Mae Cyngor Gwynedd am geisio cymryd camau pellach i reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau yn y sir.

Mewn adroddiad i Gabinet Cyngor Gwynedd wythnos nesaf (Mehefin 13), byddan nhw’n gofyn am hawl i gychwyn proses fyddai’n ei gwneud hi’n ofynnol i bobol gyflwyno cais am ganiatâd cynllunio er mwyn newid o un defnydd i’r llall.

Mae’r categorïau’n cynnwys prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr, ac ar hyn o bryd, mae modd i berchnogion newid rhwng y dosbarthiadau heb yr angen am hawl cynllunio.

Fodd bynnag, er mwyn cael rheolaeth o’r defnydd o dai, bellach mae modd i Awdurdodau Cynllunio Lleol ddiwygio’r system gynllunio yn eu hardal trwy gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4.

Yn ôl Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd, Dafydd Meurig, byddai cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 o gymorth i’r Cyngor wrth warchod y stoc dai a chefnogi trigolion Gwynedd i gael mynediad at dai sydd o fewn cyrraedd yn eu cymunedau.

Byddai’r newidiadau’n berthnasol i dai o fewn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd, sef yr ardaloedd yng Ngwynedd sydd ddim o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Mae Parc Cenedlaethol Eryri hefyd yn ystyried cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ardal Gwynedd lle maen nhw’n gweithredu fel Awdurdod Cynllunio Lleol.

Ni fydd pobol sydd gan ail gartref neu lety gwyliau tymor byr nawr yn gorfod cyflwyno ceisiadau cynllunio.

65.5% o’r bobol y sir yn cael eu prisio allan

Mae ymchwil diweddar yn dangos fod 65.5% o boblogaeth Gwynedd ar gyfartaledd yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai, gyda’r ganran yn “cynyddu’n sylweddol” lle mae niferoedd uwch o gartrefi gwyliau.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig: “Mae Cyngor Gwynedd, ynghyd â mudiadau fel Hawl i Fyw Adra a Chymdeithas yr Iaith, wedi pwyso’n ddiflino ar Lywodraeth Cymru ers blynyddoedd i fynd i’r afael a’r cynnydd mewn cartrefi gwyliau ar draws y sir, a’r effaith mae hynny’n ei gael ar ein cymunedau.

“Cyflwynwyd ymchwil manwl gan ein Gwasanaeth Polisi Cynllunio yn amlygu’r ffaith fod ein trigolion yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai, ac yn nodi meysydd lle byddai modd i’r Llywodraeth weithredu er mwyn cael gwell rheolaeth o’r sefyllfa.

“Cafwyd cydnabyddiaeth o’r her wirioneddol sy’n wynebu ein cymunedau y llynedd wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cyfres o fesurau ym maes cynllunio, trethiant a thrwyddedu i geisio cael gwell rheolaeth o’r sefyllfa.

“Ers hynny, mae’r Llywodraeth wedi diwygio’r rheoliadau cynllunio, gan gyflwyno tri dosbarth defnydd cynllunio newydd, sef prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr.

“Mae’r adroddiad fydd yn cael ei ystyried gan Gabinet y Cyngor yn amlinellu’r sail dystiolaeth gref yn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd i ddiwygio’r system gynllunio yn lleol trwy gyflwyno’r hyn a elwir yn Gyfarwyddyd Erthygl 4.

“Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyflwyno cais am ganiatâd cynllunio i newid o un defnydd i’r llall ac o gymorth i’r Cyngor wrth warchod ein stoc tai a chefnogi trigolion Gwynedd i gael mynediad at dai sydd o fewn eu cyrraedd yn ein cymunedau.

“Gwynedd fyddai’r awdurdod cyntaf yng Nghymru i gyflwyno’r newid, a bydd gosod Cyfarwyddyd Erthygl 4 er mwyn rheoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi neu lety gwyliau tymor byr yn ddigynsail.

“Rydym felly yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth ariannol fydd yn ein galluogi i benodi swyddogion cynllunio ychwanegol i ymdrin gyda’r llwyth gwaith ychwanegol.

“Os bydd y Cabinet yn cefnogi’r bwriad, byddwn yn edrych i hysbysebu swyddi yn y misoedd nesaf ac yn hyrwyddo’r cyfleoedd cyffrous yma maes o law.”

Pe bai’r Cabinet yn cytuno, bydd y Cyngor yn gosod rhybudd o’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 ac yn cynnal cyfnod o ymgysylltu cyhoeddus.