Mae Plaid Cymru wedi codi pryderon ynghylch effaith negyddol cytundebau masnach y Deyrnas Unedig ag Awstralia a Seland Newydd ar Gymru.
Mae’r mater wedi’i grybwyll gan Ben Lake, llefarydd amaeth y blaid yn San Steffan, wrth iddo annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnwys y gwledydd datganoledig yng nghytundebau masnach y dyfodol, o gofio “methiant amlwg” gweinidogion i “hybu buddiannau economi Cymru”.
Yn sgil y cytundebau, bydd tariffau ar gynnyrch amaethyddol yn cael eu dileu bob yn dipyn, ond mae Plaid Cymru’n rhybuddio y bydd hynny’n niweidio amaeth yng Nghymru yn y pen draw.
Mae dileu tariffau’n codi pryderon am effaith mewnforion o’r ddwy wlad heb eu rheoleiddio, yn enwedig mewn sectorau sensitif megis cig eidion, cig oen, llaeth a garddwriaeth, allai gael effaith negyddol ar ffermwyr a’r economi’n ehangach, yn ôl Plaid Cymru.
Yn ôl Ben Lake, mae’r Deyrnas Unedig “o’u hewyllys wedi rhoi mynediad helaeth heb gyfyngiadau yn y pen draw i’n marchnadoedd ar gyfer cig eidion, cig oen a chynnyrch llaeth o ddwy wlad amaethyddol fawr, a’r cyfan oll wrth geisio penawadau gwleidyddol cyfleus”.
Mae’n eu hanngo nhw i gydnabod effaith y cytundebau masnach gyda’i gilydd ar ffermio yng Nghymru, gan ychwanegu bod hyn yn bwysig yng nghyd-destun trafodaethau honedig Llywodraeth y Deyrnas Unedig â Chanada a Mecsico ynghylch y posibilrwydd o sefydlu cytundebau masnach yn y gwledydd hynny hefyd.
‘Pennod bryderus’
“Mae cychwyn cytundebau masnach y Deyrnas Unedig ag Awstralia a Seland Newydd yn nodi dechrau pennod bryderus i ffermio yng Nghymru,” meddai Ben Lake.
“Fe wnaeth dileu’r tariffau ar gynnyrch amaethyddol yn y cytundebau masnach hyn osod cynsail peryglus y bydd gwledydd eraill bron iawn yn sicr yn eu defnyddio wrth drafod â Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Rhybuddiodd Plaid Cymru am yr effaith y byddai’r cynsail peryglus hwn yn ei chael, ac mae’n destun siom fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi penderfynu ildio ar y pwynt yma ar gyfer enillion bach iawn.
“Mae’r Deyrnas Unedig, o’u hewyllys, wedi rhoi mynediad helaeth heb gyfyngiadau yn y pen draw i’n marchnadoedd ar gyfer cig eidion, cig oen a chynnyrch llaeth o ddwy wlad amaethyddol fawr, a’r cyfan oll wrth geisio penawadau gwleidyddol cyfleus.
“Mae goblygiadau’r cytundebau masnach hyn i economi Cymru’n ddifrifol.
“Mae amaethyddiaeth yn cyflogi dros 52,800 o bobol ac yn cyfrif am 3.2% o swyddi’r gweithlu, ffigwr sydd yn nodedig am basio cyfartaledd y Deyrnas Unedig o 1.1%.
“Mewn ardaloedd gwledig fel fy etholaeth fy hun yng Ngheredigion, mae amaeth, coedwigaeth a physgota’n cyfrif am fwy na 12% o’r gweithlu lleol.
“Wrth i’r trafodaethau â Chanada a Mecsico fynd yn eu blaen, mae’n hanfodol fod gwarchodaeth o’r farchnad yn cael ei chynnal.
“Mae methiant amlwg Llywodraeth y Deyrnas Unedig i hybu buddiannau economi Cymru mewn trafodaethau blaenorol yn tanlinellu pwysigrwydd rhoi llais i’r gwledydd datganoledig yn nhrafodaethau’r dyfodol.”