Wrth i Lywodraeth Cymru barhau i ddyheu am Filiwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, Aran Jones, sylfaenydd SaySomethingInWelsh, sy’n dweud pam ei fod yntau’n teimlo’n bositif am ddyfodol yr iaith…


Dw i’n teimlo’n llawen o bositif am ddyfodol yr iaith Gymraeg. Dyma pam…

Dwi newydd weld rhywun y bues i’n gweithio efo nhw yn siarad Cymraeg ar deledu byw. Mae hyn yn UFFAR o beth i rywun ddechreuodd ddysgu Cymraeg ychydig dros flwyddyn yn ôl ei gyflawni, ac mae’n fy atgoffa y gall pobol gyflawni newid enfawr mewn cyfnod byr. Mae wedi fy atgoffa fy mod i’n gweld fwyfwy fod pobol o gefndiroedd amrywiol yn dod yn angerddol am yr iaith, yn enwedig yng Nghaerdydd, a dw i’n meddwl ein bod ni’n symud tuag at y fan lle mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru.

Dw i wedi gweld plant ysgol yn cyffroi ac yn mynd yn chwareus ac yn greadigol wrth ddefnyddio’r Gymraeg, hyd yn oed pan fyddan nhw ond yn gwneud am bum munud bob dydd, a rŵan dw i’n credu bod yna lwybr tuag at hyder i bob plentyn mewn ysgolion Saesneg yng Nghymru wrth siarad. Dw i wedi gweld pobol mewn gwledydd eraill (cynifer ohonyn nhw!) yn dod yn siaradwyr Cymraeg hyderus a brwd, a thros y blynyddoedd i ddod bydd SSiW yn gwneud ein cwrs Cymraeg ar gael trwy gyfrwng llawer iawn o ieithoedd eraill hefyd. Bydd hynny’n HWYL. Dw i wedi gweld pobol Tamil yn Sri Lanca yn dysgu Cymraeg fel rhan o’u hymarfer dysgu i ddod yn athrawon Saesneg ac wrth eu boddau’n gwneud – gallwch chithau hefyd, dim ond i chi Google-o ‘dysgu Cymraeg Sri Lanca’.

Rydyn ni am wneud dysgu Cymraeg yn rhan awtomatig o’n rhaglen ymarfer dysgu Saesneg. Dw i’n credu y bydd yn boblogaidd, rydyn ni eisoes wedi cael ambell sgwrs bositif efo sefydliadau diddorol, a dw i’n credu bod hynny’n golygu miliynau o siaradwyr Cymraeg ar draws y byd.

Mae AI yn dod i fygwth ffilm a theledu mewn llawer o ffyrdd. Bydd hi’n bosib ffilmio yn Gymraeg yn unig, ac i ddarlledu yn eich dewis iaith, sy’n golygu mwy o straeon Cymraeg, mwy o waith ar gyfer actorion Cymraeg, a mwy o resymau i bobol ddysgu Cymraeg ac ymddiddori yng Nghymru. Gallaf deimlo’r cariad. Mae agweddau wedi newid. Mae rhieni’n rhoi’r Gymraeg i’w plant drwy eu hanfon nhw i ysgolion Cymraeg fel arwydd o gariad – lle byddai’r weithred yn arfer eu gwthio nhw (ar gam) tuag at Saesneg. Pan fyddwch chi’n rhoi cariad, dysgu llwyddiannus, diddordeb rhyngwladol a’r cyfryngau at ei gilydd, dw i’n credu mai’r canlyniad fydd i Gymru rannu ei hanes â’r byd ac mai hi fydd y wlad gyntaf i wyrdroi symudiadau ieithyddol yn llwyr.

Bydd fy mhlant yn cael bod yn normal. A bydd eu plant nhw yn gallu defnyddio’r Gymraeg mewn llefydd annisgwyl ar draws y byd, a byddan nhw’n pendroni pam ar wyneb y ddaear roedden ni’n poeni am y peth o gwbl.