Bydd Cyngor Gwynedd yn cynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth fis nesaf i unrhyw aelod o staff sy’n gweithio â phobol sydd â nam ar eu golwg.

Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnig yn Gymraeg ar Fehefin 16 rhwng 9.30yb-12.30yp yn Ystafell Enlli yng Nghaernarfon, a bydd cwrs trwy gyfrwng y Saesneg yn yr un lleoliad yn ddiweddarach yn y flwyddyn ar Fedi 15.

Dafydd Eckley a Nick Thomas o Gymdeithas y Deillion Gogledd Cymru yw’r hyfforddwyr.

Prif nod yr hyfforddiant yw darparu’r sawl sy’n cael ei hyfforddi â’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i ddarparu gwasanaeth addas i unigolion â nam ar eu golwg, gan gynnwys unigolion ag anawsterau ychwanegol, megis nam clyw neu amhariad arall.

Ar derfyn yr hyfforddiant bydd yr hyfforddai:

  • yn teimlo’n fwy hyderus i weithio ac unigolion a nam golwg
  • yn gwerthfawrogi yn fwy anghenion amrywiol unigolion dall neu rannol ddall
  • yn meddu ar well dealltwriaeth o wahanol gyflyrau a’u heffaith ar fywyd dyddiol unigolyn
  • yn deall effaith eu hamgylchedd ar unigolion â nam golwg
  • yn meddu ar sgiliau arwain sylfaenol i gefnogi unigolion â nam ar eu golwg
  • yn meddu ar wybodaeth am wasanaethau lleol a chenedlaethol i gefnogi unigolion â nam ar eu golwg.

Bydd unigolyn â nam ar eu golwg yn cyflwyno rhannau o’r cwrs, gan rannu o’u profiadau ac ateb cwestiynau.

Trafferthion symudedd

Yn ôl Dafydd Eckley, mae pobol â nam ar eu golwg yn cael trafferth â’u symudedd hefyd, ac mae hynny ymhlith y prif heriau maen nhw’n eu hwynebu.

“Mae’n amrywio o berson i berson, yn dibynnu ar beth oedd eu harferiad nhw,” meddai wrth golwg360.

“Mae rhai pobol, wrth reswm, y mwyafrif rydym yn gweithio efo nhw, sydd ddim yn cael gyrru mwyach.

“Felly mae anghenion symudoledd, mynd i le i le, defnyddio bysus a threnau ac yn y blaen, neu ffeindio’u ffordd o un lle i’r llall yn ddiogel.

“Mae hwnna’n un agwedd o’n gwaith ni.

“Symudedd ydy’r agwedd yna.

“Weithiau, mae pobol yn gorfod defnyddio ffon wen hir, er enghraifft os ydy rhywun efo lefel golwg isel iawn mae’r ffon wen yn symud chwith a de, ac yn sicrhau eu bod nhw’n cerdded ar hyd y lôn soled a diogel, a bo nhw ddim yn cerdded mewn i bethau.

“Rhan arall o symudedd ydy helpu pobol efo nam golwg i ddod i wybod eu hamgylchedd yn well.

“Er enghraifft, os ydym yn defnyddio’r ffon wen ym Mangor, byddan ni’n cerdded fyny’r lôn, mae yna wahaniaeth ar y llawr er enghraifft.

“Mae yna lwybr ar hyd Stryd Fawr Bangor sydd fel coridorau mawr.

“Mae pobol yn gallu dilyn hwn efo ffon, mae’r ffon yn teimlo hynna.

“Wedyn dod i adnabod ble mae’r siopau.

“Os ydach chi’n cerdded heibio i ambell siop gerddoriaeth, mae cerddoriaeth yn dod at bobol, neu’n cerdded heibio junction a byddech yn teimlo’r haul ar eich wyneb ac yn y blaen, a defnyddio’r synhwyrau eraill i ffeindio’ch ffordd o le i le.”

Trafferthion yn y cartref

Mae llawer o bobol sydd â nam ar eu golwg â rhywfaint o olwg o hyd, ac mae newidiadau sy’n gallu cael eu gwneud i bobol sy’n cael trafferth yn y cartref.

“Yn aml iawn, mae llawer o’r bobol rydym yn gweithio efo nhw â rhywfaint o olwg ddefnyddiol,” meddai wedyn. “Nifer helaeth a dweud y gwir.

