Mae Rhaglen ARFOR yn atgyfnerthu eu hymrwymiad i greu cyfleodd economaidd i bobol ifanc a theuluoedd ifanc yng nghadarnleoedd y Gymraeg, drwy ddyfarnu cytundeb newydd fydd yn ehangu prosiect Llwyddo’n Lleol.

Yn gynllun yng Ngwynedd a Môn yn wreiddiol yn ystod gwedd gyntaf ARFOR, mae’r bartneriaeth newydd wedi ei sefydlu rhwng Menter Môn a Menter a Busnes i arwain y gwaith.

Y bwriad yw adeiladu ar sylfeini gwreiddiol y prosiect, gan ehangu i siroedd Ceredigion a Chaerfyrddin hefyd.

Gyda symudiad pobol ifanc a theuluoedd o gadarnleoedd y Gymraeg yn cyfrannu at y dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg, nod Llwyddo’n Lleol yw darbwyllo’r rhai sydd fwyaf tebygol o adael, neu sydd eisoes wedi ymadael â’u cymunedau lleol, fod dyfodol a ffyniant economaidd yn bosib yn ardaloedd gwledig y gorllewin.

“Newyddion gwych” i’r gymuned a’r Gymraeg

Mae parhad y gwaith economaidd yn newyddion gwych i gymunedau Cymraeg eu hiaith, yn ôl Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi.

“Drwy weithio gyda’n partneriaid awdurdod lleol, rydym am gefnogi cymunedau sy’n gadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu drwy ymyriadau economaidd a chyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio’r Gymraeg yn feunyddiol – ac i bobol ifanc deimlo eu bod cael dyfodol yn y meysydd hyn,” meddai.

“Edrychwn ymlaen at weld rhai syniadau arloesol iawn fel rhan o ail gam y rhaglen.”

Yn ogystal â helpu cymunedau Cymraeg eu hiaith, bydd y gronfa yn helpu i ddatblygu’r economi a busnesau.

“Mae ARFOR yn rhan allweddol o’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru,” meddai Cefin Campbell, Aelod Dynodedig Plaid Cymru.

“Bydd y gronfa yn helpu i hybu entrepreneuriaeth a thwf busnes ac mae’n rhan o’n hymgyrch i dyfu’r economi leol a’r Gymraeg gyda’n gilydd.

“Mae’r bartneriaeth newydd hon yn enghraifft gyffrous o ARFOR ar waith.”

Parhau â’r gwaith

Bydd y gwaith yn parhau ac yn ymestyn i weddill siroedd Rhaglen ARFOR, fydd o fudd i bobol wrth ffeindio gwaith.

“Rydyn ni’n falch iawn o gael y cyfle i barhau gyda’r gwaith o reoli Llwyddo’n Lleol ac i ymestyn hwnnw i weddill siroedd Rhaglen ARFOR,” meddai Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn.

“Mae’n negeseuon gwreiddiol ni am gyfleodd gwaith ac ansawdd bywyd yn siroedd y gorllewin, yr un mor berthnasol os nad yn fwy felly heddiw.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio efo Menter a Busnes ac i arwain pecynnau gwaith o’r newydd i hybu ac annog pobl ifanc a theuluoedd i ystyried dyfodol yn eu milltir sgwâr.”

Cadw pobol ifanc yn eu bröydd

Gobaith mawr y cynllun yw cadw pobol ifanc yn y fro Gymraeg.

“Rydym yn gwybod fod colli pobol ifanc a theuluoedd ifanc yn tanseilio hygrededd cymunedau gwledig ac yn cael effaith ar wasanaethau lleol,” meddai Llŷr Roberts yw Prif Weithredwr Menter a Busnes.

“Rydyn ni yn falch iawn felly o fod yn cael chwarae rhan wrth geisio taclo’r her hon a chydweithio efo’n partneriaid yn Menter Môn i ddatblygu a threialu syniadau all gyfrannu at ddenu a chadw pobl ifanc yn eu cymunedau.

“Mae gwaith gwych eisoes wedi ei wneud – dyma gyfle i ni ymestyn a datblygu ar hwnnw yng Ngheredigion a Sir Gâr.”

Mae ARFOR 2 yn rhaglen £11m sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy gytundeb cydweithredol rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, sy’n adeiladu ar waith gwedd gyntaf ARFOR.

Mae ARFOR yn gweithredu ar draws Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

Y nod yw treialu dulliau arloesol o hyrwyddo entrepreneuriaeth a chreu swyddi o safon yn y bedair sir, er mwyn cefnogi parhad a thwf yr iaith Gymraeg.

Bydd gwedd dau’r rhaglen yn parhau tan 2025.

Bydd modd dod i wybod mwy am raglen Llwyddo’n Lleol drwy fynd i babell Cyngor Sir Gâr yn Eisteddfod yr Urdd ar Fehefin 2 am 1.30yp.