Mae murlun wedi cael ei ddadorchuddio yng Nghaerdydd heddiw (Mehefin 6) er mwyn atgoffa pobol o Neges Heddwch gwrth-hiliaeth Urdd Gobaith Cymru.
Wedi’i greu gan UNIFY Creative a’i ysbrydoli gan eiriau’r neges, ‘Galw Nhw Allan’, mae’r murlun wedi’i leoli yn ardal Adamsdown o’r brifddinas.
Fis diwethaf, fe wnaeth yr Urdd gyhoeddi’u Neges Heddwch ac Ewyllys Da blynyddol am y 101 tro, gan gydweithio â myfyrwyr Prifysgol Caerdydd i dynnu sylw at bwysigrwydd gwrth-hiliaeth, gan ddweud pa mor bwysig yw ‘galw hiliaeth allan’.
Cyrhaeddodd y neges bron i 50 o wledydd mewn 56 o ieithoedd, ac roedd Mark Drakeford, Cyngor Hil Cymru, yr actorion Michael Sheen, Matthew Rhys ac Iwan Rheon a channoedd o ysgolion ymysg y cefnogwyr a rannodd y neges ar Fai 18.
‘Dim lle i hiliaeth’
Mae Urdd Gobaith Cymru, mudiad ieuenctid mwyaf Cymru yn galw ar bobol ar draws y byd i “Alw Nhw Allan”, gyda Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr elusen yn datgan nad oes lle i hiliaeth yn y byd a’r murlun yn atgyfnerthu hynny.
“Pob blwyddyn mae’r Urdd yn rhoi llais a llwyfan i ieuenctid Cymru gael eu clywed ar draws y byd, ac mae ein neges gwrth-hiliaeth yn neges di flewyn ar dafod, yn dweud wrth bawb fod yn rhaid i ni alw allan hiliaeth pryd bynnag a lle bynnag y byddwn yn ei weld,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.
“Fel sefydliad rydym yn cydnabod bod yn rhaid i ni gymryd camau a chyfrifoldeb i wneud yn siŵr nad oes lle i hiliaeth yn y byd.
“Mae’r Urdd i bawb, ac fel Mudiad mae’n bwysig ein bod ni’n cynrychioli ac yn adlewyrchu Cymru gyfoes.
“Gwerthoedd Cymru ledled y byd”
Hefyd yn sefyll yn gadarn â gweledigaeth yr Urdd mae Prifysgol Caerdydd.
“Mae aelodau staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn eilio’r pwyslais ar wrth-hiliaeth sy’n nodweddu neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd eleni,” ychwanegodd Athro Damien Walford Davies, Dirprwy Is-Ganghellor o Brifysgol Caerdydd.
“Ysgwydd-yn-ysgwydd â’r Urdd, rydym yn ein herio ein hunain yn ogystal ag eraill i brofi, drwy weithredoedd, ein bod yn wrth-hiliol.”