“Ychydig iawn o bobol sy’n hollol ddall rydym yn gweithio efo nhw.

“Yn eu cartrefi, rydym yn sicrhau bod golau da.

“Mae goleuadau yn sicrhau bod rhywun sydd efo trafferth efo’u golwg yn gwneud y defnydd gorau o’r golwg sydd ganddyn nhw ar ôl.

“Hefyd, mae yna lawer o offer ar gael i helpu pobol yn y gegin ac mae yna beiriant bach sy’n eistedd ar ochr cwpan ac yn gwneud sŵn wrth i’r dŵr berwedig gyrraedd y lefel, felly’n lleihau’r siawns i rywun losgi.

“Mae yna gloriannau sydd yn siarad os ydyn nhw’n pwyso blawd neu siwgr ac yn y blaen. Mae yna lawer o offer a theclynnau felly.”

Trafferthion cyfathrebu

Mae bod yn ddall yn effeithio ar allu pobol i gyfathrebu drwy ddarllen neu wylio teledu, ac mae yna chwyddwydrau ar gael i helpu pobol.

“Agwedd arall ydy cyfathrebu,” meddai Dafydd Eckley.

“Yn amlwg, y cam cyntaf ydy chwyddwydrau ac mae yna wasanaethau ledled Cymru ble mae pobol efo cyflyrau golwg yn gallu cael asesiad gan optegydd, ac mae chwyddwydrau ar eu cyfer nhw ac maen nhw’n gallu derbyn y chwyddwydr yna’n rhad ac am ddim.

“Mae’r chwyddwydrau’n amrywio o chwyddo pethau i ddwywaith eu maint i ddeg gwaith eu maint.

“Yn yr asesiad, mae’r optegydd yn trio ffeindio’r lefel chwyddiant orau i’r unigolyn fel bod o ddim yn or-chwyddedig, fel bod darllen yn drwsgl iawn ond digon i alluogi nhw i ddarllen.

“Yn aml iawn, mae pethau fel tabledi ac yn y blaen efo print mân iawn, neu gyfarwyddiadau coginio, faint o amser i roi yn y popty, mewn print mân iawn.

“Mae’n ddefnyddiol ar gyfer pethau felly, ynghyd â darllen llyfrynnau, gohebiaeth a phapurau newydd ac yn y blaen.

“Mae yna offer chwyddo sy’n mynd tu hwnt i hynna, offer electronig efo camera a fideo bach.

“Mae hwnna’n gallu chwyddo print i hyd at 40 gwaith yn fwy.”

‘Ystod eang o offer ar gael’

Gwaith Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru yw addysgu pobol am yr offer sydd ar gael i helpu efo nam ar y golwg.

Mae rhai pobol yn hoffi gwrando ar lyfrau llafar yn hytrach na darllen, ac mae Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru a chymdeithasau eraill yn eu creu nhw.

“Mae rhan o’n gwaith ni’n sicrhau bod pobol yn gwybod am yr ystod eang o offer sydd ar gael felly hefyd,” meddai Dafydd Eckley.

“Tu hwnt i hynny hefyd, mae posib darllen efo golwg rwystredig heblaw weithiau mae gwell gan bobol wrando.

“Mae llyfrau llafar ar gael.

“Rydym ni fel cymdeithas efo stiwdio, ac rydym yn recordio yn ddyddiol nofelau i oedolion ac i blant.

“Mae rheina ar gael yn ein llyfrgell.

“Dim ond mynd ar ein gwefan sydd angen, a chewch wybod mwy am yr ystod eang o lyfrau sydd gennym ni eisoes.

“Mae yna gymdeithas arall yng Nghaerfyrddin, efo llyfrgell arall debyg yn Gymraeg.

“Wedyn mae’r RNIB efo dros 30 o deitlau, nofelau, yn Saesneg.

“Erbyn hyn, mae’n bosib chwarae’r llyfrau llafar yma naill ai ar CD neu ar USB, ac wedyn mae yna offer arbenigol i chwarae USBs llyfrau llafar.”

Arwain a thywys

Wrth ofalu am berson â nam ar eu golwg, weithiau mae’n rhaid eu harwain neu eu tywys, ac mae ffordd arbennig a phwrpasol o wneud hyn er mwyn bod yn effeithlon a diogel.

