Yn dilyn penodi’r awdur a dramodydd Nia Morais yn Fardd Plant Cymru, mae trafodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch beth yn union yw bardd.
Daw’r drafodaeth ar ôl i Karen Owen bostio neges ar Facebook.
“Does affliw o ots gen i am ethnigrwydd, rhywedd na chred… ond dw i YN meddwl y dylai Bardd Plant Cymru fod yn ‘fardd’,” meddai yn y neges.
Mae Nia Morais yn olynu Casi Wyn yn swydd Bardd Plant Cymru ar gyfer 2023-25, a’i phrif amcan yw sicrhau bod rhagor o gyfleoedd i blant a phobol ifanc drafod ac ysgrifennu am bynciau sy’n agos at eu calonnau, meddai wrth golwg360 yn dilyn ei phenodiad.
Mae ganddi brofiad o weithio gyda phlant, ar ôl gweithio yn gymhorthydd yn Ysgol Hamadryad yng Nghaerdydd, ac ar hyn o bryd mae’n Awdur Preswyl gyda Theatr y Sherman, ac mae ei drama lawn gyntaf, Imrie, ar daith o gwmpas theatrau Cymru gyda Chwmni’r Frân Wen a Theatr y Sherman hyd at Fehefin 16.
Yn ei gwaith, mae hi’n hoffi ymdrin â themâu fel hunanddelwedd, iechyd meddwl, a hud a lledrith.
‘Dim digon o brofiad’
Ymgeisiodd Nia Morais am y swydd dair blynedd yn ôl, ond mae’n cyfaddef nad oedd ganddi ddigon o brofiad bryd hynny, ond ei bod hi’n gwybod ei bod hi eisiau gweithio gyda phlant a barddoniaeth.
“Mae gweithio gyda phlant yn bwysig i fi, achos mae hi’n bwysig magu eu hunanhyder nhw,” meddai. “Dyna rydw i’n hoffi ei wneud.
“Dw i’n edrych ymlaen at allu teithio i gymunedau ac ysgolion gwahanol,” meddai’r llenor, sydd â Gradd Meistr o Brifysgol Caerdydd mewn Ysgrifennu Creadigol.
“Dw i mo’yn gweld beth mae’r plant yn angerddol drosto fe, a beth maen nhw mo’yn i fi ei gynrychioli iddyn nhw.
“Dyna beth ydy fy rôl i – gweld beth sy’n eu diddori nhw a’u helpu nhw i fagu eu lleisiau a’u pŵer nhw.”
Ychwanegodd ei bod hi’n awyddus i weld plant yn “chwarae o gwmpas gydag iaith”, a’i bod hithau’n “hoffi creu geiriau newydd gyda phlant”.
A ddylai Bardd Plant Cymru fod yn fardd?
Mae neges Karen Owen, sydd bellach wedi’i chau i ragor o sylwadau, wedi denu degau o ymatebion.
Yn ôl Cris Dafis, colofnydd Golwg, “yr ymgeisydd gorau ar gyfer y gwaith a benodwyd”.
Mae ei neges yn egluro’r broses benodi, ac yna’n gofyn, “Os na all droi ei llaw at gywydd neu awdl, dyw hi ddim yn haeddu cael ei galw’n fardd…”
Mewn neges arall, dywed y byddai’n well ganddo “wrando ar [gerdd fideo gan Nia Morais] nag ar Dalwrn y Beirdd”, gan ychwanegu, “Pawb at y peth y bo. Parched gwahaniaeth”.
Llenyddiaeth Cymru sy’n cyhoeddi Bardd Plant Cymru, ac yn ôl y Cyfarwyddwr Artistig Leusa Llewelyn, “mae Nia yn fardd ac yn lenor arbennig iawn, ac mae plant Cymru’n lwcus iawn o’i chael fel Bardd Plant dros y ddwy flynedd nesaf”.
Mae Sioned Erin Hughes, enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 2022, yn gofyn, “Oes yna ddiffiniad absoliwt o fardd yn bod?”
“Dw i ddim yn gallu cynganeddu a does gen i ddim syniad am reolau ond dwi’n caru sgwennu cerddi, a dwi’n sgwennu rhai yn gyson.
“Ydw i’n cael galw fy hun yn fardd?
“Ac os ydw i, dwi ddim yn dallt pam nad ydi Nia Morais yn cael hefyd a hithau’n amlwg yn barddoni o’r fideo uchod o gerdd hyfryd sgwennodd hi.
“Dwi fy hun yn methu aros at weld be ddaw ganddi.”
Mae bardd arall, Llŷr Titus, yn “annog unrhyw un sydd ddim yn gyfarwydd â’i gwaith hi i gael golwg arno fo yn enwedig felly cyn datgan barn ar ei phenodiad hi”.
Mae eraill yn cyfeirio at rai o Feirdd Plant Cymru’r gorffennol nad ydyn nhw chwaith yn feirdd, gan gynnwys Anni Llŷn, Dewi Pws, Caryl Parry Jones a Casi Wyn.
Y rôl “yn lot, lot mwy na beth mae’r bardd yn sgwennu”
Yn ôl Casia Wiliam, cyn-Fardd Plant Cymru, doedd hi ddim yn ystyried ei hun yn fardd pan gafodd hithau ei phenodi.
“Do’n i ddim wedi cyhoeddi dim, nac yn adnabyddus fel bardd,” meddai.
“Ac mae’n siŵr y basa llawer un yn dweud na wnes i sgwennu dim o werth tra’r o’n i yn fardd plant, ond mi ges i athrawes yn crio efo fi amser chwarae, yn methu coelio bod un hogyn bach oedd wedi ei faethu wedi sgwennu cerdd am ei chwaer yn y sesiwn, ac yntau heb ddweud gair wrth neb am ei deulu ers cyrraedd yr ysgol.
“A mi ges i athro yn ysgwyd llaw efo fi ar ddiwedd sesiwn, ar ôl i holl ‘hogiau drwg’ y dosbarth godi o flaen y dosbarth i ddarllen eu cerddi yn falch, ac yntau wedi dweud ‘chei di’m byd allan o hein’ ar ddechrau’r sesiwn.
“Mae hyd a lled y cynllun yma yn lot, lot mwy na beth mae’r bardd yn sgwennu.”