Mae plaid Ciudadanos, un o bleidiau unoliaethol Sbaen, wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n sefyll yn yr etholiad cyffredinol, yn dilyn eu canlyniadau siomedig yn yr etholiadau lleol yr wythnos hon.

Daw penderfyniad pwyllgor cenedlaethol y blaid yn dilyn cyfarfod brys ddoe (dydd Mawrth, Mai 30), ar ôl i’r Prif Weinidog Pedro Sánchez gyhoeddi etholiad cyffredinol yn Sbaen.

Yn Barcelona, collodd y blaid eu holl seddi cyngor.

Yn ôl Adrián Vázquez, ysgrifennydd cyffredinol y blaid, “fe fu neges yr etholiadau’n glir iawn”, sef nad oes ganddyn nhw “ddigon o gefnogaeth fel grym gwleidyddol pendant” ac nad yw “Sbaenwyr yn ein gweld ni fel dewis gwleidyddol amgen trawsnewidiol”.

Dywed fod yr etholiad cyffredinol yn refferendwm ar Pedro Sánchez fel prif weinidog, ac felly nad oes lle i Ciudadanos gan nad ydyn nhw wedi dangos eu bod nhw’n rym gwleidyddol difrifol all ei herio.

Fydd y blaid ddim yn dod i ben, serch hynny, ac maen nhw’n mynnu y byddan nhw’n “ailarfogi” oherwydd bod “gofod ar gyfer syniadau rhyddfrydol”.

Eu bwriad yw cynnal cyfarfod cenedlaethol ym mis Gorffennaf i aildrefnu’r blaid.

Hanes y blaid

Etholiadau Catalwnia yn 2006 oedd y tro cyntaf i Ciudadanos sefyll mewn etholiadau, a hynny o dan arweinyddiaeth y sylfaenydd Albert Rivera.

Hon oedd y blaid â’r llais cryfaf dros undod Sbaen pan oedd yr ymgyrch tros annibyniaeth i Gatalwnia yn ei hanterth, ac fe enillon nhw fwy o seddi nag unrhyw blaid arall yn 2017, er i glymblaid dros annibyniaeth ddod ynghyd i gipio grym.

Ond maen nhw wedi dioddef ers hynny, yn enwedig yn etholiad cyffredinol 2019 pan gollon nhw 47 o seddi fel mai dim ond deg oedd ganddyn nhw.

Yn etholiadau Catalwnia yn 2021, enillon nhw chwe sedd yn unig, gan golli 30.