Mae Gwasg Carreg Gwalch yn cefnogi’r ymgyrch i warchod cartre’r Beasleys, ac yn cyfrannu at addysgu pobol ifanc leol am yr hanes.

Daeth Eileen Beasley â’i gŵr Trefor i amlygrwydd yn ystod y 1950au am eu hymgyrch yn erbyn Cyngor Dosbarth Gwledig Llanelli.

Gwrthododd y Beasleys dalu eu biliau treth nes eu bod yn derbyn copi yn Gymraeg, yn hytrach na’r fersiwn uniaith Saesneg gafodd ei hanfon atyn nhw.

Bu’n rhaid i’r cwpwl ymddangos mewn 16 achos llys dros gyfnod o wyth mlynedd, a chafodd tipyn o’u heiddo personol ei gymryd oddi arnyn nhw.

Ond enillodd y cwpwl eu brwydr yn 1960, pan gytunodd Cyngor Dosbarth Llanelli i ddarparu biliau treth yn ddwyieithog.

Yn ddiweddar, daeth yn amlwg fod cartre’r Beasleys yn Llangennech yn Sir Gaerfyrddin yn mynd â’i ben iddo, a bod peryg i’r hanes ddiflannu gyda’r adeilad.

Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli wedi rhoi cynnig i brynu’r tŷ adnabyddus er mwyn ei achub, ac mae Gwasg Carreg Gwalch wedi creu partneriaeth gyda’r Fenter er mwyn cefnogi’r ymgyrch.

Sut fyddan nhw’n cyfrannu?

Bydd Gwasg Carreg Gwalch yn rhoi copi o’r nofel Darn Bach o Bapur gan Angharad Tomos i blant Sir Gâr.

Bydd cyfle i gwsmeriaid gyfrannu £20 o nawdd am un nofel, a bydd y rhodd yn rhan o £1,000 fydd yn cael ei roi i’r gronfa i brynu 2 Yr Allt, Llangennech.

Mae Darn Bach o Bapur yn llyfr i blant sy’n cyflwyno hanes hynod y Beasleys.

Dylai’r sawl sy’n dymuno cefnogi’r ymgyrch fynd i stondin Gwasg Carreg Gwalch ar Faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri.