Fel un sydd wedi dysgu Cymraeg ar ôl symud i Gymru o Lundain, mae cael gwahoddiad i fod yn Llywydd yr Ŵyl yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn “eithaf peth”, meddai Liz Saville Roberts.

Bydd Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd yn annerch y gynulleidfa o lwyfan y Pafiliwn Mawr ar Faes Prifwyl Llŷn ac Eifionydd, ac mae hi’n edrych ymlaen at wythnos brysur.

Mae hi’n un o feirniaid cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni, a bydd yn cymryd rhan mewn nifer o sesiynau amrywiol ar hyd a lled y Maes yn ystod yr wythnos.

Cafodd Liz Saville Roberts ei hethol gyntaf yn 2015, y ddynes gyntaf i gynrychioli Dwyfor Meirionnydd ac Aelod Seneddol benywaidd cyntaf Plaid Cymru.

Yn wreiddiol o Eltham yn Llundain, dysgodd Gymraeg tra yn y brifysgol yn Aberystwyth.

Bu’n gweithio fel newyddiadurwraig yn Llundain a gogledd Cymru, ac yna fel darlithydd addysg bellach gyda Choleg Meirion Dwyfor, lle datblygodd addysg Gymraeg.

‘Yr ardal ar ei gorau’

Wrth edrych ymlaen at yr Eisteddfod ym Moduan, dywedodd Liz Saville Roberts wrth golw360 ei bod hi’n edrych ymlaen at “weld yr ardal ar ei gorau”.

“Mae’n eithaf peth i ferch o dde-ddwyrain Llundain ddaru ddechrau dysgu Cymraeg pan oedd hi’n ddeunaw oed, symud i fyw i Ben Llŷn a rŵan i fod yn Llywydd Anrhydeddus yr Eisteddfod a’r Eisteddfod yn dod i Lŷn ac Eifionydd,” meddai Liz Saville Roberts, sy’n byw ym Morfa Nefyn.

“Mae hi’n mynd i fod yn hynod brysur, a [chael] dod â diwylliant i Lŷn ac Eifionydd.

“Yn enwedig ar ôl yr adeg anodd rydyn ni wedi cael efo Covid, mae pobol yn mynd i gael ffasiwn hwyl a fydd hi jyst yn wych i weld cymaint o bobol hen ac ifanc yma yn mwynhau.

“Mae’r ardal wedi bod yn codi pres ers dechrau 2020, mae yna lawer iawn o weithgareddau wedi bod [ar y gweill].

“Fel Llywydd Anrhydeddus mae yna lot ymlaen yn ystod yr wythnos, i bresenoli – mae hi’n mynd i fod yn wythnos brysur iawn, iawn, iawn!”

Mae Liz Saville Roberts yn olynu amryw o Gymry amlwg fel Llywydd yr Ŵyl dros y blynyddoedd, gan gynnwys y cyflwynydd a’r DJ, Huw Stephens, yr hanesydd Elin Jones, a chyn-reolwr cynorthwyol tîm pêl-droed dynion Cymru, Osian Roberts.