Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i ddarllenwyr bleidleisio am eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd golwg360 yn cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy amdanyn nhw a’u cyfrolau. Dyma sgwrs gydag Osian Wyn Owen, sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori Barddoniaeth gyda Y Lôn Hir Iawn.


Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr os gwelwch yn dda

Mae Y Lôn Hir Iawn yn rhan o gyfres unigryw Tonfedd Heddiw gan wasg Barddas sy’n rhoi llwyfan i leisiau newydd nad ydyn nhw wedi cyhoeddi o’r blaen. Er, erbyn hyn mae’n rhyfedd cyfeirio at rai o feirdd cynharaf y gyfres fel ‘beirdd newydd’, mae nifer ohonyn nhw wedi mynd yn eu blaenau i fod yn brifeirdd cenedlaethol ac yn Feirdd Plant Cymru!

Mae’r gyfrol yn benthyg ei theitl o’r gerdd ‘Y Lôn Hir Iawn i Lanrug’, ac mewn ffordd mae honno’n crisialu ysbryd y gyfrol gyfan. Cerdd ydi hi lle mae’r prif gymeriad yn teithio i’r syrjeri ac mae’n trio cael trefn ar ei feddyliau, ac yn bwysicach, ar ei eiriau. Am wn i mae’r syniad yna o hogyn ifanc yn trio dod o hyd i ffordd i’w fynegi ei hun yn gynsail i’r gyfrol.

Mae’n gyfrol pic-a-mics, lle mae’r sgrifennu weithiau’n gaeth ac weithiau’n rhydd, weithiau ddwys ac weithiau’n ysgafnach, weithiau’n wleidyddol ac weithiau’n wamal.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol?

Gwybod y byddai’r rhan fwyaf o’r cerddi’n mynd yn angof oni bai fy mod i’n eu cyhoeddi nhw’n ifanc. Yn aml, dw i’n sgrifennu cerddi ac o fewn ychydig fisoedd dw i’n troi fy nhrwyn arnyn nhw, yn cywilyddio hyd yn oed fy mod i wedi eu sgrifennu nhw!

Dw i’n gwybod fod nifer o feirdd ifanc, nifer o leisiau amrywiol a chyffrous wedi cael cynnig cyhoeddi fel rhan o’r gyfres hon o’r blaen, ac eu bod nhw’n ansicr ella am nad oeddan nhw’n teimlo’n ‘barod’. Ond pe bai gan bawb yr agwedd honno byddai gorwelion barddoniaeth Gymraeg lot culach.

Mae’r gyfrol yn rhoi clawr ar gyfnod penodol iawn yn fy mywyd, ac mae yna ryw deimlad o ollyngdod wedi dod o grynhoi’r cyfnod hwnnw.

Oes yna neges y gyfrol?

Nagoes, dim go iawn. Dim ond ella ei bod hi’n iawn i deimlo. Yn enwedig i hogiau ifanc. Mae’n iawn i deimlo pethau.

Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel bardd?

Ro’n i’n darllen ac yn gwirioni ar Ni Bia’r Awyr gan Guto Dafydd ar gyfnod ffurfiannol iawn yn fy mywyd, ac mae’r dynfa at sgrifennu eithaf sardonig, mater-o-ffaith wedi aros efo fi ers hynny. Honno, digwydd bod, oedd y gyfrol gyntaf yn y gyfres Tonfedd Heddiw. Ers hynny dw i wedi dysgu sgrifennu’n gaeth ac yn licio’r amrywiaeth. O ran dylanwad y gynghanedd, mae gen i edmygedd mawr tuag at y ffordd mae Rhys Iorwerth, Gruff Sol a Llŷr Gwyn Lewis wedi cael gafael ar y gynghanedd ac wedi llwyddo i wneud iddi siarad iaith heddiw. Mae traddodiad perfformiadol pethau fel y Talwrn, Ymryson y Beirdd, Stompiau a nosweithiau byw Bragdy’r Beirdd yn ddylanwad pwysig arna i hefyd, a dw i’n gobeithio y bydd cyfleoedd fel hynny’n parhau i’r genhedlaeth nesaf.

Gallwch ddarllen mwy am Y Lôn Hir Iawn a’r holl gyfrolau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, a phleidleisio dros eich ffefryn, yma:

Pleidlais Barn y Bobl: Llyfr y Flwyddyn 2023

Pleidleisiwch dros eich hoff gyfrol – y bleidlais yn cau ar Fehefin 23!