Enillydd Gwobr Arbennig y Prif Weinidog yng Ngwobrau Dewi Sant 2023 yw Gillian Clarke.

Cafodd y bardd a’r awdur ei dewis gan y Prif Weinidog oherwydd ei chyfraniad nodedig i’r celfyddydau, llenyddiaeth a diwylliant yng Nghymru.

Daw yn wreiddiol o Gaerdydd, ond mae hi bellach yn byw yng Ngheredigion.

Mae ei gwaith wedi bod yn rhan o faes llafur arholiadau TGAU a Lefel A ers dros 30 mlynedd.

Bu’n Fardd Cenedlaethol Cymru rhwng 2008 a 2016, enillodd Fedal Aur y Frenhines am Farddoniaeth yn 2010, ac enillodd Wobr Wilfred Owen yn 2012.

Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru sy’n cydnabod pobol sydd wedi gwneud pethau rhyfeddol.

Eleni, cafodd pobol oedd wedi’u noddi gan y cyhoedd eu gwobrwyo mewn categorïau fel dewrder, busnes ac ysbryd gymunedol.

Eleni oedd degfed blwyddyn y Gwobrau, a chafodd tlws newydd ei wedd ei gyflwyno i’r enillwyr, wedi’i wneud gan yr arlunydd ceramig Daniel Boyle o Geredigion.

Cafodd yr enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.

‘Ystod neilltuol o gryf’ ar y rhestr fer

“Roedd yn wych cael croesawu’r bobol oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol i’r seremoni i ddathlu’u llwyddiannau,” meddai Mark Drakeford.

“Maen nhw oll yn bobol y dylid eu llongyfarch am eu cyfraniad at fywyd Cymru.

“Eleni, roedden ni’n dathlu degfed pen-blwydd y gwobrau gydag ystod neilltuol o gryf arall i ddewis ohonyn nhw.

“Mae’n holl enillwyr yn bobol sydd wedi gwneud pethau mawr, naill ai trwy fod yn ddewr, yn arloesol neu yn benderfynol eu cyfraniad at eu cymuned.

“Hoffwn longyfarch Gillian Clarke am ei chyfraniad anhygoel dros y degawdau i lenyddiaeth a barddoniaeth Cymru.

“Mae iaith mor bwysig i ni yng Nghymru.

“Mae bod yn wlad lle siaredir dwy iaith bob dydd yn golygu mai geiriau sy’n ein diffinio, fel unigolion ac fel gwlad.

“Dyna’r rheswm pam y bu gan feirdd le mor bwysig yn ein hanes.

“Mae gwobr heddiw yn ffordd o ailddatgan hynny yn y Gymru gyfoes, trwy anrhydeddu un o feirdd mwyaf blaenllaw fy oes.

“Mae gwaith Gillian Clarke yn costreli harddwch, grym a chlymau ein bywyd.

“Mae’n anrhydedd cael cynnig y wobr hon iddi.”

‘Mawr oedd fy syndod’

“Mawr oedd fy syndod pan glywais mod i wedi ennill y wobr hon, ond rwy’n neilltuol o hapus mai Mark Drakeford sy’n ei rhoi i mi,” meddai Gillian Clarke.

“Mae’n dda iawn gwybod bod gennym Brif Weinidog sy’n trysori barddoniaeth.”

Dyma’r holl enillwyr:

Dewrder: Hari Thomas a Dylan Pritchard-Evans

Busnes: Cȃr-y-Môr

Ysbryd y Gymuned: Nawdd De Cymru dros Wcráin

Gweithiwr Allweddol: Uned Lleihau Niwed, Huggard

Diwylliant: Unify

Pencampwr yr Amgylchedd: Andy Rowland

Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg: CanSense

Chwaraeon: Olivia Breen

Person Ifanc: Skye Neville