Fel rhan o’r cwrs, bydd mynychwyr yn cael y profiad o fod yn ddall a chael eu tywys, ac hefyd y profiad o dywys.

“Os ydych yn gofalu am rywun efo nam golwg, mae’n bwysig bod gennych ddigon o hyder i’w harwain nhw o gwmpas yr adeilad, tu mewn neu tu allan, yn ddiogel,” meddai Dafydd Eckley.

“Pan ydych yn arwain rhywun, mae dipyn o gyfrifoldeb gennych am eu diogelwch, felly mae cael hyfforddiant ar sut i wneud hynny yn ofnadwy o bwysig o ran diogelwch y ddau berson a’u hyder.

“Pan ydych yn cael eich arwain gan rywun, a dyna ran o’r cwrs, rydym yn rhoi mwgwd ar bobol a chael rhywun arall i’w arwain nhw.

“Mae hynny’n rhoi llawer mwy o empathi i’r sawl sydd efo mwgwd, a sut mae’n teimlo i gael eich arwain gan rywun arall, a faint o ffydd rydych yn gorfod rhoi yn y person yna.

“Wrth gwrs, i’r person sydd yn arwain, mae’n rhoi cyfle iddyn nhw ymarfer a’u bod nhw’n fwy ystyrlon o’u geirfa er enghraifft.

“Os ydych yn dweud wrth rywun sydd efo dim golwg, “Draw fan’na!”, dydy o’n golygu dim byd iddyn nhw.

“Rydych yn gorfod gwybod eich dde a chwith, a rhoi gwybod i bobol mewn da bryd os oes grisiau, os ydy’r grisiau i fyny neu i lawr, neu os ydy’r llawr yn anwastad neu os oes sŵn yn y cefndir.

“Yn aml iawn, dan fwgwd, mae sŵn yn swnio’n fwy bygythiol, mae ceir yn swnio’n agosach.

“Rydym yn cerdded efo pobol tu allan pan rydym yn gwneud y cyrsiau yma fel eu bod nhw’n cael profiad go iawn o gael eu harwain ac o arwain.”

Diffyg dealltwriaeth

Dydy’r rhan fwyaf o bobol sydd efo nam ar eu golwg ddim yn hollol ddall, ond mae diffyg dealltwriaeth am hyn, yn ôl Dafydd Eckley.

Mae’r hyn mae pobol yn ei weld yn dibynnu ar y cyflyrau sydd ganddyn nhw, ac yn amrywio o berson i berson.

Ac mae’r cwrs yma’n gallu helpu pobol i ddeall mwy.

“Yn aml, dydy pobol ddim yn deall,” meddai.

“Rwy’n meddwl bod y cyhoedd yn deall os ydy rhywun efo golwg llawn neu’n hollol ddall, ond mae yna lawer o gyflyrau gwahanol, cannoedd o gyflyrau, rhai ohonynt yn fwy cyffredin na’i gilydd.

“Rydych wedi clywed am y mwyafrif ohonynt, mae’n siŵr.

“Un o’r rhai mwyaf cyffredin yw age related macular degeneration, hwnna ydy’r mwyaf cyffredin rydym yn dod ar ei draws.

“Mae tua 400 o bobol yng Ngwynedd efo’r cyflwr yna, o leiaf 400 rydym yn eu hadnabod.

“Mae yna fwy eto sydd heb ddod drwodd i ni eto.

“Mae’r cyflyrau i gyd yn effeithio ar bobol yn dra gwahanol.

“Mae macular degeneration, er enghraifft, yn effeithio ar ganol y golwg felly dydy rhywun methu gweld pethau efo clirdeb, a dydyn nhw ddim yn adnabod wynebau, ac efallai ddim yn gallu darllen print, a ddim yn gallu gweld weithiau stepen o’u blaen nhw cystal ag oedden nhw pan nad oedd ganddyn nhw’r cyflwr.

“Mae cyflyrau eraill yn hollol i’r gwrthwyneb, glawcoma er enghraifft, mae hwnna’n effeithio ar y golwg o’r tu allan i’r tu mewn, os liciwch chi.

“Rydych wedi clywed pobol yn defnyddio’r term tunnel vision, wel dyna ydy effaith glawcoma ac ar eu gwaethaf, mae rhywun yn gweld twll bach yn y canol efallai.

