Gyda stigma ynglŷn â dementia yn rhwystro pobol rhag cael cefnogaeth a’r meddyginiaethau cywir mae cynnal diwrnod codi ymwybyddiaeth yn allweddol bwysig, yn ôl un sy’n gweithio yn y maes.
Mewn digwyddiad yn Y Galeri yng Nghaernarfon ddiwedd y mis, bydd cyfle i bobol ddod ynghyd i fwynhau gweithgareddau a chodi ymwybyddiaeth am ddementia.
Bydd y Diwrnod Dementia, sy’n cael ei drefnu gan Dementia Gwynedd, yn cynnwys arddangosfa ffotograffiaeth, gweithdy dawns i bawb, a dangosiad o ffilm The World Turned Upside Down.
Codi ymwybyddiaeth am ddementia
Rhan o’i swydd fel Cydlynydd Dementia Cyngor Gwynedd ydy chwilio am ffyrdd creadigol i godi ymwybyddiaeth am ddementia a chwalu’r stigma a’r diffyg dealltwriaeth.
“Mae yna gymaint o bobol allan yna sydd wedi cael ei effeithio ganddo ond yn aml mae’r stigma dal allan yna, bod pobol ddim yn deall dementia,” meddai wrth golwg360.
“Dw i wastad yn chwilio am ffyrdd mwy creadigol o ddenu pobol atom ni, cael sgwrs a gwneud ychydig o hyfforddiant.”
Mae’r ffilm The World Turned Upside Down yn edrych ar realiti byw gyda dementia a gofalu am berson sy’n byw â’r cyflwr. Cafodd ei chreu gyda phobol sy’n byw gyda dementia, ac mae’n trafod profiadau’r cymeriadau o ddementia mewn gwahanol sefyllfaoedd, o dderbyn diagnosis, i rannu’r diagnosis â’r teulu a’r gofalu.
“Fel rhan o’r ffilm hefyd mae gennym bobol sy’n helpu ni i ddod mewn i gael sgyrsiau efo’r gynulleidfa, mae’n brofiad hollol immersive.”
Yn y bore, bydd sesiwn Ffrindiau Dementia, sesiwn anffurfiol i ddysgu mwy am ddementia, sut mae’n effeithio ar yr unigolyn a sut i helpu a chefnogi pobol sy’n byw â’r cyflwr.
“Mae’r stigma dal yna, mae o lawer gwell na roedd blynyddoedd yn ôl.
“Mae’r stigma yna’n gallu stopio pobol cael y gefnogaeth maen nhw angen, dyna rydym yn gweld.”
Cefnogaeth i bobol efo dementia
Roedd gan mam Emma Quaeck ddementia, a thua ugain mlynedd yn ôl mae hi’n cofio pobol yn croesi’r stryd er mwyn osgoi ei mam gan nad oedden nhw’n gwybod be i ddweud wrthi.
“Dydw i ddim yn beio nhw am hynny, pobol sydd ddim yn gwybod sut i siarad efo pobol efo dementia, dipyn bach yn ofn hwyrach.
“Unwaith mae pobol yn cael diagnosis o ddementia maen nhw’n byw yn eu cymunedau am hir.
“Rydyn ni eisiau sicrhau bod pobol yn cael cefnogaeth gan bobol broffesiynol a phobol yn y gymuned hefyd.
“Mae llawer o bobol fel maen nhw’n mynd yn hun yn dechrau poeni am eu cof, y peth cyntaf bydden yn ddweud wrthynt yw mynd i weld y GP.
“Yn aml dydy pobol ddim eisiau mynd oherwydd bod nhw’n ofn neu fod ganddyn nhw gywilydd.
“Wrth wneud hynny dydyn ddim yn cael y gefnogaeth neu’r meddyginiaethau maen nhw eu hangen i helpu nhw a chael y gefnogaeth gymdeithasol hefyd.”
Mae llawer gall pobol a mannau cyhoeddus wneud i helpu pobol a dementia, eglurodd Emma Quaeck.
“Y peth cyntaf yw deall sut fath o beth ydy o i’r person sy’n cael dementia,” meddai.
“Dim, dim ond colli cof ydy o. Mae perception, sensation a bob dim [yn gysylltiedig].
“Mae’r ymennydd yn rheoli bob dim yn ein corff.
“Er enghraifft mae yn fat du o flaen drws, mat sychu dy draed – mae pobol efo dementia yn gallu gweld hwnna fel twll.
“Roeddwn i’n ceisio mynd a mam allan o’r cartref, allan i’r ardd ac roedden yn cyrraedd y drws ac roedd hi’n tapio ei throed ar y mat. Doeddwn i ddim yn deall hyn ar y pryd.
“Doedd hi ddim yn deall be oedd y darn tywyll, roedd hi’n gwrthod camu arno. Iddi hi mae’n siŵr oedd hi’n meddwl bod fi’n mynd i luchio hi mewn i dwll.
“Mae llefydd cyhoeddus fel Canolfannau Hamdden angen meddwl am bethau fel yna, mae pethau fel yna’n gallu rhoi pobol off mynd i wneud pethau.
“Mae eisiau bod yn ymwybodol o sut mae dementia yn effeithio pobol a sut rydym yn gwneud pethau yn haws iddynt, fel arwyddion. Digon o arwyddion i helpu pobol ffeindio’r toiled ond digon o arwyddion i helpu pobol ffeindio ffordd yn ôl i’r dderbynfa o’r toiled.”