Mae cerddor o Ardudwy sy’n aelod o Fand Arall, wedi sgrifennu cwyn at BBC Cymru ynglŷn â’r diffyg sôn am Eisteddfod yr Urdd ar eu rhaglen newyddion Saesneg, Wales Today, yr wythnos ddiwethaf. Yn ôl Celt Roberts, mae gofyn i reolwyr y BBC yng Nghymru sicrhau bod Eisteddfod yr Urdd yn cael y “sylw dyladwy” ar y newyddion bob nos yn ystod wythnos yr ŵyl yn y dyfodol.


Nos Fercher 31 Mai fe ddewisodd cynhyrchwyr BBC Cymru – rhaglen newyddion yn Saesneg am 10.35 – anwybyddu’n llwyr Ŵyl Genedlaethol yr Urdd. Dim gair amdani – fel pe na fyddai’n bod.

Mae’n sefyllfa gwbl warthus ac mae gofyn cael gwybod sut ac ar ba sail mae gŵyl genedlaethol yn cael ei diystyru’n llwyr gan gorff sydd i fod i gyflwyno newyddion cenedlaethol.

Gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop yn cael ei chynnal yma yng Nghymru a phlant a phobl ifanc yn dangos gallu a doniau yn niwylliant eu gwlad.

Gŵyl sy’n dangos pobol ifanc Cymru ar eu gorau. Beth mae rhaglen newyddion BBC Wales yn ei wneud nos Fercher 31 Mai?

Anwybyddu’r Eisteddfod yn llwyr fel pe na fyddai un o ddigwyddiadau pwysicaf ym mywyd miloedd lawer o Gymry yn cymryd lle o gwbl.

Yn hytrach roedd yn well gan gynhyrchwyr Y Newyddion ddwyn sylw bod un o weilch y Glaslyn wedi cael cyw bach!

Cyfyd y cwestiwn, ydy’r cynhyrchwyr yn abl i flaenoriaethu yn ddiduedd beth ddylai ymddangos ar y newyddion? Yn wir, a ydynt yn rhagfarnllyd yn erbyn sefydliad am fod y Gymraeg yn cael lle amlwg?

Mae’n gwbl ryfeddol bod digwyddiad cenedlaethol yn digwydd o fewn ein gwlad ni ein hunain, ac mae’r cynhyrchwyr newyddion yn dewis anwybyddu’r digwyddiad yn llwyr. Dylai fod gennych gywilydd.

Teimlaf y dylai’r rhai sy’n gyfrifol ymddiheuro i’r miloedd o blant a phobol ifanc am eu hanwybyddu.

Mae gofyn i reolwyr y BBC yng Nghymru edrych ar y sefyllfa hon mewn sobrwydd a sylweddoli fod Eisteddfod yr Urdd yn cael y sylw dyladwy ar y newyddion bob nos yn ystod yr wythnos hon o ddathlu ein diwylliant cenedlaethol.


Ymateb BBC Cymru

Meddai llefarydd ar ran BBC Cymru: “Bu sylw cynhwysfawr i Eisteddfod yr Urdd ar draws gwasanaethau BBC Cymru gydol yr wythnos.

“Yn benodol ar BBC Wales Today bu adroddiad ar ddiwrnod agoriadol Eisteddfod yr Urdd yn ogystal â darllediadau cynhwysfawr o ddigwyddiadau’r Maes ddydd Mawrth, gan gynnwys eitem fyw.

“Ar BBC Radio Wales, roedd sylw i Eisteddfod yr Urdd drwy’r wythnos gydag eitemau a chyfweliadau ar raglenni Breakfast a Drive.”