“Rhan o’n gwaith ni ydy gweld weithiau bod y cyflwr yr un fath ond mae lefel y golwg yn wahanol rhwng dau berson.

“I deulu, pobol sy’n gweithio efo ac yn cefnogi nam golwg, mae’n bwysig bod ganddyn nhw ryw fath o syniad o beth mae rhywun yn gallu gweld i fod mewn sefyllfa well i’w helpu nhw.

“Rwy’n meddwl bod pobol, pan maen nhw’n dechrau cefnogi pobol, os nad ydyn nhw wedi cael rhyw fath o hyfforddiant dydyn nhw ddim yn siŵr iawn nac yn ddigon hyderus i wybod sut allan nhw fod o fwy o help heb fychanu a bod yn patronising.

“Yn y cwrs, rydym yn darparu un o’r pethau mwyaf buddiol rydym yn rhoi arweiniad i bobol ar sut i arwain pobol, guiding skills, felly dywedwch fod angen rhywun efo ychydig neu ddim golwg a ddim yn gallu gweld i gerdded yn annibynnol, mae yna ffordd arbennig o gynnig braich ac i arwain rhywun sydd yn ddiogel ac yn effeithiol.

“Os nad ydych wedi gwneud y cwrs, does dim syniad genych.

“Rydym yn ceisio rhoi hyder i bobol efo sgiliau felly, gwell dealltwriaeth o’r holl gyflyrau golwg a sut maen nhw’n effeithio ar berson yn ymarferol ac emosiynol, a hefyd rhoi gwybodaeth iddyn nhw am yr ystod eang o wasanaethau ac offer sydd ar gael yn lleol ac yn genedlaethol, felly dyna yr ydym yn ceisio gwneud yn y cwrs.”

Cymorth ar gael

Mae clywed eich bod yn colli rhan o’ch golwg neu eich golwg i gyd yn dipyn o sioc i’r sawl sy’n derbyn y newyddion.

Er bod pobol yn gwybod ychydig am fod yn ddall, dydy’r rhan fwyaf o bobol ddim yn ymwybodol o’r gwasanaethau sydd ar gael yn lleol a’r holl offer sydd ar gael.

“Efallai bod yr unigolion rydym yn gweithio efo nhw’n gwybod am rai o’r cyflyrau,” meddai Dafydd Eckley.

“Mae’n sioc aruthrol pan mae’r ymgynghorydd meddygol yn dweud wrthyn nhw bod ganddynt y cyflwr yma.

“Dydyn nhw ddim yn gwybod lle i ddechrau na pha wasanaethau sydd ar gael.

“Ychydig iawn sydd yn gwybod am ein bodolaeth ni, neu sawl asiantaeth arall sydd yn cefnogi pobol.

“Maen nhw’n gwybod am gŵn tywys ac efallai eu bod nhw’n gwybod am yr RNIB, ond efallai bo nhw ddim yn gwybod am beth sydd ar eu stepen drws nhw mewn cymdeithasau bach, neu gymharol fach.

“Mae yna ystod eang o offer.

“Mae yna wefan yr RNIB, dyna le rydym yn cael llawer o’n hoffer ni.

“Mae yna siop ar y wefan yna.

“Os ewch ar y wefan yna, gwelwch chi dipyn o offer gwahanol i bobol ddall a rhannol ddall.

“I ddechrau, ychydig iawn rydych yn gwybod am beth sydd ar gael a’r help sydd ar gael.

“Mae yna lawer o help allan yna, i ddweud y gwir, ac mae llawer o bethau ymarferol i helpu pobol.

“Yn y gwasanaeth rwy’n ei ddarparu, prif bwrpas y gwasanaeth yma yw helpu pobol i fod mor annibynnol â phosib, mor ddiogel â phosib, a sicrhau bod ansawdd bywyd unigolyn sydd wedi colli ei olwg mor uchel â phosib, ac i’r perwyl yna llawer o’n gwaith ni ydy gwneud yn siŵr bod pobol yn gwybod beth sydd ar gael.”

Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle, ewch i’r wefan.

Os ydych chi neu rywun rydych yn eu hadnabod â nam ar eu golwg ac yn dymuno gwybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael, cysylltwch â Chymdeithas y Deillion Gogledd Cymru: https://www.nwsb.org.uk/en/home neu 01248 353604