Mae Llŷr Evans o Ynys Môn wedi ennill Ysgoloriaeth Artist Ifanc Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023, tra bod Lara Rees o Abertawe wedi cipio’r Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg.
Caiff Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc, gwerth £2000 drwy garedigrwydd y diweddar Dr Dewi Davies a’i deulu, ei rhoi am y gwaith mwyaf addawol gan unigolyn rhwng Bl.10 ac o dan 25 oed.
Caiff y Fedal Gelf ei chyflwyno ar gyfer y gwaith mwyaf addawol yn y categori oedran blwyddyn 10 ac o dan 19 oed, a chaiff ei rhoi eleni gan Ferched y Wawr Rhanbarth Caerfyrddin.
Llŷr Evans – Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc
Daeth naw cais i law Rhys Padarn Jones ac Alis Gwyther, beirniaid y gystadleuaeth eleni.
“Yn ogystal ag astudio’r darnau celf, cawsom ni fel beirniaid hefyd y cyfle i gael sgwrs anffurfiol gyda phob cystadleuydd yn unigol,” meddai’r beirniaid.
“Cawsant gyfle i esbonio’u gwaith i ni, gan nodi’r camau cynllunio, creu ac arbrofi.
“Cawsom ni y cyfle i’w holi nhw ynglŷn ag amryw o bethau, ond yn benodol ynglŷn â’r hyn sy’n eu hysbrydoli yng nghyd-destun eu gwaith celf a’u gobeithion am y dyfodol yn y maes.
“Roedd siarad gyda phob un o’r cystadleuwyr yn sicr wedi ychwanegu dimensiwn ychwanegol i’w gwaith celf ac wedi bod o gymorth mawr wrth i ni feirniadu’r ysgoloriaeth.”
Cyflwynodd Llŷr Evans gasgliad o bortreadau sy’n cyfuno elfennau o’r byd ffasiwn a dogfen gan ddefnyddio prosesau analog a digidol i’r gystadleuaeth eleni.
Dechreuodd ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth yn Ysgol Syr Thomas Jones, wedi anogaeth gan ei athrawes Mrs Mandy Roberts, ac yn ei eiriau ei hun, “hi ydi’r rheswm rwy’n tynnu lluniau heddiw”.
Wedi astudio celf yng Ngholeg Menai, aeth yn ei flaen i Lundain i astudio Cyfathrebu Ffasiwn ag Hyrwyddo yn ‘Central Saint Martins’.
“Roedd yn amlwg o’r dechrau mai pobl a phersonoliaethau oedd deunydd crai Llŷr,” meddai’r beirniaid wedyn.
“Soniodd sut i rai o’r bobl yn y lluniau fod yn aelodau o’i deulu neu’n ffrindiau iddo, tra bo eraill yn ddieithriaid llwyr y mae e’n cyfarfod ar hap yn Llundain ac yn gofyn iddynt os byddai modd iddo dynnu ffotograff ohonynt.
“Roeddem ni wir yn hoffi’r ffordd i Llyr gyfuno’r traddodiadol Cymreig gyda’r elfen fwy ffantasiol/ecsentrig.
“Dyma berson sydd wedi llwyr ymroi ei hun i ddatblygu ei sgiliau a’i brofiad o fewn y byd ffotograffiaeth.
“Cawsom y teimlad ei fod yn ysu i gymryd y cam nesaf yn ei yrfa ac roedd clywed pa mor benderfynol y mae i lwyddo’n heintus.
“Roedd ei glywed yn siarad, ynghyd â’r dystiolaeth iddo arddangos ar ffurf ei ffotograffau, wir yn ein gwneud ni fel beirniaid yn gyffrous iawn i weld beth allai gyflawni yn y dyfodol.”
Lara Rees – Y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg
Mynychodd Lara Rees Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt, ac mae nawr yn astudio Mathemateg, Technoleg Cerddoriaeth a Chelfyddyd Gain yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Ym mis Medi, bydd hi’n dechrau gradd mewn Dylunio Perfformiad yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, lle gobeithia ledaenu ei sgiliau a phrofiadau artistig.
“Yn ystod cyfnodau clo Covid-19, fe wnes i ddarganfod fy nghariad at gelf, yn enwedig paentio,” meddai.
“Rwy’n hoffi defnyddio fy nghelf i fynegi syniadau ac emosiynau – sydd yn aml yn anodd rhoi mewn geiriau – trwy gyfryngau gweledol, gyda’r gobaith y gall pobol eraill gysylltu gyda hyn yn eu ffordd eu hunain.
“Mae’n anrhydedd llwyr i ennill Y Fedal Gelf ac mae’n hyfryd bod mewn lle sy’n dathlu’r celfyddydau creadigol a’r diwylliant Cymreig, dau beth sy’n agos iawn at fy nghalon.
“Mae hwn yn gyfle gwych i arddangos fy ngwaith, ac er bod y gwaith celf hwn yn ddarn personol iawn i mi, gobeithio y gall pobol ddod o hyd i’w hystyr eu hunain ynddo.”