Dros y pedair blynedd diwethaf, rwy’ wedi bod wrthi o ddifri yn creu gyrfa i fi fy hun fel bardd, llenor ac artist llawrydd. Mae cyflwyno fy hun fel hyn mewn sawl cyd-destun wedi bod yn brofiad diddorol, os hefyd yn un rhwystredig, heriol a chas, wrth i bobol ymateb mewn nifer o ffyrdd hynod o nawddoglyd… trwy gyfrwng y Gymraeg.
Peidiwch â ‘nghamddeall i chwaith, rwy’ wedi bod yn barddoni ers i mi ddysgu sgwennu, ac rwy’ wedi ystyried fy hun yn fardd ers i mi sgwennu fy ngherdd weddus gyntaf, ’nôl yn fy bedsit yng Nghoedpoeth yn 1997. Ond roeddwn wastad hefo rhyw agwedd arall o’m hunaniaeth oedd yn fwy pwysig wrth gyflwyno fy hun – myfyriwr, ymchwilydd, darlithydd; roedd barddoni yn rywbeth roeddwn yn ei wneud ‘yn fy amser sbâr’.
Mewn ffordd, mae fy ngyrfaoedd wedi cyfnewid nawr – er fy mod yn dal wrthi’n datblygu fy sgiliau academaidd, ac yn sgwennu penodau ac erthyglau i gyfnodolyn, mae hyn yn fwy o hobi erbyn hyn, tra bod trwch fy ngwaith bara menyn yn gysylltiedig â’r sector creadigol tu hwnt i’r tŵr ifori.
Mae fy mhrofiadau wedi cynnwys cyhoeddi cyfrolau a phamffledi, sgwennu cerddi comisiwn, gweithio hefo plant fel ymarferydd creadigol, paratoi libreto, ysgrifennu storïau i blant, a bod yn aelod o breswylfeydd cydweithredol i feirdd ac artistiaid. Rwy’n cael fy nodi ar wefan Barddas fel un o ‘feirdd Barddas’ a hynny ers i mi fod yn ‘Fardd y mis’ ’nôl yn 2021, ac yna dechrau sgwennu fy ngholofn yn y cylchgrawn.
Mae ymateb dirmygus sawl un, felly, pan rwy’n galw fy hun yn ‘fardd’, braidd yn ddryslyd.
Clwb cynganeddwyr yn unig?
Un esboniad posib yw’r syniad fod ‘bardd’, yn yr ystyr Cymraeg a Chymreig, yn rywun sy’n cynganeddu yn eu gwaith. Yn wir, des i ar draws y farn hon yn ddiweddar o ffynhonnell oedd braidd yn annisgwyl – fideo o Dave Edwards, Datblygu yn siarad.
Synnais wrth i’r lyricist gwrthdroadol, gwrth-sefydliad fynegi’r farn fod ei lyrics ddim yn farddoniaeth, gan fod y gair ‘barddoniaeth’ yn ddisgrifiad o waith pobol fel Ceri Wyn Jones – pobol sy’n cynganeddu.
Mae’n debyg fod llawer iawn o bobol yn rhannu’r barn yma, ac i raddau dwi’n deall, yn enwedig os ydyn nhw wedi bod wrthi’n dysgu’r grefft o gynganeddu ers blynyddoedd, ac felly yn gweld eu hunain yn fwy teilwng o’r teitl ‘bardd’ na rhywun fel fi sy’n dueddol o sgwennu’n benrhydd (shock horror!).
Ond, onid ‘cynganeddwyr’ fyddem yn eu galw nhw, tybed? Ac os na – ac rydym yn derbyn y syniad taw dim ond beirdd sy’n cynganeddu sy’n medru honni bod yn ‘feirdd’ trwy gyfrwng y Gymraeg – onid oes angen term arall, felly, i’n disgrifio ni sy’n sgwennu ‘poems‘ sydd ddim yn cynganeddu, trwy gyfrwng y Gymraeg?
A sylwch ar beth sydd wedi digwydd fa’ma – rwy’ wedi gorfod defnyddio’r gair Saesneg i ddisgrifio fy ngwaith, er mwyn osgoi sarhau pawb wrth alw fy hun yn ‘fardd’; ond heb air Cymraeg addas, dyma’r unig opsiwn.
Achos, dwi’n eithaf sicr fod fy ngwaith yn cyfateb i’r gair Saesneg poetry, megis gwaith fy modelau rôl: Tishani Doshi, Sylvia Plath, Ted Hughes, Benjamin Zephaniah, Carol Ann Duffy, Patience Agbabi… ac yn wir, yn y Gymraeg, Aled Lewis Evans.
Ond rwy’n hapus i ddefnyddio gair amgen Cymraeg, os oes rhywun eisiau cynnig un?
Ddim yn ‘brifardd’ a tu hwnt i’r sefydliad
Flynyddoedd yn ôl, mi wnes i geisio cystadlu mewn Eisteddfodau bach lleol, ac hefyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae yna sawl reswm na fydd hyn byth yn opsiwn priodol i mi, mewn gwirionedd – Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), bod o gefndir dosbarth gweithiol o’r gogledd-ddwyrain, a chyfnod o fod yn ddigartref (fedrwch chi enwi ‘bardd’ hefo’r proffeil yma tybed?), fy mhenderfyniad i sgwennu am y themâu hyn, ac fy mod yn gwrthod cydymffurfio; medraf gyfleu’r broblem trwy ddyfynnu lyrics P!nk:
“LA told me,
you’ll be pop star,
all you have to change,
is everything you are”
Wel, dim diolch, ynde! Dwi ddim eisiau dysgu sgwennu fel eisteddfotwr er mwyn cael fy nerbyn – caf fy nerbyn fel fi, a fy arwyr, neu ddim o gwbl.
A thra rydan ni wrthi’n trafod lyrics – pam nad yw’r gair sy’n cyfateb i lyrics yn y geiriadur, sef ‘telyneg/-ôl/-ŵr/-fardd’ yn cael ei dderbyn fel cyfieithiad? Anffodus yw fy mod yn gorfod defnyddio’r gair lyrics fa’ma. Ia, ‘geiriau caneuon’, ond mae lyrics yn well na song words, dydych chi ddim yn meddwl?
Ac ia, wedi hunangyhoeddi fy marddoniaeth ydw i, ac na, dwi heb gael fy nerbyn i gynllun ‘Cynrychioli Cymru’ na’i debyg. Ond felly rwy’ wedi llwyddo i greu fy mhamffled diweddaraf heb yr un grant, cymorth golygydd, na buddion eraill y sefydliad… onid yw hynny’n ganmoliadwy, tybed?
Ar gael nawr: Trawiad/ Seizure, pamffled o poetry.