd. Mae gen i berthynas hir gyda’r Urdd ar ôl bod yn aelod ers yn groten fach yn Ysgol Coed y Gof yng Nghaerdydd, yn Ysgol Bethlehem ac wedyn yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin.
Dwi hefyd wedi bod yn ddigon lwcus o fod yn rhan o ddarlleniadau’r Urdd ers blynyddoedd ar S4C, ac mae hwnnw wedi bod yn hynod werthfawr wrth weld yr ŵyl yn datblygu, a bod yn rhan o hynny.
Hefyd, mae gweld y bobl ifanc y tyfu lan a’u gweld nhw’n cael gyrfaoedd arbennig mewn cymaint o wahanol feysydd. Mae tri o blant gyda fi a pob un ohonyn nhw’n aelodau ac wedi cael profiadau gwych gyda’r mudiad ar sawl lefel – yn gymdeithasol, yn gystadleuol, yn ymweld â’r gwersylloedd ac mewn gweithgareddau chwaraeon.
Mae’r ffaith fy mod i’n cael bod yn Llywydd ar dir fy hunan yn Sir Gar yn dod â ti yn agosach at y profiad. Mae’n gyfle i ddangos gwerthfawrogiad i fudiad yr Urdd a hefyd yn gyfle i ddangos gwerthfawrogiad i’r ardal sydd wedi rhoi gymaint i fi fel croten yn tyfu lan yn Sir Gaerfyrddin.
Beth fyddai dy brif gyngor i’r rhai sydd yn cystadlu yn yr Eisteddfod wythnos yma?
Cofiwch am eich holl waith caled a mwynhewch y profiad o gydweithio tuag at rywbeth. Os ydych yn gweithio fel tîm bydd hynny’n brofiad arbennig i chi. Os ydych chi’n nerfus, cofiwch fod pawb arall hefyd yn nerfus! Mwynhewch y profiad, ac ar ôl hynny ymlaciwch a gwnewch y mwyaf o fod ar y maes yn Llanymddyfri gan fachu ar bob cyfle i grwydro, i gymdeithasu, ac i wneud ffrindiau newydd am oes. Mwynhewch bob eiliad o Sir Gar.
Pob lwc i bawb sy’n cystadlu a diolch o galon i bawb sy’n hyfforddi – yr athrawon a’r teuluoedd. Mae’r gefnogaeth wrth bawb mor bwysig i Eisteddfod lwyddiannus. Diolch yn fawr iawn i bawb yn yr ardal, achos fel bob blwyddyn, mae’r ardal wedi gweithio yn hynod o galed i sicrhau bod croeso arbennig i bobl yn Sir Gar. Ni fel sir yn edrych ymlaen at groesawu pawb yma a gobeithio bydd pawb yn cael wythnos i’w chofio yn Llanymddyfri!