Bydd gwersyll newydd yr Urdd yng ngogledd Sir Benfro yn agor ym mis Medi.
Gwersyll yr Urdd Pentre Ifan fydd gwersyll amgylcheddol cyntaf yr Urdd, a’r cyntaf o’i fath yng Nghymru.
Bydd y gwersyll yn blaenoriaethu’r amgylchedd, lles emosiynol pobol ifanc, a’r Gymraeg, a bydd yn “ddihangfa ddigidol” fydd yn annog pobol ifanc i gysylltu â’u tirlun amgylcheddol a diwylliannol, a phrofi ffordd o fyw mwy cynaliadwy.
Yn rhan o’r gweithgareddau fydd ar gael yng Ngwersyll Pentre Ifan mae sesiynau ioga a meddylgarwch, creu cynefinoedd, creu celf helyg, ffasiwn gynaliadwy, a datrys problemau.
‘Gwrando ar bobol ifanc’
Yn ôl Delun Gibby, Rheolwr Pentre Ifan, bydd y gwersyll yn gyfle i blant a phobol ifanc “ddianc gyda’i gilydd”, ac yn lle diogel a llesol iddyn nhw drafod gyda’i gilydd.
“Mae lleoliad Pentre Ifanc yn agos at goedwig, bryniau’r Preseli, arfordir Sir Benfro. Yn weledol mae e’n cwlio chi lawr, rydych chi’n dechrau ymlacio,” meddai wrth golwg360.
“Yn y gwersyll ei hunan fyddan ni’n gwneud gweithgareddau’n seiliedig ar les a’r amgylchedd, fel sesiwn ffasiwn cynaliadwy, dysgu am ba fath o ddefnyddiau sy’n gynaliadwy, sut allwn ni uwchgylchu pethau, teithiau natur, edrych ar sut fedrwn ni warchod gwahanol gynefinoedd a rhywogaethau, y goedwig, lan y môr, a fyddan ni’n gweithio gyda phartneriaid lleol hefyd.
“Beth rydyn ni’n gobeithio gwneud yw bod yn hollol hyblyg, beth bynnag mae clybiau angen, beth bynnag mae pobol ifanc eisiau, fyddan ni’n gallu’u helpu nhw i gyflawni hynny.
“Gallwn ni wneud mwy o bethau ar yr agwedd lles, ioga, meddylgarwch, forest bathing. Rydyn ni yma i wrando ar beth mae pobol ifanc eisiau.
“Efallai bod e’n fwy syml, mewn ffordd [na’r gweithgareddau yn y gwersylloedd eraill], ond mewn ffordd hyfryd – eistedd o gwmpas y tân gyda’r nos, edrych ar y sêr, cael yr amser yna i drafod gyda’i gilydd.”
‘Effaith fawr hirdymor’
Mae pryder hinsawdd ar gynnydd, gan gynnwys ymhlith pobol ifanc, ac mae agor gwersyll amgylcheddol sy’n canolbwyntio ar les yn amserol, yn ôl Delun Gibby.
“Mae pobol ifanc eisiau gwneud rhywbeth i helpu tuag at frwydro newid hinsawdd, gofalu am yr amgylchedd,” meddai.
“Mae pryder hinsawdd yn rhywbeth mawr ar y funud sy’n wynebu pobol ifanc, ond drwy’r gweithgareddau a’r profiadau rydyn ni’n gobeithio’u rhoi fyddan ni’n gallu datblygu sgiliau nhw i allu bod yn hunangynaliadwy – sut i dyfu bwyd, gwneud bwyd eu hunain, cael mefus o’r ardd…
“O ran y ffasiwn cynaliadwy, pa ddewisiadau allwn ni eu gwneud er mwyn helpu’r hinsawdd, pethau bach allwn ni eu gwneud sy’n gweithredu ac sy’n cael effaith fawr yn yr hirdymor.”
Bydd llety Cwt Carn Ingli yn y gwersyll â lle i 30 gysgu, ac yn cynnwys cyfleusterau i bobol ag anableddau, a bydd lle i ddeg cysgu yn Y Porthdy, gydag ystafell i arweinyddion hefyd.
O fis Mai i fis Medi, bydd ardal gwersylla yn Y Berllan hefyd.