Mae cewri byd perfformio Cymru wedi talu teyrnged i’r actor Dafydd Hywel mewn rhaglen deledu arbennig fydd i’w gweld ar S4C heno (nos Sul, Mehefin 4) am 9 o’r gloch.

Bu farw’r actor 77 oed o’r Garnant yn Nyffryn Aman ar Fawrth 23, yn dilyn cyfnod o salwch.

Roedd gan Dafydd Hywel sawl enw – DH, Alff Garnant, Caleb, Efnisien – enwau cyfarwydd sydd yn rhan o’i stori.

Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno i ni o bersbectif y rhai oedd yn ei adnabod orau, fel hanes eicon Cymreig yng ngeiriau’r rhai oedd agosaf ato, ac yng ngeiriau’r dyn ei hun hefyd.

Mae’r hanesion yn ddwys ac yn ddoniol, ac yn gofnod gonest a diffuant am un o gymeriadau mawr y byd perfformio yng Nghymru.

‘Neb arall yn gallu llenwi’r bwlch’

Roedd Dafydd Hywel yn dad bedydd i un o blant yr actor John Ogwen, un o’i ffrindiau pennaf.

“Dwi wedi colli rhywun lle does yna neb arall yn gallu llenwi’r bwlch..,” meddai’n ddagreuol yn ystod y rhaglen.

“Roedd o angen rhywun i edrych ar ei ôl o – fel angor – roedd y llong yn mynd ar ddisberod bob hyn a hyn.”

Eglura sut y bu i Dafydd Hywel ddod yn dad bedydd.

“Oedden ni ar daith [a dyma fi’n gofyn i DH] fasa’n ni’n licio dy fod di yn dad bedydd i’r plentyn. Ie, iawn medda fo… o’n i’n disgwyl ymateb dipyn bach mwy na hynna!

“Ac yn sydyn, dyma fo’n codi ac off â fo i rywle, a’r lle aeth o oedd i weld Beryl Williams, a dyma fo’n gofyn, Beth yffach yw tad bedydd?’ Wel, godfather – … dyma fo’n ôl i’r bar a gafael ynof i a’m codi i’r awyr.

“DH, ‘de.”

‘Dyn cymhleth, llawn direidi’

Mae’r rhaglen hon yn cofio dyn cymhleth, llawn direidi a hiwmor â thalent aruthrol wnaeth berfformio ar lwyfannau theatr, teledu, ffilm, a hefyd yn brif weithredwr ar ei gwmni theatr ei hun, Mega.

“Nid Cinderella a Puss in Boots oeddem ni… yn ei gyflwyno i’r plant,” meddai ei gyfaill, yr actor Dafydd Emyr.

“Rown ni amcangyfrif bod yna 40,000 bob blwyddyn yn gweld ei sioeau fo… wedi ei luosi â chwarter canrif [o berfformiadau], mae hynny’n filiwn o blant; plant bach Cymru wedi cael eu bendithio ar etifeddiaeth Gymreig oedd mor bwysig a mor agos at ei galon o.”

Daw un o’r cyfraniadau mwyaf emosiynol gan Gary Sweet, yr actor o Awstralia wnaeth rannu’r sgrin â Dafydd Hywel yn y ffilm Derfydd Aur, gafodd ei ffilmio ar leoliad yn Awstralia.

“Fe wnaeth DH a minnau ddwlu ar ein gilydd y tro cyntaf i ni gyfarfod,” meddai.

“Roedd rhywbeth drygionus amdano, roedd rhywbeth amharchus amdano.

“Ro’n i wrth fy modd â’i wybodaeth am chwaraeon a’i synnwyr digrifwch.”

Cofnod hynod emosiynol a gonest

Mae’r hanesion o’r difrifol i’r ysgafn i gyd yn y rhaglen hon sydd yn cwmpasu bywyd llawn iawn ac yn gofnod hynod emosiynol a gonest.

“Hywel o’dd ei enw teuluol…” meddai Sharon Morgan, yr actores a’i nith.

“Roedd e wastad yn llawn bywyd, llawn egni, chwerthin, gweiddi, a fel beth oedd mamgu yn galw yn ddyn llawn, yn ddyn llawn iawn.”

Un arall oedd yn agos iawn i ‘DH’ oedd yr actores Ruth Jones.

Mynnai siarad Gymraeg â hi ar bob adeg, hyd yn oed pan nad oedd hi’n ei ddeall.

“Pan o’n i’n gweithio ar Stella, roedd DH yn siarad Cymraeg gyda fi trwy’r amser… pan ddywedais i, ‘Dw i ddim yn deall ti…’, roedd e’n cario ymlaen.

“Mae lot o gariad gyda fe i bawb, ond does dim ofn gydag e i ddweud ei farn… jyst rili dyn hyfryd, hyfryd.”